| |
|
G诺yl Delynau Ryngwladol Goreuon byd yn Eryri
Bydd telynorion o bob cwr o'r byd yn ymgynnull yn Eryri fis Ebrill nesaf ar gyfer yr 糯yl Delynau Ryngwladol gyntaf erioed.
Mae telynorion ifanc a h欧n yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr 糯yl newydd fydd yn cael ei chynnal yn Galeri, Caernarfon rhwng Ebrill 16 a 23 2006.
"Bydd yno bump o gystadlaethau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a chyngherddau gan rai o delynorion enwocaf y byd," meddai Elinor Bennett, cyfarwyddwraig yr 诺yl.
Ymhlith y telynorion bydd Isabelle Moretti, Athrawes y Delyn yn y Conservatoire Nationale ym Mharis, Catrin Finch, o Gymru a Deborah Henson-Conant, telynores jazz o'r America.
Bydd gwerth dros 拢25,000 o wobrau i'w hennill gan gynnwys dwy delyn newydd sbon, a roddir gan y gwneuthurwyr telynau blaengar, CAMAC o Ffrainc.
"Bydd enillydd y brif gystadleuaeth i delynorion ifanc o dan 30 oed yn derbyn Telyn Gyngerdd newydd a phrydferth gan CAMAC yn ogystal 芒 gwahoddiad i roi datganiadau ar y delyn ym Mharis a Chaerdydd," meddai Elinor Bennett.
Rhoddir telyn Geltaidd newydd, hefyd gan CAMAC, i enillydd y Gystadleuaeth i delyn ddi-bedal.
Bydd pum cystadleuaeth i gyd - o dan 13, 16, 21 ac o dan 30, yn ogystal 芒'r Gystadleuaeth Telyn Werin Agored.
"Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu denu cymaint o enwau mawr byd y delyn i lannau'r Fenai ac yn awyddus iawn i weld cymaint o bobl ifanc ag sy'n bosibl yn cofrestru ar gyfer yr 糯yl," meddai Elinor Bennett.
"Mae'n gyfle ffantastig i delynorion o bob oed a gallu i ddod at ei gilydd mewn man mor brydferth i ganu'r delyn a chreu cerddoriaeth," ychwanegodd.
Dywedodd i'r ymateb cynnar fod yn gadarnhaol iawn gydag enwau wedi eu derbyn o Singapore, Israel, Rwsia, Serbia, a Thwrci.
"Ond rydym yn awyddus iawn hefyd i groesawu telynorion ifanc o Gymru a gweddill gwledydd Prydain, yn blant ifanc, telynorion proffesiynol ifanc, a rhai h欧n. Mae'r gwobrau'n wych ac mae'n sicr yn werth mynd amdani!" meddai Elinor Bennett.
Ystyrir y delyn yn Offeryn Cenedlaethol Cymru a'r 糯yl hon fel dathliad pwysig o'r twf anhygoel yn nifer ein telynorion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bu Cyrsiau a gwyliau bychain i'r delyn yn yr ardal ers 25 mlynedd.
Canolfan Gerdd William Mathias sy'n gyfrifol am drefnu'r 糯yl newydd a'r Llywydd Anrhydeddus yw Osian Ellis, un o delynorion amlycaf Cymru y bu Elinor Bennett yn un o'i ddisgyblion.
"Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos y telynorion talentog sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd - rydym yn edrych ymlaen am wythnos wych!" meddai Elinor Bennett.
Estynnwyd y dyddiad ar gyfer derbyn ceisiadau hyd at Ionawr 30, 2006.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|
|
|