|  |
 |
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith? Darlith a symposiwm yn sgil drama
Oes yna'r fath beth a pherthynas arbennig rhwng Cymru ac Iwerddon - rhwng Cymry a Gwyddelod?
Dyna'r cwestiwn fydd yn codi o ddarlith a symposiwn yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd.
Trefnir y digwyddiad ddydd Sadwrn, Tachwedd 18, 2006 yn sgil drama Gymraeg-Gwyddeleg-Saesneg gan gwmni drama Llwyfan Gogledd Cymru - drama yn ymwneud 芒 charwriaeth rhwng Cymraes a Gwyddel.
Bydd y ddrama ei hun i'w gweld yno Tachwedd 14-15 a'r ddarlith fydd diweddglo wythnos o ddathlu cysylltiadau Celtaidd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Gwahoddwyd pobl fusnes ac ysgolheigion blaenllaw i wrando ar ddarlith a draddodir gan y darlledwr a'r awdur, Arwel Ellis Owen a dreuliodd dair blynedd ym Melfast yn yr Wythdegau pan yn bennaeth rhaglenni 成人快手 Gogledd Iwerddon.
Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth i adnabod bywyd, diwylliant a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth yn dda.
Gan elwa ar y profiad hwnnw bydd yn archwilio yn ei ddarlith "fytholeg a realiti'r berthynas hanesyddol a phresennol rhwng y ddwy wlad".
Mae Mr Owenhefyd yn hyfforddi newyddiadurwyr ym Moldova, India, Dubai a Norwy.
Panel trafod Gydag ef ar banel trafod bydd Colm McGrady, Prif Gonswl Iwerddon Yng Nghymru, Dr Claire Connolly o Brifysgol Caerdydd a Dr Paul O'Leary o Brifysgol Cymru Aberystwyth a fydd yn ymateb i'r ddarlith.
Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb hefyd.
Mae mynediad am ddim i'r digwyddiad yn Ystafell Japan am dri y prynhawn.
Bydd Llwyfan Gogledd Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng Tachwedd 14 ac 18 yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a darlleniadau barddoniaeth gan rai o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd, yn ogystal 芒'r perfformiadau o Branwen.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Branwen

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|
|