| |
|
Hedfan Drwy'r Machlud Gwerthu gwin y meirw
Adolygiad Lowri Johnston o Hedfan Drwy'r Machlud gan Si么n Eirian. Drama gomisiwn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn cydweithrediad 芒 Script Cymru. Cyfarwyddwr, Arwel Gruffydd. Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Yng ngeiriau cyfarwyddwr Hedfan Drwy'r Machlud mae pwy bynnag feddyliodd am gomisiynu drama ar gyfer criw o fyfyrwyr ar eu blwyddyn olaf yn y coleg "yn haeddu plac glas ar wal ffrynt man i (g)eni!"
Dyna feddyliais innau hefyd wrth glywed am y ddrama hon ond rhaid dweud o'r dechrau na chefais fy siomi.
Hanes dwy fenyw ifanc yn mynd i Bortiwgal i farchnata hen win 'egsotic' sydd yma - y vinhos mortos, sef "gwin y meirw".
Roedd y ddrama yn pendilio rhwng hanes eu taith nhw yno 芒 stori trigolion yr ardal ym Mhortiwgal lle roedden nhw'n mynd i farchnata'r gwin.
Crewyd tair sefyllfa; Taith y menywod ifanc, Dizzy a Kate, Hanes cymhleth y wraig gyfoethog Consuela, Bywyd gwerinol a chrefyddol Isuara ac Isabella, gyda Luzia yn symud rhwng y ddwy sefyllfa ym Mhortiwgal.
Eithaf cymhleth Er i'r ddrama symud yn ddigon esmwyth o un sefyllfa i'r llall roedd yn rhaid canolbwyntio'n ddwys drwy'r amser gan fod y plot yn eithaf cymhleth ar adegau.
Roedd y goleuo yn ganmoladwy iawn gyda golau coch yn ymddangos ar gyfer sefyllfa yn y gorffennol.
Consuela oedd yn rhyw fath o naritif i'r ddrama ac roedd hyn yn gweithio'n dda i glymu popeth wrth ei gilydd.
Yr oedd hi'n anodd dyfalu beth oedd pwynt y ddwy fenyw ar yr awyren ar adegau ond daeth popeth at ei gilydd ar ddiwedd y ddrama mewn ffordd erchyll a graffig.
Cafwyd perfformiadau canmoladwy - yn enwedig gan Catherine Evans (Isabella) a Ffion Williams (Isuara).
Ond roedd hi'n eithaf amlwg nad actorion proffesiynol oedden nhw, yn enwedig gan nad oedden nhw yn taflu eu lleisiau ddigon. Yn aml, doedd hi ddim yn glir beth oedden nhw'n ei ddweud.
Roeddwn i'n teimlo ar adegau hefyd fod y sgript bach rhy 'stiff'. Ddim yn naturiol iawn - er roedd darnau y ddwy fenyw Gymreig yn llifo'n llawer rhwyddach na darnau y cymeriadau Portiwgiaidd gan wneud imi dybio tybed a oedd hynny yn fwriadol.
Canlyniadau erchyll Dyma ddrama bwerus gyda stori ag iddi ganlyniadau erchyll.
Ychwanegai'r gerddoriaeth lawer at y ddrama, yn enwedig trwy greu tensiwn.
Rhaid canmol y set a'r slicrwydd wrth ei newid!
Er bod tair sefyllfa wahanol iawn ar y llwyfan a'r rheini yn agos iawn at ei gilydd, oherwydd y goleuo medrus a'r set roedd hi'n teimlo fel pe byddai tri byd hollol wahanol yn bodoli yno.
Mwynheais y perfformiad ac os daw cyfle byddwn yn argymell manteisio arno i'w gweld.
Ond gochelwch rhag mynd 芒 phlant rhy ifanc gan fod yr olygfa olaf yn un graffig iawn.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|