| |
|
Theatr freuddwydion Llwyfan i b锚l-droed
Adolygiad Catrin Jones o Theatr Freuddwydion. Llwyfan Gogledd Cymru. Galeri, Caernarfon. Ebrill 7, 2006
Ymdrin 芒 byd poblogaidd y b锚l gron mae cynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru a hanes cefnogwyr p锚l-droed o Gaernarfon yn ystod tymor llwyddiannus Manchester United yn 1999.
Dyma pryd yr enillodd y t卯m y trebl - y Gynghrair, Cwpan yr FA a'r Gwpan Ewropeaidd.
Dewi Rhys yw'r awdur ac mae'n ddiddorol gweld actor yn troi i fyd ysgrifennu gan mai dyma'r tro cyntaf iddo lunio drama hir.
Yn y rhaglen dywed mai ei fwriad oedd "anelu at greu darn o theatr gyffrous fyddai'n apelio at gynulleidfaoedd hen a newydd yn enwedig y rhai sy'n teimlo'n swil neu'n ddrwgdybus o fynychu'r theatr".
Creu profiadau theatrig Dywed ei fod yn credu'n gryf fod gan gwmn茂au theatr "gyfrifoldeb i feithrin hyn er mwyn creu profiadau theatrig sy'n berthnasol i bawb...dylai mynd i'r theatr fod yr un mor ddemocratig 芒 mynd i weld g锚m b锚l-droed".
Mae'n braf gweld ymdrech i ddenu cynulleidfa newydd ac ar noson gyntaf y cynhyrchiad yn Galeri, Caernarfon roedd llu o gefnogwyr p锚l-droed wedi dod i weld sut y byddai'r g锚m yn cael ei phortreadu ar lwyfan.
Pum cymeriad sydd yn y ddrama sef Gareth (Dyfrig Evans), cefnogwr Man U brwd, Elfyn (Llyr Evans) sy'n cefnogi Lerpwl, Osian (Iwan Roberts), Lois (Catrin Roberts) a Hannah (Lleuwen Steffan).
Mae'r ddrama'n dechrau wrth i'r criw gyrraedd y stadiwm yn Barcelona ar gyfer y g锚m fawr yn erbyn Bayern Munich yn1999.
Presennol a gorffennol Yn ystod y g锚m mae'r golygfeydd yn symud rhwng y presennol a'r gorffennol a chawn gipolwg ar eu bywydau personol.
Mae yma stori dda sy'n dangos nad yw pethau'n hawdd mewn bywyd go iawn, yn union fel ar y cae, ac mae'r ddau fyd yn cael eu gosod ochr yn ochr.
Mae Gareth wedi ymgolli'n llwyr yn ei hoff d卯m p锚l-droed, Man U, a does dim yn ei atal rhag mynd i'r gemau, hyd yn oed ymrwymiadau teuluol.
Er bod Lois ei gariad hefyd yn hoffi dilyn y t卯m mae'n teimlo'n rhwystredig yn aml o ganlyniad i obsesiwn (er y byddai rhai'n anghytuno 芒 hynny) ei chariad tuag at y b锚l gron.
Wrth ei bodd Gweithio yn y dafarn mae Hannah, ffrind Lois a chariad Osian.
Dyw hithau ddim yn gefnogwraig frwd ond eto caiff ei thynnu i fyd y g锚m o ganlyniad i ddynion y ddrama.
Mae Osian hefyd yn cefnogi Man U ond Lerpwl yw t卯m Elfyn ac mae sawl j么c wrth i Osian a Gareth edliw hynny iddo.
Roedd y gynulleidfa, nifer yn gefnogwyr Man U eu hunain, wrth ei bodd gyda hyn ac roedd digon o chwerthin wrth i Elfyn ac Osian wneud pob math o sylwadau am gefnogwyr Lerpwl.
Do cafwyd sawl j么c yn ymwneud 芒 Lerpwl a'r byd p锚l-droed ond roeddwn i'n teimlo fod lle i fwy o hiwmor cyffredinol ac o glywed yr un math o j么cs sawl tro roedden nhw'n colli eu heffaith.
Hefyd efallai y byddai mwy o hiwmor pe bai'r cymeriadau'n rhai cryfach.
Roedd cymeriadau'r dynion ,i>yn gryf a gwahaniaeth amlwg yn eu natur ond nid felly'r merched gyda'r ddwy yn eithaf tebyg. Gellid fod wedi datblygu'r rhain yn well.
Mae'n rhaid canmol perfformiad Dyfrig Evans roedd wedi camu i esgidiau ei gymeriad yn gwbl gyfforddus gan gynnal y cynhyrchiad.
Ambell i g芒n Roedd y cynhyrchiad yn cael ei ddisgrifio fel sioe gerddorol a chafwyd ambell g芒n gyda'r cymeriadau'n dawnsio ond doeddwn i ddim yn deall yn iawn beth oedd pwrpas hyn.
Roedd gweld y cymeriadau'n dawnsio'n drwsgl yn ddoniol ond heb gyfrannu dim at y stori na'r hyn oedd yn digwydd.
Roedd y set wedi ei chynllunio'n dda a'r llwyfan wedi ei osod fel eisteddle stadiwm gydag ambell i sedd goch yma ac acw ar wahanol lefelau.
Er mwyn cyfleu lleoliadau eraill fel y dafarn a'r t欧 fe fyddai'r cymeriadau'n symud i rannau gwahanol o'r llwyfan.
Er y gallai fod yn ddryslyd ar y dechrau ceisio dyfalu lleoliad yr olygfa, gan nad oedd props, fe ddes yn gyfarwydd 芒'r drefn ar 么l ychydig.
Roedd y ffaith fod eisteddle'r stadiwm yn hollbresennol ar y llwyfan yn ein hatgoffa mai'r b锚l-gron oedd yn gefndir i'r cyfan.
Dangos ffilm Yna ar ddiwedd yr ail hanner a'r g锚m fawr yn cyrraedd ei huchafbwynt disgynnodd llen o'r to ar ffurf rhwyd a ddefnyddiwyd sgr卯n i ddangos ffilm o'r g锚m rhwng Manchester United a Bayern Munich.
Roedd hyn yn hynod o effeithiol yn arbennig gan fod y llen yn dryloyw a'r cymeriadau i'w gweld yn neidio y tu 么l wrth wylio'r chwaraewyr ar y cae.
Roedd y cyfan yn cyfleu i'r dim gynnwrf diwedd y g锚m dyngedfennol.
Rhaglen hynod o wreiddiol Hefyd mae'n rhaid s么n am y rhaglen oedd wedi ei chynllunio mewn dull hynod o wreiddiol.
Roedd wedi ei llunio fel rhaglen i g锚m b锚l-droed gyda gair gan y cadeirydd (Nic Pari), rheolwr (Ian Rowlands), yr hyfforddwr (Dewi Rhys yr awdur) y ffisio (Roberta Clemente oedd yn gyfrifol am y coreograffi).
Yna roedd yr actorion a staff Llwyfan Gogledd Cymru wedi eu gosod fel dau d卯m - yr actorion yn nh卯m Manchester United a'r staff yn nh卯m Bayern Munchen.
Do, bu yma ymdrech i fynd 芒 ni'n llwyr i fyd p锚l-droed ac roedd hi'n braf gweld drama yn ymdrin 芒 phwnc gwahanol a chyfoes.
Er y gellid fod wedi datblygu'r cymeriadau'n well a bod angen mwy o hiwmor i gynnal y cynhyrchiad rhaid canmol yr ymdrech hon i ehangu ap锚l y theatr.
Fel ag y gwnaeth yng Nghaernarfon, dwi'n si诺r y bydd yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd newydd i theatrau eraill Cymru.
Y Daith Galeri, Caernarfon - 07-08/04/06 Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd - 11-12/04/06 Clwyd Theatr Cymru - 14-15/04/06 Theatr Ardudwy, Harlech - 19/04/06 Theatr Colwyn, Bae Colwyn - 24/04/06 Canolfan Celfyddydau Aberystwyth - 28/04/06 Neuadd Dwyfor, Pwllheli - 03/05/06 Theatr Gwynedd, Bangor - 04-06/05/06
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|