| |
|
Diweddgan - barn Aled Jones Williams Cynnig mwy na siwgr a thriog!
Yr oedd hi'n gwbl gymwys i Theatr Genedlaethol Cymru ddewis Diweddgan gan Samuel Beckett fel ei gynhyrchiad diweddaraf - er mor ddyrys ac astrus yw y ddrama honno.
Dyna farn y bardd a'r dramodydd Aled Jones Williams wrth ymateb i sylwadau beirniadol a wnaed gan Iwan Edgar ar 成人快手 Cymru'r Byd.
Trymder mawr Mewn adolygiad ar y wefan hon bu Iwan Edgar yn ddigyfaddawd ei feirniadaeth o'r dewis ac ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, ddydd Llun, Hydref 16, 2006, dywedodd ei fod yn dal at hynny.
"Mae hon yn ddrama a thrymder mawr iddi, mae'n ddrama sydd ddim yn ddifyr yn yr ystyr arferol. Fe allech chi dderbyn fod mynd at y deintydd yn rhywbeth sydd ddim yn ddifyr ond ei fod yn gwneud lles. Rhyw deip fel'na o ymagweddu fyddai rhai ohonom yn ei gael am hon," meddai.
"Mi roedd hi'n llethol a dyna oedd hi fod. Yr oedd y ddrama yn llwyddo yn yr ystyr ei bod yn creu diflastod. Dyna oedd bwriad yr awdur ac mae'n llwyddo." ychwanegodd.
Dywedodd ei bod y dewis anghywir argyfer cwmni sy'n ceisio ennill cynulleidfa.
Mwy na Chymru Ond anghytunai Aled Jones Williams gan ddweud ei bod yn bwysig i'r Theatr Genedlaethol roi llwyfan i ddramodydd cyn bwysiced:
"Mae'n iawn ei bod wedi gwneud hon oherwydd mae hi yn ganmlwyddiant geni Beckett ac felly, os ydi hi'n theatr genedlaethol mae'n rhaid iddi hi fynd i ystod mwy na Chymru ac felly roi dram芒u Ewropeaidd, Ac felly, roedd hi'n iawn yn y dewis," meddai.
Ond cytunai fod yna wahaniaeth barn yngl欧n 芒 Beckett:
"Beckett ydi Beckett a naill yr yda chi'n lecio Beckett neu dyda chi ddim.
"Mae o'n ddramodydd mawr ond dydi o ddim yn ddramodydd poblogaidd ac mae yna garfan sy'n ffoli ar y dyn, fel fi, ac mae yna eraill sy'n dweud. 'W! Beckett di hwnna, Wwww. Mae'n drwm, mae'n nos arna ni," meddai.
Hiwmor hefyd "Y peth ydi, efo Beckett, yw fod yna'r trymder yma, wrth gwrs, ond hefyd mae'r hiwmor. Mae o'n hiwmor tywyll ofnadwy. Ddaeth yr hiwmor yna drosodd yn y cynhyrchiad? Wel do - ond do i raddau? Dyma'r trydydd tro i mi weld cynhyrchiad o Diweddgan - dau yn Saesneg a hon - ac mae o yn mynd o'r angst yma, y tywyllwch yma, ac yn sydyn yn eich taflu chi i le digon digri mewn gwirionedd.
Defnydd o iaith "A'i ddefnydd o iaith - am y pethau yna ryda chi'n mynd a beth mae o'n wneud efo theatr wrth gwrs ac fel rydw i'n dweud, yr ydych chi'n cas谩u neu rydych chi'n lecio Beckett," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi hefyd y math o ddrama sy'n rhaid ei darllen cyn ei gweld ar lwyfan.
"Ac hwyrach weld mwy nag un cynhyrchiad," meddai.
O weld y cynhyrchiad presennol awgrymodd y gallai fod ar ei ennill o fod wedi "ystwytho" rhywfaint ar gyfieithiad Gwyn Thomas ar gyfer y llwyfan.
Yr oedd ei ganmoliaeth yn fawr i'r actio ac yn arbennig Arwel Griffiths fel Hamm .
"Ond yr oedd yna rywbeth [yn ddiffygiol] am y set; fe dylai fod y set yn fwy anferth achos tu mewn i benglog ydi hon ac yr ydych eisiau ei gwneud yn llawer mwy," meddai.
Gwneud y ddeubeth Tra'n cydnabod fod angen i'r Theatr Genedlaethol lwyfannu cynyrchiadau poblogaidd dywedodd:
"Mae hi'n ddyletswydd arnyn nhw wneud rhywbeth efo Beckett ac maen nhw wedi gwneud hynny. Wedyn eu cynhyrchiad nesaf ond un ydi Cysgod y Cryman ac mi fydd hwnnw yn beth mwy poblogaidd wrth gwrs ac mae'n iawn iddyn nhw wneud y ddeubeth - fedrwch chi ddim mynd ar 么l rhywbeth poblogaidd o hyd. Rhan o beth theatr ydi gwneud i bobl feddwl ac felly dyda chi ddim eisiau eu bwydo nhw efo siwgr a thriog bob munud," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Iwan Edgar
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|