成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Tincer
Caryl Lewis, Luned Emyr a staff Y Lolfa yn dathlu llwyddiant Caryl. Iawn Boi
Mawrth 2004
Mi gafodd nofel gyntaf Caryl Lewis, Goginan, Dal Hi, nofel i oedolion am helyntion t卯m merched tynnu rhaff dderbyniad arbennig o ffafriol gan adolygwyr a'r cyhoedd.

Eto i gyd ni chafodd yr un amlygrwydd 芒'i hail nofel sef lawn Boi. Llongyfarchiadau i Caryl ar gipio Gwobr Tir na n-Og eleni am ei nofel i ddisgyblion ysgolion Uwchradd.

Catrin yw prif gymeriad lawn Boi, merch sy'n byw ar fferm gyda'i mam, ei brawd h欧n Gareth, ond mae ei thad yn byw gyda nhw. Mae Mam-gu sy'n gymeriad diddorol, ecsentrig a dweud y gwir, yn dueddol o fod yn anghofus, ond eto i gyd yn cofio pob dim pan fo hynny o les iddi hi. Mae ei ffrind gorau Mererid, mewn cariad 芒 Rhodri ac wrth gwrs mae Catrin hefyd yn ei ffansio. Disgybl chweched dosbarth yw Rhodri, 'Hot Rod; secs on legs, tin fel dwy daten mewn bag' ac mae'n berchen ar passion wagon, car y bydd Catrin a Mererid wrth ei bodd yn cael lifft ynddo.

Gosododd Caryl y nofel mewn cyfnod pan fo Catrin a Mererid yn paratoi ar gyfer arholiadau TGAU, hen gyfnod digon anodd a rhwng popeth yn gyfnod helbulus iawn i'r ddwy ferch.

Mewn adolygiad ar , mae Gareth William Jones yn annog chi ddarllenwyr ifanc i ddarllen y nofel.

Dywedodd: "Mi gewch hwyl wrth ddarllen am helyntion y merched yn mynd i barti, yn sefyll arholiadau ac yn caru ar y we. Rwy'n meddwl fod Caryl Lewis wedi bod yn glyfar iawn ac wedi llwyddo i gyflwyno thema bwysig heb ei gwneud yn or-amlwg. Mae nifer o'r cymeriadau yn y nofel hon yn wynebu newid yn eu bywydau ac nid yw'r newid bob amser yn un er gwell. Dyma nofel y gallwch chi ei mwynhau o ran stori yn unig neu, os ydych chi fel fi am weld rhywbeth mwy ynddi, yna mae cyfle i wneud hynny hefyd."

Croeso Caryl i fro'r Tincer. Gwyddom ei bod hi bellach yn awdur proffesiynol, felly mae ennill y wobr wedi bod yn hwb ardderchog iddi. Rydyn ni wedi clywed si hefyd bod nofel araf ganddi ar y gweill. Pob hwyl iddi ac rydyn ni'n si诺r bod ei darllenwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei nofel nesaf. Enillydd y llyfr gorau ag eithrio ffuglen yng Ngwobrau Tir Na nOg eleni yw Gwyn Thomas a Margaret Jones (Capel Bangor) am y gyfrol liwgar Stori Dafydd ap Gwilym (Y Lolfa) a adolygwyd yn rhifyn Chwefror o'r Tincer.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy