| |
|
Melangell Sioe gerdd ar daith o amgylch Cymru
Y ferch sy'n cael ei hadnabod fel nawdd sant yr anifeiliaid bychain yw testun sioe gerdd fydd yn teithio Cymru yn ystod Chwefror a Mawrth, 2005.Mae cynhyrchiad diweddaraf Theatr na n'Og, wedi ei seilio ar hen chwedl Gymreig Melangell.
"Mae'r sioe gerdd fywiog a chyffrous hon yn sicr o hudo a diddanu plant o bob oed," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Ffoi o Iwerddon Mae hanes Melangell yn un o chwedlau mwyaf poblogaidd Cymru.
Yn dywysoges yn wreiddio, l ff么dd Melangell o Iwerddon i Gwm Pennant yn Nhrefaldwyn er mwyn osgoi priodas a drefnwyd ar ei chyfer gan ei thad.
Yno dywedir iddi guddio ysgyfarnog dan ei gwisg un diwrnod er mwyn ei hachub rhag g诺n hela Brochfael Ysgithrog, Tywysog Powys, a oedd allan yn hela.
Gwnaeth hyn gymaint o argraff ar Brochwel y rhoddodd diroedd iddi o gwmpas y pentref a adnabyddir fel Pennant Melangell heddiw lle saif ei heglwys.
Ers hynny, adnabyddwyd ysgyfarnogod fel wyn bach Melangell yng Nghymru.
Yn y Steddfod Perfformiwyd y sioe gerdd amdani gyntaf yn Eisteddfod Meifod, 2003, gyda 160 o blant yn cymryd rhan.
Bydd cynhyrchiad newydd Theatr na n'Og yn cynnwys wyth o actorion sy'n wynebau cyfarwydd ar y teledu: Phyl Harries, (Amdani); Carys Gwilym (Talcen Caled); Neil Williams (Tipyn o St芒d); Jennifer Vaughan (Tipyn o St芒d); Dyfrig Evans (Talcen Caled); Rhodri Evan ( 成人快手 Scrum 4).
Chwaraeir rhan Melangell a Brochwel gan ddau actor ifanc, Elin Llwyd a Daniel Lloyd (A470).
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Dyfan Jones (To Kill a Mockingbird).
Bardd y Plant Cymru, Tudur Dylan Jones, yw awdur geiriau'r caneuon.
Dywed y cwmni fod y cynhyrchiad yn addas ar gyfer dysgwyr gyda chrynodeb o'r stori wedi ei baratoi ar eu cyfer.
Dyma ddyddiadau y perfformiadau Cymraeg: Chwefror 22 - THEATR GWYNEDD, BANGOR. 7.30. 01248 351708. 23 - THEATR GWYNEDD, BANGOR 10.30 y.b 01248 351708 25 - CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH 1.00 01970 623232 25 - CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH 7.30 y.h. Mawrth 2 - CLWYD THEATR CYMRU, YR WYDDGRUG 7.00 y.h 0845 33035653 - CLWYD THEATR CYMRU, YR WYDDGRUG 1.00 a 7.00 y.h 0845 3303565. 8 - THEATR ARDUDWY, HARLECH 7.30 y.h . 9 - THEATR ARDUDWY, HARLECH, 10.30 y.b 01766 780667. 10 - THEATR HAFREN, Y DRENEWYDD 7.30 y.h 01686 625007 11 - THEATR HAFREN, Y DRENEWYDD 1.00. 14 - THEATR MWLDAN, ABERTEIFI 10.30 01239 621200. 16 - CANOLFAN MILENIWM CYMRU, CAERDYDD 7.30 08700 402000. 18 - GLAN YR AFON, CASNEWYDD 10.30 y.b 01633 656757.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|