Drama newydd gyda hen stori
Adolygiad Glyn Jones o Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn.
Drama newydd gyda hen stori yw hon.
Goleuir y llwyfan i ddangos cegin hen-ffasiwn gyda'r 'Aga' fawr yn hawlio'n sylw.
Wrth y bwrdd eistedd Emyr yn bodio Geiriadur Bruce ac yn crymu dros ei gyfrifiadur.
Yr eiliad nesaf daw Dwynwen i'r gegin gan daflu i芒r wedi'i phluo ar y bwrdd wrth ei ymyl. Cyn yngan yr un gair gwelwn beth a ddaw achos dyma'r stori a drafodwyd gan Caryl Lewis yn Martha Jac a Sianco a chan Meic Povey yn Nel - teulu bach yn ceibio bywoliaeth o dir hysb el y cadwer i'r oesoedd a dd锚l lendid a fu.
Ymwelydd
Ac yna daw ymwelydd i ddistrywio'r winllan, digio'r trigolion a pheri iddynt gecru ymysg ei gilydd.
Hen stori, felly, ac o ganlyniad, hen gymeriadau. Mae Emyr (Huw Garmon) yn cynrychioli'r Cymro mewn trawsffurfiad. Nid yw wedi troi ei gefn ar y tir eto ond amheua faint o werth sydd yn yr hen ffordd Gymreig o fyw.
Try at gyfieithu a dysgu, nid cymaint er mwyn ennill ei fara ond er mwyn ceisio llenwi'r gwacter sydd ynddo. Nid yn annhebyg i Owen Gruffudd Kate Roberts.
Mae Dwynwen (S锚ra Cracroft) yn cynrychioli'r wraig fferm a drodd yn sarrug wedi blynyddoedd o waith.
Ei theori yw:
"Mi fydda i'n mwynhau . . . pan ma' petha'n cael eu gwneud. Mi fydda i'n mwynhau pan mae na drefn ar y lle 'ma."
A dyna Gwen Llwyd Elena Puw Morgan yn fyw o flaen ein llygaid. Daw ei ffraethineb 芒 hiwmor i'r ddrama, ac mae ei phrysurdeb yn cadw'r ddrama rhag boddi mewn segurdod diddigwyddiad.
At y ddau daw Jo (Lauren Phillips). Mae ganddi enw modern, gwisg fodern ac arferion modern, rhy fodern ddywedwn i:
"Rydw i'n Piscean vegan. Dwi'n bwyta pysgod ond dw i ddim yn bwyta cig, na dairy, na wyau."
Dim gwell nag ystrydeb
Ni chyfyd Jo yn uwch na'r ystrydeb o'r ferch fodern faterol. Ni all wneud mwy na rhyfeddu at brydferthwch cefn gwlad. Ni all fyth garu na Chymru na'i phobl.
Dechreuwyd datblygu hyn gyda'i pherthynas ag Emyr ond ni eginodd yr hedyn ac yn sicr ni thyfodd a blodeuo.
Gallasai Jo wneud mwy na deall y materion Cymreig. Gallasai syrthio mewn cariad a hwy, yn union fel y syrthiodd Yolland mewn cariad ag Iwerddon yn nrama Brian Friel, Translations, gan redeg i ffwrdd efo Maire, yr Wyddeles.
Fodd bynnag, cyn diwedd y bedwaredd olygfa, diflanna Jo i'w llofft ac ni chlywn smic ganddi eto. Nid person ydyw ond dyfais i ddangos i Emyr wendidau ei fyd, a digwyddiad i droi'r gwrthdaro'n ddrama.
Mae gan Jo gyfrinach sy'n ysgwyd bywyd diddigwydd Dwynwen ac Emyr a chadwodd y ddramodwraig y gyfrinach hon rhagom tan ddiwedd y ddrama ac yn grefftus iawn parodd i'r gyfrinach gael ei chanfod yn hytrach na'i datgelu.
Dwynwen sy'n ennyn ein chwilfrydedd drwy dynnu'n sylw at natur sinistr y sefyllfa.
"Ti di holi'r hogan i be uffar ma hi isio 'gloywi' ei Chymraeg a hitha'n byw yn ganol Llundain?"
Swyddog marchnata yw Jo sydd wedi dychwelyd i Gymru i geisio am y swydd 'rheolwr cysylltiadau cyhoeddus datblygiad arfordirol.'
Mewn geiriau eraill, mae am ddatblygu'r marina y mae Dwynwen ac Emyr yn ei herbyn. Fodd bynnag, i gael y swydd rhaid i Jo fod yn rhugl ei Chymraeg sy'n egluro pam mae Emyr yn dysgu Cymraeg iddi.
Cyfyd hyn gwestiwn diddorol.
A yw Dwynwen ac Emyr yn helpu'r person fydd yn eu dinistrio? Neu a ydi hi yn helpu Emyr a Dwynwen drwy ddangos eu bod yn dinistrio eu hunain?
Cymeriad arall
Mae cymeriad arall ar y llwyfan hefyd.
Ar brydiau ymddengys yn ddramatig mewn storm o gerddoriaeth.
Dro arall hwylia'n dawel drwy'r t欧.
Deallwn mai hon yw mam Dwynwen (Dora Jones) ac yn ddiau hi yw dyfais theatrig orau'r ddrama, er y gallasid ei defnyddio'n well.
Nid oeddwn yn si诺r p'un ai ysbryd ydoedd ynteu atgof a chredaf hefyd ei bod yn rhy gl锚n a'i dillad yn rhy hafaidd o ystyried ei bod yn glaf o serch ac ar fin lladd ei hun!
Nid yw'n ddigon gormesol ychwaith o ystyried mai hi yw'r un a dynghedodd Dwynwen i fyw yn hualau'r gorffennol.
Mae'r ddrama ar ei gorau yn y ddwy olygfa a hanner wedi ymadawiad Jo pan yw cragen Dwynwen yn dechrau cracio a sensitifrwydd rhyfeddol yn cael ei ddatgelu.
Dangosir hyn orau yn y bumed olygfa, golygfa orau'r ddrama lle mae Emyr ar lan y m么r ac ymddengys Dwynwen y tu 么l iddo a'r hyn a digwydd nesaf yn enghraifft berffaith o gyfarwyddo ardderchog Arwel Gruffudd.
"Paid 芒 mynd, Emyr. Plis. Paid 芒 ngadael i. Fedrwn i ddim dodda bod hebdda chdi."
Yw geiriau Dwynwen a'i llais yn cystadlu 芒'r gwynt a'i symudiadau yn ansicr.
Nid hi sydd 芒'r llaw uchaf mwyach. Wrth ddatgelu ei chyfrinach wrth Emyr gwelwn y ddynes yn pacio ei ch锚s, yn crwydro hyd y traeth, yn cusanu Dwynwen, a'i gadael yn beichio crio ym mreichiau ei g诺r - y tro cyntaf iddynt gyffwrdd gydol y ddrama.
Cydymdeimlwn 芒 Dwynwen yma ac yn bwysicach, efallai, dechreuwn ei deall. Y mae'n gweithio'n ddi-baid gan fod ofn segurdod arni. Pan orffwysa am ennyd daw atgofion i'w herlid a dagrau i'w llethu.
Gwedd seicolegol
Yr ateb, torchi llewys a pheidio cwyno. Drwy greu Dwynwen yn y modd hwn llwyddodd yr awdur i roi gwedd fwy seicolegol i ddrama a allai mor hawdd fod yn ddim ond tract o bropaganda simplistig.
Mae'r diweddglo yn amwys ac yn llawn symbolaeth.
Mae'r siarad yn dynerach a Dwynwen yn gorffwyso gan afael yn llaw ei g诺r.
Mae'n gwylio plant yr ymwelwyr yn dymchwel clawdd Llain Bella ac yn dweud wrth Emyr :
"Na . . . gad iddyn nhw chwara."
Y clawdd
Symbol yw clawdd Llain Bella wrth gwrs, yn cynrychioli'r hen ffordd o fyw a Dwynwen wedi rhoi'r gorau i geisio ei ailgodi.
Mae'n deall y byddai wrth adfer yr hen ffordd o fyw yn adfer hefyd y gorthrwm a'r caethiwed a ddoi gydag ef.
Mae corn y Regata seinio, a Dwynwen yn swatio gydag Emyr. Mae popeth mewn harmoni, a'r ddau wedi darganfod rhywbeth sydd o fwy o werth na chae a marina.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Kate Crockett