Gallai arbrawf i gludo coed o Aberystwyth i felin yn y Waun, ger Wrecsam ar y rheilffordd, chwyldroi'r diwydiant coed yng Nghymru, a gallai fod o fudd mawr i'r amgylchedd gan y byddai'n lleihau nifer y lor茂au coed ar ein ffyrdd. Daeth yr arbrawf pum wythnos, a ddechreuodd ddydd Mawrth, 8 Mawrth, i ben yn ddiweddar, pan fu aml uned nwyddau, sy'n cario wyth llond lori o goed wedi'i gynaeafu o goedwigoedd canolbarth Cymru, yn dilyn y tr锚n teithwyr Sprinter oedd yn gadael Aberystwyth am 11.32am. Roedd hyn o gysur mawr i fodurwyr oedd wedi arfer cael eu dal y tu 么l i lor茂au coed. Yn ystod yr arbrawf, cludwyd tua 4,500 tunnell fetrig o goed, sy'n cyfateb i 180 llond lori, o Aberystwyth i felin Kronospan yn y Waun, gogledd Cymru, 75 milltir i ffwrdd. Mae'r felin yn cynhyrchu byrddau sglodion, byrddau MDF a barrau. Gyda phedair lori yn llwytho ar yr un pryd, cymrodd hyd at dair awr i lwytho pob tr锚n, oedd yn mesur mwy na 300 troedfedd o hyd. Roedd pob tr锚n yn cario 200 tunnell fetrig o goed, ac yn gwneud pum taith bob wythnos. Bydd adolygu ar y sefyllfa yn awr, ac os bu'r arbrawf yn llwyddiannus, mae'n bosibl y bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn gwneud cais i'r Awdurdod Rheilffordd Strategol am Grant Cyfleusterau Cludo Nwyddau am gyfnod o bum mlynedd.
 |