|  |
 |
Migrations Bydd cwmni dawns arbrofol a chyffrous yn perfformio yn Galeri Caernarfon Hydref 9.
Cafoddd Migrations ei ddechrau gan Wasanaethau Celf Conwy yn 2004, gyda Karine Decorne yn guradur.
Eleni lluniwyd prosiect mewn partneriaeth 芒 Galeri, Oriel Mostyn, Dawns i Bawb, R锚l Institiwt, Theatr Gwynedd a Chanolfan Gelf Chapter.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant ysgubol ei dymor cyntaf y llynedd ac fe gyflwynir cyfres newydd o ddigwyddiadau dawns gyfoes sy'n cyflwyno gwaith artistiaid rhyngwladol o'r radd flaenaf.
"Bwriad Migrations yw dod ag enwau mawr o lwyfan dawns gyfoes rhyngwladol i gyd-destun lle mae'r ffurf hon o gelf wedi ei than gynrychioli," meddai llefarydd.
"Dymunwn gyfrannu at ddatblygu cynulleidfa ddawns, gan weithio ochr yn ochr 芒 chanolfannau perfformio a sefydliadau dawns yn yr ardal a rhoi Gogledd Cymru ar y map fel lle i artistiaid dawns rhyngwladol o fri ddod," ychwanegodd.
"Y tymor hwn, rydym yn cyflwyno perfformiadau gwrthgyferbyniol, sy'n cynnwys tri pherfformiad cyntaf yn y D.U., a chyfres o ffilmiau dawns ochr yn ochr 芒 gweithdai i ysgolion a dawnswyr proffesiynol," meddai.
Bydd y cyflwyniad yn galeri yn cychwyn am 6.30
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|
|