Pan oeddwn i'n fachgen bach un o bleserau mawr bywyd oedd darllen llyfrau Tintin. Pan oedden ni fel teulu ar wyliau yn Ffrainc fe ges i gopi o lyfr nad oedd ar gael yn Saesneg na Chymraeg ar y pryd sef Tintin au Congo. Fe benderfynais i gyfieithu'r llyfr yma i'r Gymraeg - ond gan sylweddoli nad oedd fy Ffrangeg cweit lan i r job eto fe ohiries i'r gwaith am y tro. Ond roedd fy niddordeb mewn ieithoedd wedi ei danio.
Yn ddigon rhyfedd, wrth i fi wneud TGAU, Almaeneg oedd yn fwyfwy mynd am bryd. Ac ar 么1 gorffen Lefel A fe benderfynais i fynd i astudio'r iaith yn Abertawe. Wel dyna chi sioc i'r system. Dyw e ddim yn lle pert nawr, yw e? A dyw c'n sicr ddim mor posh a Penrhyn-coch.
Chi methu mynd mas am beint bach tawel heb ddod ar draws criw o fois mawr cyhyrog yn eu crysau swanc a merched wedi gwisgo lan fel bunnies yn downo shots a sgrechian dros bob man. Ar 么1 dwy flynedd o wersi gramadeg a kebabs ffeina St. Helen's Road r'on i'n barod am newid.
Os chin meddwl bo' fi 'di cael tamed bach o raw deal yn astudio yn Abertawe allai eich arghoeddi chi fy mod i wedi cael fy nigolledu drwy gael mynd i W眉rzburg ym Mafaria am flwyddyn. Tref hudol 芒 chant o dyrrau eglwys o dan olwg castell ar y bryn. A mae 'na balas anferth yno, lle roedd yr Esgob-Dywysog
yn arfer twyllo mewn g锚mau cardiau drwy edrych yn y drych oedd to 么1 i'w wrthwynebwyr.
Ond yn fwy na hyn i gyd beth o'n i'n joio mwy na dim oedd y gwanwyn yno. Yn y gwanwyn mae'r Almaenwyr i gyd yn mynd yn wallgo' am asbaragws.
Ma yna stondinau ym mhob man yn gwerthu'r Spargel ffres ac mae gan bob t欧 bwyta fwydlen arbennig, y Spargelkarte, yn cynnig pob math o amrywiaeth ar y thema asbaragws.
A heb air o gelwydd, tua diwedd Mehefin, yn eistedd ar y tram ar y ffordd adref un dydd, fe glywes i hen fenyw yn dweud mewn llais digon digalon, 'Spargelzeit ist vorbei' - mae tymor yr asbaragws wedi dod i ben.
Erbyn hyn fi n么1 yn Abertawe ymysg y bunnies ac yn ddigon hapus fy myd. Ond mae'na lais bach yn gofyn bob nawr ac yn y man pryd 芒 I n么l? Ydw, fi'n gweld colled yr asbaragws 'na.
Erthygl gan Seiriol Dafydd, Rhandir, Penrhyn-coch sy'n fyfyriwr ymchwil yn Adran Almaeneg Prifysgol Abertawe.
 |