Carys Mair Davies yn ysgrifennu am gynhyrchiad Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth o Back to the Eighties ac yn holi un o'r actorion. Tachwedd 2006.
Taith Roedd Back to the Eighties gan Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn daith: Yn daith yn 么l i'r adeg pan oedd Rick Astley yn frenin cerddoriaeth bop. Yn daith yn 么l i'r amser pan oedd colur llygaid glas a sgertiau bubble yn boblogaidd.
Roedd deunaw prif actor ac 19 o actorion eraill yn y cast yn ogystal 芒 band deg offeryn yn darparu'r gerddoriaeth.
Mae hon yn ddrama gyda llawer o gymeriadau ystrydebol. Mae Corey (Marcus Dobson) mewn cariad 芒'r ferch drws nesaf, Tiffany (Gwyneth Keyworth) sydd ond 芒 llygaid am fachgen mwyaf poblogaidd a ch诺l yr ysgol, Michael (Aled Jones).
Mae'r stori'n dilyn ymdrechion Corey i ennill calon Tiffany ac ymgais Alf (Ben Williams) a Kirk (Tom Jones) i ddod i delerau 芒 diwedd degawd.
Dim ond Fearegal McFerrin (James Hancock-Evans) sy'n croesawu gwawr yr oes dechnolegol.
Ysbrydoli Perfformiad gwerth chweil o ddrama sy'n ysbrydoli ac sy'n gwneud i aelodau'r gynulleidfa fod yn ddiolchgar am yr hyn sydd ganddynt.
Roedd y ddrama hefyd yn dwyn atgofion i nifer o'r gynulleidfa gan fod llawer ohonynt yn cofio'r sgert bubble a Rick Astley.
Rwy'n hynod o falch i mi fynd i'w gweld. Roedd yn anhygoel faint o dalent oedd ar yr un llwyfan z buaswn yn ei hargymell i unrhyw oedran.
Holi actor Wedi'r perfformiad bum yn holi James Hancock-Evans am ei brofiad yn chwarae 'swot' y dosbarth a'i feddwl ymhell o flaen ei oes yn rhagweld cryno ddisgiau a ffonau symudol.
Wrth gwrs, ni thalodd neb fawr o sylw iddo yn 么l yn yr Wythdegau.
Wnest ti fwynhau bod yn y ddrama?
Do, yn fawr iawn. 'Roedd y profiad yn un unigryw ac fe wnes fwynhau gweithio gyda'r actorion eraill.
Pa agwedd o'r ddrama oedd orau i ti?
Cael chwarae cymeriad rili 'nerdy'! 'Roedd hynny'n hwyl gan ei fod allan o'm personoliaeth i'n llwyr!!
Rhywbeth a fwynheais yn fawr iawn hefyd oedd y symudiadau karate fu'n rhaid imi eu dysgu er mwyn cael dysgu gwers i Michael [bwli poblogaidd yr ysgol]!!
Faint o ymarfer fu yna?
'Roedd y cynhyrchiad yn ganlyniad i dymor o ymarfer efo Theatr Ieuenctid Canolfan y Celfyddydau. 'Roedd yr ymarfer yn flinedig ac yn eithaf llafurus ond 'roedd ffrwyth ein llafur yn werth chweil!!
Pa olygfa oedd orau gennyt?
Yr olygfa karate lle dwi'n curo bwli'r ysgol! Gweithiodd Aled a minnau'n galed er mwyn perffeithio'r symudiadau.
Wyt ti'n falch bod y cyfan drosodd?
Nac ydw! Fe fyddaf yn hiraethu am y gang a'r ymarferion!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.