| |
|
Mwnci ar D芒n Hwylio'n agos i greigiau peryglus ystrydeb - or whatever
Adolygiad Iwan Edgar o Mwnci ar D芒n. Arad Goch. Perfformiad 15 Ionawr 2007 ym Mhwllheli.
Mae pethau mawr i'w dweud - a pheryglon mawr wrth eu dweud - ar ambell bwnc mawr: Trawma y milwr o erchylltra'r drin. Hen drawiad o destun yn codi yn llenyddiaeth y byd o'r gorffennol Groegaidd ac yn ein byd bach ni o Fyrddin Wyllt hyd Hedd Wyn.
Gan mor ddirdynnol y testun y mae tuedd ar brydiau, efallai, i dybio bod ei drafod yn codi rhyw barchedig ofn y byddai unrhyw gynulleidfa theatrig yn gyndyn o fod yn feirniadol oherwydd teilyngdod y pwnc ei hun.
Ysywaeth er hynny, byddai'n annheilwng ohonof innau i orgydymffurfio 芒'r awyddfryd hwnnw or whatever (fel y gallai Mwnci - y prif (?) gymeriad yn y cynhyrchiad hwn fod wedi ei ddweud.)
Yn argyhoeddi Mi gychwynnaf 芒 pheth cadarnhaol: nid wyf yn y credu fod yr actorion yn ddi-dalent ac yr oedd y cymeriadau a gr毛wyd ganddynt yn fy argyhoeddi - er bod ymadroddi Seisnigllyd cyson yn merwino clust hen deip Cymreig fel fi - hyn yw'r byd sydd ohoni.
Tri chymeriad oedd yna mewn gwirionedd - a boi canu git芒r (y soniaf amdano ar y diwedd): Mwnci, y llencyn ifanc asbo-edig bywiog, Sheli / Megan ei gariad, coman gyffredin A'r milwr creithedig a ddaeth o rywle ac a oedd, am wn i'n dad i Sheli, os y bu i mi ddeall y peth yn iawn.
Y stori Ar y dechrau, dyma'r milwr yn cyrraedd i chwilio am ei wraig a'i ferch. Mae'n cyfarfod 芒 Mwnci ac yn ymgiprys 芒 hwnnw.
Maes o law, gydag eironi pwrpasol, mae Mwnci'n gweld ei ddyfodol o'i ferddwr cymdeithasol drwy ymuno 芒'r fyddin. Ond mi oedd o wedi rhoi clec i Sheli erbyn y diwedd (a honno am gael gwared 芒'r babi ac wedyn yn newid ei meddwl ) nes bod y cylch yn grwn drwy y dadleniad mai'r milwr oedd ei thad coll.
Am wn i bod y milwr wedi saethu ei hun ar y diwedd a Mwnci a Sheli wedi byw'n hapus byth ar 么l hynny.
Creigiau peryglus Y mae creigiau ystrydeb yn rhai y mae llawer llong ddramatig fel hon yn hwylio'n beryglus agos atynt. Os c芒'i ei rhoi hi felna.
Rwy'n derbyn yr ergyd sydd yma hefyd o'r defnydd o haenau isaf cymdeithas i wneud y gwaith budr - arfer oesol a chleddyf deufin (a defnyddio delwedd berthnasol) sydd wedi cynnig dihangfa antur a phwrpas i lawer ac yn drawma colled ac angau i eraill.
Mae tuedd at adflas hunangyfiawn weithiau mewn cyd-destun fel hyn, o ystyried y milwyr creithiedig yn fwy fel rhai a dwyllwyd yn hytrach na rhai anffodus o sefyllfa enbyd. Wn i ddim a oeddwn yn sawru'r peth yma.
Rhedeg a rhedeg Ond os nad aeth Mwnci yn sowldiwr yn y diwedd, fel rhywbeth iddo wneud (os nad yn broffesiwn) mi ddylai ystyried mynd yn rhedwr marathons.
Mi fydd arno eisiau p芒r o 'sgidiau newydd ar 么l y daith hon gan ei fod o'n gwneud taith go helaeth yn ystod pob perfformiad, yn bownsio hyd y llwyfan yn 么l a blaen fel dwn-im-be.
Roedd yn fy mlino. Ond yn rhan o'r un blinder yr oedd lefel gynhyrfus dynn yr holl berfformiad. Nid oedd saib heb s么n am egwyl o'r chwarae dwys o gyson arthio - nid oedd dyffrynnoedd dim ond copaon i'r mynydd-dir trwm.
Chefais i ddim o'n hargyhoeddi o ddaearyddiaeth y llwyfan. Mae'n rhy ddiflas egluro'r peth yn fanwl ond roedd t欧 Mwnci drws nesaf (?) i d欧 cartref gwraig a merch y milwr ac eto roedd Sheli (y ferch) yn byw mewn fflat yn rhywle arall rywsut - mae'n si诺r bod yr ateb yn syml ac mai fi oedd yn rhy araf deg i'w gweld hi.
Chefais i ychwaith ddim o'n hargyhoeddi fod Sheli yn haeddu bod yn ferch y milwr (mi wn fod hynny'n dro yn y gynffon daclus ac arferol) ond pan oedd y ddau'n siarad efo'i gilydd doedd dim awgrym ddigonol fod dim cyswllt na dim chwilfrydedd yn y cyffyrddiad.
Chefais i ddim o'm hargyhoeddi ychwaith o beth oedd y milwr yn da yno ar y pryd - yn gorweddian am hydoedd, fel morlo ar draeth, o flaen drws nad oedd byth am agor. Gorweddian bob yn ail a chodi i roi rhyw druth angerddol.
Y boi git芒r Ond cyn cau - gwell rhoi rhyw air neu ddau am y boi git芒r. Yr oedd y creadur fel trwbad诺r modern yn rhodio rownd y llwyfan, ac yn gweud llygadau pwrpasol i gydweddu 芒 hynt y cyffro.
Yr oedd ei bresenoldeb yn fy ngogleisio, a chydag ychydig bach mwy o newid ar y chwarae, gyda help y trwbad诺r yr oedd potensial drama swreal ac abswrd yma or whatever.
Mwy am y ddrama a manylion am y daith - Cliciwch YMA
|
|
|
|