成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

成人快手 成人快手page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Golygfa o'r ddramaY Gobaith a'r Angor
Profiad theatrig yn atgof o . . . brofiad theatrig
  • Adolygiad Alwyn Gruffydd o Y Gobaith a'r Angor. Theatr Bara Caws. Galeri, Caernarfon, 27 Mawrth 2008.


  • Mae chwarter canrif a mwy erbyn hyn ers i mi weld The Iceman Cometh ar lwyfan mewn theatr yn Nulyn.

    Ond mae drama fawr Eugene O'Neill yn dal yn fyw yn y cof fel un a lwyddodd i gyfleu holl freuder dyn a hunan dwyll yr unigolyn gyda'i freuddwydion gwrach, bas, a chyfangwbl afreal.

    Profiad theatrig ysgytwol os y bu un erioed.

    Llifodd atgofion o'r profiad hwnnw'n 么l yn ystod noson gyntaf cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, Y Gobaith a'r Angor yn stiwdio orlawn Galeri, Caernarfon.

    Yn wir, mae'r tebygrwydd rhwng y ddwy ddrama yma'n drawiadol o ran eu cynnwys a'u cenadwri.

    Tafarn o'r un enw
    I ddechrau lleolir y ddwy ddrama mewn tafarn foel a di-raen gyda'r un enw hyd yn oed.
    Y Gobaith (a'r Angor) yw ei henw'n y naill ddrama a Harry Hope's Saloon yw ei henw yn y llall.

    Daw'r cwsmeriaid, fel rhai pob tafarn am wn i, o amrywiol gefndiroedd, gallu a barn ond yr hyn sy'n clymu'r criw digon anghydnaws, o'r ddwy ochr i'r bar, wrth ei gilydd yw eu caethiwed i'r dafarn ac i'w chargo.

    Fel yn The Iceman Cometh mae cymeriadau Y Gobaith a'r Angor hefyd yn treulio dydd ar 么l dydd yn gweld eu dyfodol drwy waelod y botel neu wydr peint.

    Twyllo eu hunain
    Maent yn eu twyllo eu hunain y daw tro ar eu byd ac y daw tr枚edigaeth wyrthiol fydd yn eu gwaredu o'u cyflwr truenus - man gwyn fan draw.

    Ond fel yn y naill ddrama a'r llall gohirir pob cam a menter tan yfory ... ac yfory wedyn.

    Maent yn disgwyl rhyw ddigwyddiad fydd mor enbyd nes eu sobri'n llythrennol ond hyd yn oed pan ddaw digwyddiad felly heibio maent yn ymateb drwy fwrw angor arall sy'n eu carcharu'n ddigyfnewid i'w bywydau di-werth.

    Yn y ddwy ddrama hefyd y mae yna un cymeriad sy'n fodlon wynebu realiti ac yn ceisio'n ofer ddarbwyllo'r gweddill o ffolineb eu bodolaeth ac anfradlondeb eu buchedd.

    Hickey yn The Iceman Cometh - Daniel yn Y Gobaith a'r Angor.

    Ac i goroni'r cwbl mae'r ddwy ddrama'n trafod effeithiau dinistriol alcohol a pherthynas dynion 芒'r merched yn eu bywydau.

    Drama gyntaf
    Rhwng bob dim felly drama glasurol Eugene O'Neill, yn bendifaddau, fu'r ysbrydoliaeth i Y Gobaith a'r Angor.

    Ond tra roedd O'Neill wedi gweld llwyfannu pymtheg drama arall cyn i The Iceman Cometh weld golau dydd hon yw ymgais wreiddiol gyntaf Dylan Wyn Rees o Gaernarfon ar gyfer y theatr a does dim rhaid iddo gywilyddio o gwbl.

    Heb os mae ganddo'r glust a'r ddawn i gyfleu deialog naturiol, brathog a bywiog ac o ganlyniad mae'r lleddf yn gwbl gredadwy a'r ysgafn yn wirioneddol ddigri gyda'r chwarae ar eiriau'n hynod effeithiol.

    Bu'r camddealltwriaeth rhwng Winston ac Arfon o ganlyniad i dreiglo'r geiriau gliw a lliw yn arbennig o ddoniol.

    Ond gall braster lluosog braidd o'r iaith godi eiliau ambell un!

    Pobl go iawn
    Mae ei gymeriadu hefyd yn "true to nature" a gall y rhai hynny sy'n mynychu'r un t欧 potes yn rheolaidd uniaethu 芒 phob un ohonynt.

    Y dafarnwraig sy'n hoffi meddwl ei bod hi hefyd yn gyfuniad o dad-gyffeswr, gweithiwr cymdeithasol ac apothecari.
    Y cyn-filwr blin a chegog a'r cyn-forwr rhwysgfawr a diog; hogyn ei fam; ac, wrth gwrs, yr athronydd sy'n dyfynnu gweithiau mawr byd mor rhwydd ag y mae'r gweddill yn ateb galwad natur ac yn ymffrostio'n eu camp.

    Pum cymeriad
    Mae aelodau'r cast o bum cymeriad yn wynebau cyfarwydd ar lwyfan ac i wylwyr cyfresi teledu fel Rownd a Rownd a Dipyn o Stad.

    Golygfa Gwenno Elis Hodgkins yw Beatrice y dafarnwraig ac mae ei pherfformiadau'n gyson safonol. Nid yw'r tro hwn yn eithriad.

    Mae John Glyn hefyd yn hen law ac yn chwarae rhan Winston, y morwr tir sych (os sych hefyd!) i'r dim.

    Felly hefyd Gwyn Vaughan Jones fel Dennis y cyn filwr sy'n byw ar gawl pys gan ddefnyddio glaw neu hindda, neu ei brofiadau milwrol, yn esgus dros fynd i'r dafarn yn lle i'w waith.

    Ond y ddau aelod o'r cast sy'n rhagori'r tro hwn yw Dyfrig Wyn Evans a Huw Ll欧r.

    Arfon
    Mae portread Dyfrig Wyn Evans o Arfon yn gampus yn arbennig felly ei amseriad o ddeialog mwyaf cofiadwy'r ddrama.
    Mae Arfon yn byw adref gyda'i fam. Ei uchelgais anghyraeddadwy yw gweithio mewn archfarchnad. Mae'n methu cynnal perthynas. Y dafarn yw ei fywyd ac mae Dyfrig Wyn Evans yn ein darbwyllo o'r gwendidau yma i gyd a mwy.

    Daniel
    Gan Huw Ll欧r mae'r orchwyl anoddaf.
    Mae'n chwarae rhan Daniel, yr alcoholig llwyr, sy'n ymwybodol o'i wendid ac yn dirywio'n ei gyflwr o flaen ein llygaid.

    Campwaith o berfformiad sy'n esgor ar gydymdeimlad a thosturi un munud a gwawd a dirmyg y munud nesaf.

    Nid ar chwarae bach y mae llwyddo cyrraedd yr amcanion hyn ac mae i'w longyfarch ar ei gyflwyniad clodwiw.

    Cyfarwyddwr
    Ond er cymaint yw talent naturiol y cast mae'n rhaid wrth gyfarwyddwr i glymu y cwbl at ei gilydd yn un cyfanwaith ac un o gonglfeini Theatr Bara Caws, Maldwyn John, sy'n gyfrifol y tro hwn - actor a chyfarwyddwr (fel y bu i mi ddweud o'r blaen) sy'n drysor ynddo'i hun ac sy'n gwybod yn iawn, o hir ymarfer, beth yw gwerth amseru brawddegau a godro'r linell.

    O ganlyniad, do, cefais brofiad theatrig cofiadwy o weld Y Gobaith a'r Angor - er, ar 么l dweud hynny, efallai nad oedd y profiad hwnnw lawn mor ysgytwol 芒'r un a gefais yn y theatr yna yn Nulyn yr holl flynyddoedd yn 么l.

    Y Daith
    Trefnydd
  • Nos Fercher 26 Mawrth Y Galeri, Caernarfon Swyddfa Doc: 01286 685222
  • Nos Iau 27 Mawrth Neuadd Goffa, Amlwch Ian: 07919205217 Neu 01286 676335
  • Nos Wener 28 Mawrth Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Doc: 01248 351708
  • Nos Sadwrn 29 Mawrth Theatr Gwynedd, Bangor Swyddfa Doc: 01248 351708
  • Nos Fawrth 1 Ebrill Neuadd Oliver Jones, Dolywern, Dyffryn Ceiriog Menter Maelor (01978) 363791
  • Nos Fercher 2 Ebrill Clwyd Theatr Cymru Swyddfa Doc. 0845 3303565
  • Nos Iau 3 Ebrill Theatr John Ambrose, Rhuthun Tocynnau: Eirwyn 01824 702391
  • Nos Wener 4 Ebrill Theatr Harlech, Harlech Swyddfa Doc: 01766 780667
  • Nos Sadwrn 5 Ebrill Canolfan Gymuned Llanrwst Menter Iaith Conwy 01492 642357 Neu Siop Bys A Bawd 01492 641329
  • Nos Fercher 9 Ebrill Canolfan Gelf. Aberystwyth Swyddfa Doc: 01970 623232
  • Nos Iau 10 Ebrill Theatr Felinfach Swyddfa Docynnau: 01570 470697
  • Nos Wener 11 Ebrill Theatr Y Gromlech, Crymych Kevin Davies 01239 831455
  • Nos Sadwrn 12 Ebrill Neuadd Llanofer, Caerdydd Tocynnau: 02920 631144 Neu Bara Caws: 01286 676335
  • Nos Fawrth 15 Ebrill Ysgol Y Berwyn, Y Bala Antur Penllyn 01678 520920
  • Nos Fercher 16 Ebrill Ysgol Uwchradd Bodedern Gwenno Ifan: 01407 741000
  • Nos Iau 17 O Ebrill Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards (01766) 830435
  • Nos Wener 18 Ebrill Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Doc: 01758 704088
  • Nos Sadwrn 19 Ebrill Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Doc: 01758 704088


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar D芒n
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Caf茅 Cariad
    Caf茅 Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    M么r Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mind诺r
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Tr锚n Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Si么n Cati
    T欧 ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffr芒m
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    G诺yl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar D芒n
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glynd诺r yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban'
    T欧 ar y Tywod
    T欧 ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir G芒r - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy