成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Mistar Urdd ar faes yr Eisteddfod yn Rhuthun Penblwydd Hapus Mistar Urdd!
Mehefin 2006
Hanes un o gymeriadau enwoca'r fro wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 30 oed.

Llongyfarchiadau i un o blant enwoca'r fro ar ddathlu ei ben blwydd yn 30 oed. Ar noson dywyll yn y flwyddyn 1976, ym mhlwyf Genau'r-glyn, yng nghysgod Castell Gwallter gyda s诺n y tylluanod yn y goedwig, yno, mewn perllan y ganwyd Mistar Urdd.

Disgynodd cwmwl tywyll du ar fudiad yr Urdd o ganlyniad i urddo'r Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon ym 1969. Ond, o'r diflastod daeth bywyd newydd mewn gonc a fu'n gyfrwng i lonni bywyd sawl cenhedlaeth o blant Cymru, a'i enw - Mistar Urdd.

Yn 么l ei dad Wynne Melville Jones, Y Berllan, Llanfihangel Genau'r-glyn, a oedd ar y pryd yn Swyddog Cyhoeddusrwydd yr Urdd, roedd yr Arwisgo wedi achosi rhwyg enfawr o fewn yr Urdd gyda'r to h欧n yn bennaf yn awyddus i'r mudiad dderbyn gwahoddiad i fod yn rhan o'r achlysur tra roedd y mwyafrif o'r ieuenctid yn gweld y Mudiad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stynt wleidyddol ac yn gryf yn erbyn.

"Fy ngwaith i oedd datblygu syniadau ar gyfer hyrwyddo a phoblogeiddio'r mudiad ac roedd hi'n anodd am fod y moral mor isel", meddai.

"O edrych ar fathodyn yr Urdd y noson dywyll honno rown i'n meddwl ei fod e'n edrych braidd yn ddiflas a boring hyd nes rhoies i w锚n arno, ac o'r foment honno fe ddaeth y cymeriad yn fyw gyda dau lygad, trwyn, breichiau a choesau".

Fe gafodd Mistar Urdd groeso mawr o'r diwrnod cyntaf a'r dasg wedyn oedd mynd ati i gynhyrchu nwyddau a throi seler Swyddfa'r Urdd yn weithdy i greu pob math o nwyddau, crysau, sticeri, bathodynnau hetiau ac amrywiaeth mawr o bethau eraill.

Cymaint fu'r galw fel y bu'n rhaid symud yn fuan i ffatri barod ar stad ddiwydiannol Glanyrafon yn Llanbadarn ac agor siop yn Aberystwyth i ddelio gydag archebion post.

Atgyfodwyd y syniad o grysau nos Cymreig gyda llun Mistar Urdd ar bob un ac roedd y rhain yn cael eu gwneud wrth y miloedd mewn cartrefi yn yr ardal hon o dan arweiniad Medi James Tal-y-bont.

Roedd y goncs yn cael eu stwffio ar glos fferm ym mhentre' Lloyney ger Trefyclo ym Mhowys lle'r oedd gwraig y fferm yn cyflogi gwragedd y ffermydd cyfagos i gynhyrchu'r teganau meddal mewn fflyd o garafannau statig ar y fferm.

Daeth c芒n Mistar Urdd i frig y siartiau ac roedd nwyddau Mistar Urdd mewn miloedd lawer o gartrefi ledled Cymru a thu hwnt. Recordiwyd c芒n arall gan Ray Gravell "Y fi a Mistar Urdd a'r Crysau Coch" ac roedd pawb yn ffrind i r cymeriad bach bywiog.

Un o'r nwyddau mwyaf poblogaidd a ysbrydolodd un o ganeuon y Super Furry Animals oedd tr么ns Mistar Urdd, rhai bechgyn a rhai merched. Bu'r rhain yn ddigon i Mistar Urdd gael ei anfon adre o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen un flwyddyn yn y saithdegau am nad oedd trefnwyr yr 诺yl yn teimlo eu bod yn gynnyrch priodol i'w gwerthu yno. Mae s么n bod llawer o gewri'r genedl yn dal i'w gwisgo heddiw!

Roedd hi'n ddiwrnod mawr iawn pan ddaeth Mistar Urdd yn fyw mewn seremoni enfawr ym mhafiliwn Gerddi Soffia yng Nghaerdydd ac wedyn mynd ar daith ledled Cymru. Fe gafodd Mistar Urdd deithio mewn steil mewn Range Rover o eiddo Meirion Jones, Moduron Meirion, Aberystwyth.

Pwrpas bodolaeth Mistar Urdd oedd ennyn cyhoeddusrwydd a chodi brwdfrydedd ymhlith plant a phobol ifanc Cymru. Yn 么l ei dad, bwriad gwreiddiol y cynllun oedd cynnal ymgyrch am gyfnod o dair blynedd am mai dyna a dybiwyd oedd oes cymeriad o'r fath, "Feddyliais i erioed y byddai mor fyw ag erioed yn 30 oed", meddai.

Bu Mistar Urdd fwy nag unwaith yn gyfrwng codi calon y mudiad a bu'n allweddol eto pan darodd y Clwy' Traed a'r Genau yr Urdd ychydig flynyddoedd yn 么l ac unwaith eto y cymeriad tri lliw aeth ar daith trwy Gymru i ail gydio yng ngweithgaredd y mudiad.

Ers hynny mae Mistar Urdd wedi hedfan trwy'r gofod gyda'r gofodwr o dras Gymreig Dafydd Rhys Williams a gafodd ei fagu yng Nghanada pan aeth a gonc yn gydymaith iddo trwy'r gofod ym 1998.

Mae'r cymeriad bach tri lliw wedi teithio'n bell o blwy Genau'r-glyn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy