(Llun: Tom James o gapel Bangor o flaen panel Coffa Vivian Jenkins yn y Ganolfan Addysg newydd yng Ngholeg Llanymddyfri. )
Do, fe greodd argraff ar y rheolwr Terry Cobner, a oedd yn sgowtio yng nghlos Tredegar Llanymddyfri!
Mae Tom yn gyn-ddisgybl Ysgol Pen-llwyn, ac yn mynychu Coleg Llanymddyfri ers pan yn un-ar-ddeg oed.
Dewisiwyd of ar of perfformiadau da i'r coleg ac i Scarlets Llanelli o dan ddeunaw, ac y mae yn aelod o Glwb Rygbi Tref Llanymddyfri. Enillodd Tom hefyd ysgoloriaeth o fri, sef
ysgoloriaeth rygbi Vivien Jenkins gyda'r 'Porthmyn'. Llongyfarchiadau mawr iddo, a dymuniadau gorau'r fro yng ngemau'r dyfodol. Pwy a wyr, y byddwn ryw ddiwrnod yn trefnu bws i fynd i'w weld yn chwarae i'w wlad.
 |