| |
|
Sundance ar daith Cowbois yn y meddwl
Drama sy'n trafod meddyliau dwysaf llanc ifanc sydd wedi gwirioni'n l芒n ar ffilmiau cowbois ydi cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru.
Awdur Sundance ydi Aled Jones Williams, un o ddramodwyr mwyaf dadleuol Cymru.
Mae'r ddrama'n ymwneud ag ymgais llanc ifanc i anghofio magwraeth boenus a dryslyd trwy ymgolli mewn ffilmiau cowboi.
"Mae'r cynhyrchiad hwn yn barhad o'n polisi o lwyfannu dram芒u clasurol bod nhw'n perthyn i'r traddodiad confensiynol neu'r abs岷價d," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
"Heb os mae Sundance yn perthyn i'r ail deulu gan gynnig golwg cignoeth o fannau tywyllaf ein meddyliau a'n cydwybod," ychwanegodd.
Chwaraeir Sundance gan actor ifanc o F么n, Owen Arwyn, sy'n un o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru
Cafodd glod arbennig am ei bortread o Sundance pan lwyfannwyd y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri y llynedd.
Mae hefyd wedi chwarae rhannau blaenllaw ym mhob un o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru ers sefydlu'r cwmni ddwy flynedd yn 么l.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at fynd 芒 Sundance i gynulleidfa ehangach," meddai.
"Mae'n ddrama sy'n procio'r meddwl ac yn sicr o aros yn y cof am amser maith," ychwanegodd.
Y daith Bydd Sundance yn ymweld 芒:
Caerfyrddin - Neuadd San Pedr - ar nos Fercher, Mawrth 22, 2006, am 7.30 o'r gloch;
Caerdydd - Theatr y Chapten, ar nos Iau, Mawrth 23, 2006, am 8.00 o'r gloch;
Rhydaman - Theatr y Glowyr - ar nos Sadwrn, Mawrth 25, 2006, am 7.30 o'r gloch;
Abergwaun - Ysgol Bro Gwaun - ar nos Lun, Mawrth 27, 2006 am 7.30 o'r gloch;
Rhuthun -Theatr John Ambrose yn Ysgol Brynhyfryd - ar nos Fercher. Mawrth 29, 2006, am 8.00 o'r gloch;
Llangefni -Theatr Fach - ar nos a nos Wener, Mawrth 30 a 31, 2006, am 7.30 o'r gloch.
"Rydym yn ymweld 芒 bron pob un o'r canolfannau hyn am y tro cyntaf," ychwanegodd Elwyn Williams.
"Mae hyn eto'n gyson 芒'n polisi o fynd 芒 chynyrchiadau i gymunedau yn y gobaith y bydd hyn yn denu cynulleidfa newydd i'r Theatr Gymraeg," meddai.
Nid yw Sundance yn addas ar gyfer y rhai o dan 15 oed.
|
|
|
|