Adolygiad Gwyn Griffiths
Sylwadau Grahame Davies yn dilyn gweld Hamlet yn
Y Theatr Newydd, Caerdydd, Tachwedd 11, 2005.
Rhyw brynhawn Sul glawog oedd hi, a minnau'n tua 11 oed, pan ddeuthum ar draws Hamlet am y tro cyntaf.
Newid sianeli ar y teledu yr oeddwn - gorchwyl oedd yn cymryd llawer llai o amser yn y dyddiau dwy-sianel hynny - yn chwilio am rywbeth i'w wylio, pan welais ddechrau rhyw ffilm ddu-a-gwyn a ymddangosodd fel rhyw fath o stori ysbryd.
Dechreuais wylio. Roedd rhyw ddyn gyda gwallt annaturiol o olau yn dod wyneb-yn-wyneb ag ysbryd ei dad a ofynnai iddo ddial am ei lofruddiaeth, a dyna ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau cynyddol drasig wrth i'r fab ymateb i'r cyngor hwnnw.
A bron i dair awr yn ddiweddarach, yr oeddwn yn dal wedi sodro i'm lle gan y stori hon. Roeddwn wedi cwrdd ag athrylith Shakespeare, a thrwy gyfrwng athrylith arall, sef Laurence Olivier, achos y fersiwn o'r ddrama yr oeddwn newydd wylio oedd yr un a wnaeth ef ym 1948.
Mae gan Hamlet le arbennig yn fy nghalon felly. Ers hynny, mi astudiais y ddrama yn fanwl yn y coleg, ac mi wyliais sawl cynhyrchiad, gan gynnwys un gan yr RSC, a mwy nag un ffilm, gan gynnwys fersiwn Franco Zeffirelli o 1990 gyda Mel Gibson yn y prif ran, oedd, chwarae teg, yn well na'r disgwyl.
Y cynhyrchiad Cymraeg
Roeddwn wrth fy modd, felly, pan glywais fod cynhyrchiad Cymraeg ar y gweill, a hynny gan y Wales Theatre Company dan arweiniad Michael Bogdanov, yn defnyddio cyfieithiad newydd sbon gan Gareth Miles.
Yn gymhelliad ychwanegol wrth imi fwcio'r tocyn - a, do, mi wnes i dalu am docyn ar gyfer y perfformiad cyn i'r theatr ddechrau eu rhoi nhw am ddim - oedd i weld pa mor atebol oedd Cymraeg cyfoes i ddelio gyda drama sydd, wedi'r cyfan, yn un o gonglfeini diwylliant y Gorllewin.
Fe ragorwyd ar fy disgwyliadau ym mhob ffordd. Dyma gynhyrchiad cyfoes, aeddfed, ac effeithiol dros ben, ac y mae'r cyfieithiad yn rhagorol, yn rhywiog, llyfn, cyfoes a byw.
Y ffaith fod y cynhyrchiad hwn mor llwyddiannus sy'n fy nghymell i ysgrifennu'r ychwanegiad hwn i
adolygiad treiddgar Gwyn Griffiths sydd eisoes wedi ymddangos ar 成人快手 Cymru'r Byd
Fe garwn felly, yn syml, ategu ei ganmoliaeth haeddiannol i safon uchel yr actio a'r llwyfannu, cyn mynd ati i gynnig ychydig o sylwadau ychwanegol.
Y cynghorwr hirwyntog
Poloniws yn gyntaf, a chwaraewyd yn ardderchog gan Owen Garmon. Hwn yw cynghorwr y brenin, henwr nad oes gwadu ei allu na'i graffter, ond un y mae ei rinweddau wedi mwy na'u gwrthbwyso gan ei ffaeleddau - y ffaith ei fod yn hirwyntog, yn hunan-bwysig ac yn ddihiwmor ar y naw.
Gwelais chwarae'r rhan hwn mewn sawl ffordd, gyda'r actorion weithiau yn pwysleisio amcanion da Poloniws, fel bod y gwyliwr yn teimlo trueni drosto, ac ar adegau eraill yn pwysleisio'i ffaeleddau, fel bod y gwyliwr yn dod i rannu'r diffyg amynedd, onid casineb, y mae Hamlet yn teimlo tuag ato.
Ond welais i erioed Poloniws o'r blaen lle'r oeddwn yn teimlo fy mod yn adnabod y teip yma o ddyn mor dda. Yn y Saesneg, mae hoffter y cymeriad o s诺n ei lais ei hun, ei ymhyfrydu blinderus mewn clyfrwch geiriol yn cael ei weld yn nodwedd hynod.
Ond yn y Gymraeg, nid rhywbeth hynod yw'r duedd lafurus hon ond yn hytrach un boenus o gyfarwydd. Wrth glywed Poloniws yn traethu ei gynghorion i'w gynulleidfaoedd a oedd wedi eu caethiwo un ai gan boleitrwydd neu gan ofn, roeddwn fel petai yn cael fy hun yng nghwmni un o'r cymeriadau hynny sydd mor frith yn y Gymru Gymraeg - rhyw flaenor neu gyn-brifathro sydd ond yn rhy barod i arddangos cywirdeb ei farn, a chywirdeb a choethder ei Gymraeg, o flaen pa bynnag drueiniaid syrffedig sydd heb ddewis ond gwrando arno. Roedd y Gymraeg, felly, yn gyfrwng gwell i weld Poloniws fel cymeriad cig-a-gwaed.
Grym
Dyna'r cwestiwn o rym, wedyn. Mae unrhyw ddrama sy'n ymwneud 芒 brenhinoeddd yn rhwym o fod ag elfen gref o wleidyddiaeth rym ynddi, ac mae'r cynhyrchiad hwn yn sicr wedi dewis amlygu'r elfen honno o'r digwydd, yn lle, dyweder, yr elfen ddirfodol yn y dewis erchyll y mae Hamlet yn ei wynebu, sef p'un a ddylai dial am lofruddiaeth ei dad ai peidio.
Mae delweddaeth filitaraidd yn treiddio'r cynhyrchiad, o'r ffont a ddefnyddir ar gyfer y deunydd cyhoeddusrwydd, drwodd i'r set, y mae hanner ohono yn wersyll milwrol modern, i'r gwisgoedd, lle mae iwnifforms milwrol modern yn gyffredin, ac i'r digwydd ei hun, lle mae trais yn amlwg yn aml, a lle mae'n llechu dan yr wyneb yn barhaol.
Trais
Gwelir y ffrwd hon o drais yn y ffordd y mae'r cymeriadau yn ymwneud 芒'i gilydd hefyd. Er enghraifft, mae Claudiws, y brenin anghyfiawn, fel y'i chwaraeir gan y cawraidd Julian Lewis Jones, yn berwi o fygythiad cuddiedig.
Dyna Hamlet ei hun wedyn, yn y ffordd y mae'n trin ei gariad diniwed, Offelia druan, yn treisio'i hemosiynau. Yn y cynhyrchiad hwn, y trais a deimlir yn fwy na'r pathos a geir yn aml yn y berthynas hon. Chwaraeir y rhan yn wych gan Gareth John Bale, a hynny drwy ddarlunio'r tywysog fel 'bachan' ffraeth, hoffus a normal, y mae'n hawdd ymdeimlo 芒'i wewyr wrth iddo geisio rhoi trefn ar y digwyddiadau pwdr ac annaturiol a ddaeth i ran llys Denmarc.
A gwelir y peth mewn ffordd fwy cyfrwys hefyd hyd yn oed yn y modd y mae Poloniws yn siarad, achos onid treisio hunan-barch ac amynedd ei wrandawyr y mae ef drwy iddo eu gorfodi nhw i wrando ar ei draethu hunan-dybus, a hwythau heb ddewis ond rhoi clust iddo gan mor bwerus ydyw? Mae sawl ffordd o gamddefnyddio grym, felly.
A dyma ffordd arall y mae'r cyfieithiad Cymraeg yn dangos posibiliadau nad ydynt ar gael mewn Saesneg, sef y defnydd o iaith parch, hynny yw: pwy sy'n cael ei alw'n 'chi' a phwy sy'n cael ei dyd茂o. Drwy hyn, anfonir neges dawel yngl^n 芒 phwy sydd 芒'r grym yn y berthynas mewn cwestiwn.
Gan i Shakespeare ei hun fod yn anghyson yn ei ddefnydd o ffurfiau cyfatebol Saesneg ei gyfnod, 'thee' a 'you', mae'r cyfieithiad Cymraeg yn cynnig haen o weithgaredd nas ceir yn y gwreiddiol.
Saethu diangen
Ond tra'n s么n am drais, un o'r ychydig amheuon yr oedd gennyf gyda'r cynhyrchiad hwn oedd y modd y lladdwyd dau gymeriad dinod, unwaith wrth Laertes fynnu ateb gan y brenin am farwolaeth ei dad, Poloniws, ac unwaith wrth i Fortinbras o Norwy ddod i'r llwyfan yn y llinellau olaf i feddiannu'r deyrnas.
Yn yr achos cyntaf, lleihawyd y cydymdeimlad y dylid ei deimlo tuag at y fab galarus gan iddo ladd rhywun mewn ffordd mor ddidaro ac ymddangosiadol ddiangen, ac yn yr ail achos, 芒'r gynulleidfa newydd weld pedwar marwolaeth dirdynnol, gan gynnwys y prif gymeriad a'i elynion pennaf, diangen oedd saethu rhyw druan dienw oedd yn digwydd sefyll yn y lle anghywir.
At hynny, roedd defnyddio ergyd o lawddryll i ladd y ddau ddienw yma, (tra bod y cymeriadau eraill wedi cael eu gwenwyno neu eu trywanu), yn golygu bod sioc yr ergyd yn chwalu'r awyrgylch marwnadol y llwyddwyd i'w greu yn ofalus yng ngweddill yr olygfa.
Cymeraf mai ceisio cyfleu mor rhad yw bywyd yn y Ddenmarc dreisgar hon oedd y bwriad, ond gyda'r llwyfan, erbyn yr olygfa olaf, yn drwch o gyrff un brenin, un frenhines, un uchelwr ac un tywysog, go brin bod saethu rhyw werinwr druan yn ychwanegu rhyw lawer at y neges. Yn hytrach mae'n enghraifft o'r ffaith bod mwy, weithiau, yn llai.
Llwyddiant
Ond m芒n bwynt yw hwnnw. Mae'r cynhyrchiad hwn yn gampus, gyda dyluniad trawiadol, llwyfannu llawn awyrgylch, a pherffomiadau cyson ragorol, a da gennyf oedd gweld bod llawer mwy yn y gynulleidfa yn y Theatr Newydd nag a fu ar gyfer y perfformiad cyntaf yn Theatr y Grand, Abertawe, pan ddaeth, mae'n debyg, 28 o bobl yn unig.
Yn sicr, mae gwaith o'r safon hwn yn haeddu cynulleidfa. A gobeithif y bydd cynulleidfaoedd y gogledd yn manteisio ar y cyfle i'w weld pan mae'n cael ei lwyfannu yn Theatr Gogledd Cymru ar Dachwedd 22 a 23.
Gobeithaf yn wir na wnaiff y cwmni ddigalonni o gwbl, ond yn hytrach fynd ati i wneud mwy o waith o'r fath.
Wrth fwynhau'r profiad o wylio'r ddrama hon, dechreuais feddwl am ryw sefyllfa ddelfrydol lle y byddai modd mwynhau dram芒u Shakespeare i gyd yn y Gymraeg. Ac erbyn meddwl, nid yw'n syniad mor anymarferol 芒 hynny o gwbl, pe bai'r ewyllys ar gael.
Pe byddai rhyw sefydliad goleuedig yn ariannu'r gwaith o gyfieithu'r 37 o ddram芒u, gan brynu'r hawlfreintiau i'r cyfieithiadau hefyd, dyna greu adnodd gwych i garedigion y ddrama, a thrallwysiad cryf i wythiennau'r diwylliant Cymraeg.
Ymhen amser, fe fyddai gennym 37 o gyfrolau safonol, a thestunau'r dram芒u ar gael ar y we, i unigolion, cwmn茂au drama ac ysgolion eu defnyddio. A phe aed ati i gynhyrchu'r dram芒u yn rheolaidd hefyd, gellid eu ffilmio ac - o ddod i drefniant parthed yr hawliau eto - roi'r recordiadau yna allan mewn ffurf DVD ac ar y we, yn gyfraniad cyson i'r diwylliant.
Uchelgeisiol yn sicr, ond mae'r ffaith bod rhywun yn cael ei ysgogi i feddwl mewn termau hyderus o'r fath yn fesur o lwyddiant digamsyniol yr Hamlet Cymraeg hwn.