Mae'n arfer bellach i ni gael noson o berfformio gan ddoniau ifanc yr ardal. Maent wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn yn cael gwahoddiad i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd a chael y profiad arbennig o actio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. Mae rhai o'r cwmni yn actio a dawnsio gyda grwpiau yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a chael bod yn rhan yn y sioe gerdd 'Oliver' yn ystod yr haf. Bu Lisa Healy, Sian Price, a Rhian Dobson yn cystadlu yng ngwyliau drama Corwen a Phontrhydfendigaid - cael y wobr gyntaf yng Nghorwen a chroeso mawr; trydydd yn y Bont a Lisa yn cael y wobr am y brif actores o dan 25. Mae'r merched a Rhodri Evans yn llwyddianus mewn Eisteddfodau o gwmpas Cymru a chafodd Rhodri y wobr gyntaf am yr unawd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd y noson yn cynnwys amrywiaeth o actio, a cherdd, dawns a llefaru. Bydd yn noson hwyliog, sionc. Dewch i gefnogi y perfformwyr ifanc. Gwelwn chi yno! Noson o adloniant gan Gwmni ifanc Licris Alsorts yn Neuadd Rhydypennau Ionawr 13 am 7.30 y.n.
 |