成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

成人快手 成人快手page
Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

BitshBitsh
Catalog o brofiadau anllad a diwedd erchyll
  • Adolygiad Alwyn Gruffydd o Bitsh - addasiad llwyfan John Ogwen o nofel Eirug Wyn.


  • Pan oeddwn i'n llefnyn yn fy arddegau y man cyfarfod i laslanciau - a glasferched - Ll欧n ac Eifionydd oedd ar y grisiau'n arwain at ddrysau gwydr Sinema'r Palladium ym Mhwllheli.

    Yno y penderfynwyd a oedd yr arlwy diweddaraf o Hollywood y noson honno'n werth hanner coron ai peidio.

    Yn ei thro ymwelodd ffilm o'r enw The Bible - In the Beginning 芒 Phwllheli a phan aed ati yn 么l yr arfer i drafod gwerth gwylio'r ffilm arbennig honno dyma'r ffraethaf o'n plith yn datgan:
    "Tydw i ddim am fynd i'w gweld hi beth bynnag - mae'n well gen i'r Llyfr."

    Anhawster pob addasiad
    A dyna yn y b么n anhawster pob addasiad o waith sydd eisoes wedi ymddangos mewn print.

    Sut mae gwella ar y gwreiddiol?
    Neu hyd yn oed a oes modd ei wella?

    Anhawster amlwg arall gydag addasiadau, wrth gwrs, yw bod rhai yn y gynulleidfa wedi darllen y gwreiddiol a rhai nad ydynt wedi'i ddarllen.

    Ac yr ydych wedi tybio erbyn hyn, yn gwbl gywir, fy mod i'n perthyn i'r garfan gyntaf yn achos Bitsh.

    Nofel fwyaf llwyddiannus
    Roedd, ac y mae, yna bictiwrs arall ym Mhwllheli - sef yr hen Town Hall - "Neuadd Dwyfor" bellach - ac yno yr es i weld yr addasiad diweddaraf ar gyfer y llwyfan.

    Nofel o waith y diweddar, ysywaeth, Eirug Wyn yw Bitsh.

    Hon oedd yr olaf o doreth o nofelau awdur oedd ar d芒n yn ei sgwennu, ar d芒n dros ei genedl ac ar d芒n dros y gwerthoedd gorau.

    Mae'n sicr mai hon oedd ei nofel fwyaf llwyddiannus gan ennyn clod a bri pan ddyfarnwyd Gwobr Goffa Daniel Owen iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002.

    Mewn llai na dwy flynedd roedd Eirug wedi mynd.

    Profiadol yn y grefft o addasu
    Mae'r addasiad gan John Ogwen; ac fel addasiad y mae'n un diddrwg didda.

    Wedi'r cwbl, does dim llai i'w ddisgwyl gan rywun sydd mor feistrolgar a phrofiadol yn y grefft.

    O'm cof bu ei addasiadau o nofelau Caradog Prichard a T Rowland Hughes - Un Nos Ola Leuad ac O Law i Law - ar gyfer y llwyfan yn llwyddiannau nodedig.

    Ond efallai nad yw golygfeydd pytiog Bitsh yn cynnig yr un cyfleon a theimlais innau golli'r dilyniant ar adegau ac efallai mai addasiad ar gyfer radio, neu hyd yn oed ffilm/teledu, fasa orau ar gyfer y nofel arbennig hon.

    Ffantasi rywiol
    Heb ymhelaethu'n ormodol ar y plot, ffantasi yw Bitsh. Ffantasi rywiol nad yw'n gadael nemor ddim i'r dychymyg wrth i'r prif gymeriad, Abednego Thomas - Abi i bawb o'i deulu a'i gyfoedion - ein harwain drwy gatalog o brofiadau anllad hyd at ei ddiwedd erchyll a gwallgof.

    Mae'n treisio ei deulu, yn treisio'i genedl ac yn ei dreisio'i hun.

    Caiff ei gymell a'i brocio gan ganeuon poblogaidd Chwedegau y ganrif ddiwethaf hyd at heddiw.

    Ei wendid yw merched sy'n clymu eu gwalltiau yn pony tail.

    Dywed rhai fod yna elfennau hunangofiannol yma ond pa waith creadigol o bwys sydd heb elfennau o'r fath?

    Yr actorion
  • Y cyfarwydd Jonathan Nefydd sy'n chwarae rhan Abi ac mae'n gwneud hynny gyda'i fedrusrwydd arferol ar lwyfan. Pob sill yn glir - pob symudiad i bwrpas.
    oddi ar y poster
  • Mae Rhian Blythe yn portreadu pum cymeriad i gyd gan lwyddo i wneud iawn 芒 phob un. Dyma actores ifanc sy'n prysur berffeithio ei chrefft ac yn datblygu gyda phob cynhyrchiad.

    Mae ei champ hi a Charwyn Jones - actor ifanc arall eithriadol addawol - o gynnal cymeriadau'r Americaniaid, Juliette a Jake, yn gofiadwy a dweud y lleiaf.

  • Awgrymais dro'n 么l cymaint o drysor yw'r actorion Eilir Jones a Maldwyn John i'r gomedi Gymraeg gyda'r ddawn ganddynt i ennyn chwerthin heb yngan yr un gair a doedd eu hymddangosiad ar lwyfan Neuadd Dwyfor ddim yn eithriad ac er bod yna elfennau sy'n ddoniol o fath ynddi ni ellir honni am funud mai comedi yw Bitsh.

    Ar 么l dweud hynny roedd dehongliad Eilir Jones o'r gweinidog yn berffaith.

  • Un aelod o'r cast sydd ar 么l.
    Chwaraewyd rhan Anti Mabel gan Catrin Fychan a hwn yw'r darn anoddaf o ddigon.

    Mae'n rhaid i'r cymeriad yma ddirywio mewn moes ac mewn ymarweddiad o olygfa i olygfa.

    Ar y dechrau roeddwn yn bryderus o gamgastio. Nid hon oedd yr Anti Mabel o'r nofel. Ond diangen fu'r pryder. Datblygodd Catrin Fychan fel y chwalodd Anti Mabel a chafwyd perfformiad clodwiw a mentrus.

    Gorwneud achlysurol
    Iola Ynyr sy'n cyfarwyddo ac ar wah芒n i orwneud achlysurol - roedd ymddangosiad y pram yn arbennig o ddiangen - mae'n gynhyrchiad derbyniol iawn.

    Caroline Roberts fu'n gyfrifol am y set ymarferol a dirodres.

    Dyma'r cynhyrchiad cyntaf i deithio Cymru benbaladr gan Gwmni'r Fr芒n Wen a does dim byd fel neidio'n syth i'r dwfn.
    Nid yw Bitch yn gynhyrchiad hawdd. Mae bron a bod yn ffinio 芒'r anweddus.
    Ond efallai mai fy nychymyg i ydi hynny.
    Wedi'r cwbl rydw i wedi darllen y llyfr.

    Y daith
    Nos Fawrth, 10 Hydref 2006 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
    Nos Fercher, 11 Hydref 2006- Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
    Nos Iau, 12 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Wener, 13 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Sadwrn, 14 Hydref 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor.
    Nos Fawrth, 17 Hydref 2006 - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
    Nos Fercher, 18 Hydref 2006 - Theatr yr Halliwell, Caerfyrddin.
    Nos Wener 20 Hydref 2006 - Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
    Nos Fawrth, 24 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
    Nos Fercher, 25 Hydref 2006 - Theatr Ardudwy, Harlech.
    Nos Iau, 26 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
    Nos Wener, 27 Hydref 2006 - Theatr John Ambrose, Rhuthun.
  • Pob perfformiad yn dechrau am 7.30
  • Cynhyrchiad ar gyfer rhai dros 14 oed yw hwn.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Mwy am Bitsh

  • Eirug Wyn yn Eisteddfod Tyddewi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar D芒n
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Caf茅 Cariad
    Caf茅 Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    M么r Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mind诺r
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Tr锚n Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Si么n Cati
    T欧 ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffr芒m
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    G诺yl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar D芒n
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glynd诺r yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno 芒 na n'脫g
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar 么l yr Alban'
    T欧 ar y Tywod
    T欧 ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir G芒r - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy