|  |
 |
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol Cynyrchiadau cyntaf Cwmni Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru
Mae'r gwaith a wnaed gan Gwmni Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru wedi ei ganmol gan actor sy'n un o s锚r y West End.
Wrth i'r cwmni gychwyn ar daith 2007 ar ei newydd wedd dywedodd Daniel Evans i'r profiad a gafodd ef yn aelod o'r cwmni fod yn hynod werthfawr iddo.
"Bues i yn ffodus i fod yn rhan o Gwmni Ieuenctid yr Urdd ddwywaith. Bues i yn y cynhyrchiad Chicago yn 1986 a Godspell , 1991.
"Fe wnes i elwa cymaint o'r profiad - wn i ddim lle mae dechrau! Ces i gwrdd 芒 phobl newydd o wahanol ardaloedd, teithio i'r ardaloedd hynny i berfformio a gweithio ar ddeunydd da," meddai.
"Rhoddodd flas imi o'r hyn rwy'n ei fwynhau am fod yn actor hyd heddiw sef cael bod yn rhan o gwmni, bod yn griw, ac yn rhan o d卯m. Mae'r ymddiriedaeth, yr hwyl, y difrifoldeb, yr ymarferion a'r cyfan yn cyrraedd uchafbwynt mewn un cynhyrchiad cyflawn, crwn," ychwanegodd.
Er i'r cwmni a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1973 beidio a bod am gyfnod cafodd ei ail sefydlu fis Hydref 2006 yn dilyn y ganmoliaeth a dderbyniodd cynhyrchiad o Les Miserables yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, 2005.
Ar gyfer 2007 trefnwyd tri chynhyrchiad newydd mewn gwahanol rannau o'r wlad: Rhagor am daith 2007 Cwmni Theatr ieuenctid yr Urdd
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Les Miserables

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|
|