|
Owain 惭颈苍诲诺谤 Melys moes maswedd?
Fu dim rhaid troi at Bruce i chwilio am y gair Cymraeg am innuendo ar 么l bod yn gweld Owain 惭颈苍诲诺谤 - Mi Godwn Etosioe glybiau ddiweddaraf cwmni Bara Caws.
Am y rheswm syml nad ensyniadau rhywiol sydd yn y sioe hon ond j么cs cwbwl amrwd wedi eu lapio mewn rhegfeydd - a rhannau'r corff, benywaidd a gwrywaidd, yn cael eu hadnabod wrth eu henwau bob dydd ar filding seits a theledu berfeddion nos.
Cysyniad Maddeued imi am ddefnyddio'r gair ar wefan gyhoeddus, cyn naw o'r gloch, ond roedd holl Gysyniad yr arlwy yn rhywiol amrwd gyda'r budreddi lafatoraidd hwnnw y mae cymaint o Gymry mor hoff ohono yn grefi (brown wrth gwrs) dros y cyfan.
Yr un mor ddiddorol a gwylio'r sioe ar ei noson gyntaf yng ngwesty'r Eryrod, Llanrwst, oedd gwylio ymateb y gynulleidfa yn y lled dywyllwch gyda thadau y byddech yn disgwyl eu clywed yn ceryddu eu plant i beidio a rhegi felna o flaen dy fam yn gwir fwynhau clywed Llion Williams, Maldwyn John, Rhodri Evans a merched glandeg fel Sara Harris-Davies a Chatrin Mara yn defnyddio geiriau na ddylai unrhyw un heb glustiau asbestos eu clywed yn gyhoeddus!
Efallai fod y chwerthin fymryn yn betrus ar y cychwyn ond ni fu'r gynulleidfa gymysg o ran oed a rhyw yn hir cyn d诺ad i ysbryd y darn fel petae.
"Roedd o'n dda yn doedd," meddai gwraig fonheddig ar y diwedd mewn goslef oedd yn fwy o ap锚l am gadarnhad nac o fynegiant barn.
Chlywais i neb yn anghytuno - ond pwy sydd eisiau cael ei gyhuddo o fod 'yn gul' y dyddiau hyn neu'n waeth fyth, o fod yn henffasiwn.
Llai niweidiol, os rhywbeth, cael eich cyhuddo o fod yn barod i chwerthin am ben unrhyw hen fudreddi!
Mae'n rhywfaint o syndod plu mor ogleisiol ydi iaith amrwd a beiddgarwch. O, rhag ych c'wilydd chi - ond peidiwch a stopio . . .
Rhywfaint o bedigri Mae 惭颈苍诲诺谤 yn gynhyrchiad o rywfaint o bedigri wedi ei sgrifennu gan Meic Povey, dramodydd a sgriptiwr gorau'r Gymru gyfoes i rai ohonom.
Castell Harlech dan warchae yn ystod gwrthryfel Glynd诺r yw'r lleoliad ac Owain 惭颈苍诲诺谤 (Rhodri Evans) - Now Sycharth i'w ffrindiau - gyda Crach y Gwas (Llion Williams) yn ceisio cynorthwyo Owain, gyda ffalws anferth am ei ganol, i berfformio'n rhywiol a rhoi ystyr i ail gymal y teitl.
Doedd neb i'w weld yn malio fod arwr cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio fel hyn a thybed beth mae hynny'n i ddweud amdanom ni'r Cymry?
A fyddai Albanwyr mor oddefgar o weld Wallace neu hyd yn oed Rob Roy yn destun y fath faswedd a thestun sbort?
Ta beth, y tu allan i gastell Harlech, mae'r Saeson yn berchen Arf o Ddinistr Mawr newydd - ond i be aiff rhywun i baldaruo am y stori mewn cynhyrchiad sydd ond yn gyfres o sgetsus - rhai yn well na'i gilydd, pob un yn futrach na'i gilydd ac yn amrywio rhwng saith a naw mewn graddfeydd o sglyfaethdra.
Byddai'n wir, byddai mam Chubby Brown yn gwbl gartrefol gyda'r iaith er, efallai'n cael yr hiwmor rhywfaint yn eisiau gan fod hyd yn oed j么cs masweddus angen mwy na dim ond geiriau budron i gosi.
Darn doniolaf Yn rhyfedd, y darn doniolaf i mi oedd un heb ei sgriptio (efallai?) pan ymatebodd Maldwyn John i aelod o'r gynulleidfa yn picio allan. ("'Da ni 'di bod yn gweithio'n galad yn dysgu'r leins ma a ti'n mynd allan" ac ati).
Fel y byddai rhywun yn disgwyl yr oedd Maldwyn John yn rhagorol yn ei holl amrywiol rannau ac yn enwedig fel John gyferbyn a Gilbert (Rhodri Evans) yn y ddeuawd o filwyr Saesneg, Y Brodyr Gilbert.
Aeth Crach (Llion Williams) i lawr yn dda hefyd fel stor茂wr camp - ond nid penigamp - yn null Frankie Howerd gyda chyfeiriadau niferus at dyllau a phenolau.
Cosi cyfoes Fel pantomeimiau cynhwyswyd j么cs cyfoes gyda chyfeiriadau wrth basio at bethau fel: Cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o Romeo a Juliet (Pwy sydd iso theatr genedlaethol os oes gynno chi hyn? hola Crach gan gyfeirio at Owain Mindwr), Yr Arfau o Ddinistr Mawr a Tony Blair wrth gwrs, Cyngor Gwynedd, Sian Lloyd ac yn y blaen.
Ond efallai y gellid fod wedi gwneud mwy o'r math yma o gosi, digon deifiol ar adegau.
Hawdd deall sut y bydd hon yn gweithio fel sioe glybiau gan y bydd yn si诺r o fod yn ddoniolach o fod wedi oelio'ch synnwyr digrifwch ymlaen llaw gyda thripheint neu bedwar o gwrw go gryf.
Fy anlwc i oedd, gorfod bod yn ddi-ddiod i ddreifio adref ac yn fy sobrwydd cael fy nhemtio i holi onid oedd y cyfan braidd yn effin anaeddfed. Glyn Evans
Y daith Tach. 23 - 24 Eagles, Llanrwst Menter Iaith Conwy - 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd
Nos Iau Tach. 25 - 27 GWESTY DOLBADARN, LLANBERIS 01286 870277
Tach. 30 - Rhagfyr 2 CLWB WELLMANS, LLANGEFNI 01248 421660 neu 07747762395.
Rhag 3 - 4 GWESTY FRON OLEU, DOLGELLAU 07876764804.
Rhag 4 GWESTY FRON OLEU, DOLGELLAU Awel 07876764804 Rhag 7 - 8 GWESTY'R MARINE, CRICCIETH 01766 522946
Rhag 9 - 11 CLWB CHWARAEON PORTHMADOG 01766 514217
Rhag 14 - 15 CLWB RYGBI, BETHESDA 01248 601526
Rhag 17 - 18 CLWB RYGBI CRYMYCH?
Ion. 10 - 12 CLWB P脢L-DROED, CAERNARFON 01286 675607
Ion 13 GWESTY KINMEL MANOR, ABERGELE 01745 812672
Ion 15 GWESTY KINMEL, MANOR, ABERGELE
Ion 19- 20 CLWB RYGBI, BLAENAU FFESTINIOG 01766 830314 neu 01766 830005
Ion 22 CLWB RYGBI, BLAENAU FFESTINIOG eto.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|