成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Cast Les Mis ar lwyfan Theatr Donald Gordon Adolygiad Les Mis茅rables
Adolygiad o Sioe Les Mis茅rables, gan Gwmni Theatr Cenedlaethol yr Urdd, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Mai 31, 2005.
Sioe ieuenctid tra gwahanol i'r arfer a berfformir yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni. Cyfieithiad Tudur Dylan Jones o'r sioe gerdd Les Mis茅rables gan Alain Boublil a Claude-Michael Sch枚nberg ydyw - fersiwn ysgolion.

Mae'n rhaid dweud fod hon yn ddewis uchelgeisiol iawn i griw mor ifanc. Mae'n braf iawn gweld yr Urdd yn arloesi ac yn cynnig profiad o'r fath i bobol ifanc wrth gwrs. Un o brif amcanion yr Urdd yw meithrin talentau ifanc a rhoi cyfleon newydd, ffantastig i ieuenctid Cymru - a does dim dwywaith fod hynny yn beth da.

Mae'n rhaid codi'r cwestiwn er hynny - a oedd dewis sioe drom, tair awr yn syniad mor dda a hynny, o ystyried fod aelodau'r cast yn ddisgyblion o ysgolion o draws Cymru ac roedd ymarfer fel cast llawn yn gyson yn peri dipyn o sialens i'r bobl ifanc a'r t卯m cynhyrchu a chyfarwyddo. Mi ddof yn 么l at y cwestiwn hwn ar y diwedd.

Trwy wario 拢5, cewch gopi o raglen y sioe - ac mae'n werth gwneud hynny gan fod y rhaglen yn rhoi crynodeb lawn iawn o'r stori (reit hanfodol os nad ydych yn gyfarwydd 芒'r nofel na'r sioe gerdd) gan fod y plot yn un reit drwm ac roedd yn anodd weithiau i ddilyn y stori yn y canu. Mae'n handi hefyd i weld wynebau'r cast, gan fod y gwisgoedd (o dan ofal Edwina Williams Jones) a'r coluro mor effeithiol, mae'n anodd gwybod pwy yw pwy ar y llwyfan.

Y stori
Ceisiaf fy ngorau yma i grynhoi o'r grynodeb a geir yn y Rhaglen. Mae'r sioe wedi ei gosod yn Ffrainc yn nechrau'r 19eg ganrif, lle roedd amgylchiadau'r tlawd yn wael iawn. Agorir y sioe yn Toulon yn Ffrainc yn 1815, lle mae'r carcharor Jean Valjean yn cael ei ryddhau o'r carchar wedi 19 mlynedd o gaethiwed, a wedi cael help gan Esgob caredig mae'n penderfynu cychwyn ei fywyd o'r newydd.

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, wedi newid ei enw mae'n berchennog ffatri ac yn Faer tref Montreuil sur Mer, ac mae'r gweithwyr yn anfodlon gyda'u bywydau tlawd. Mae gan un o'r gweithwyr, Fantine, ferch o'r enw Cosette, sy'n byw gyda thafarnwyr mewn tref arall. Pan mae Fantine ar ei gwely angau, daw Jean Valjean ati i'w helpu ac addo cymryd gofal dros Cosette wedi marwolaeth Fantine. Mae'n llwyddo i gymryd y ferch oddi wrth berchnogion y dafarn, lle mae'n byw o dan amgylchiadau creulon.

Mae Valjean a Cosette yn ymddangos ym Mharis ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Marius yn syrthio mwn cariad 芒'r ferch ifanc. Yn y cyfnod hwn, mae'r myfyrwyr ym Mharis yn paratoi at wrthryfel, ac yn y pen draw maen nhw yn marw wrth ymladd, ar wah芒n i Marius a Valjean. Mae Valjean yn achub Marius heb yn wybod iddo, ac ar ddydd ei briodas 芒 Colsette mae Marius yn darganfod y gwir am Valjea, a Cosette hefyd yn dod i ddeall y gwir am ei mam.

Y perfformio:
Cast les MisAt y perfformio. Mae'n rhaid canmol. I griw o gant o ddisgyblion ysgol ar draws Cymru ddod at ei gilydd a pherfformio sioe mor uchelgeisiol a heriol, mor raenus ac aeddfed - pob clod iddyn nhw ac i Carys Edwards, a Peter Davies a'r holl d卯m cyfarwyddo a chynhyrchu- roedd yn dipyn o sialens ond mi lwyddwyd i gynhyrchu sioe broffesiynol iawn, a'r gynulleidfa a oedd yn llenwi Theatr Donald Gordon wedi eu plesio.

Ar adegau yn ystod y sioe roedd modd anghofio mai criw o ddisgyblion o ysgolion Cymru oedd ar y llwyfan. Roedd rhai lleisiau yn enwedig rhai Dani Davies (Fantine), Elain Llwyd (Eponine), Rhys Meggy (Jean Valjean) a Sion Ifan (Thenardier) yn arbennig o dda. Trueni erbyn y diwedd roedd rhai o'r lleisiau yn gwanhau ac yn torri ychydig - atgof mai pobl ifanc iawn oedd ar y llwyfan mewn gwirionedd ac nid cantorion proffesiynol.

I mi, roedd yna un neu ddau actor yn sefyll allan. Perfformiadau Sion Ifan a Siriol Dafydd fel Thenardier a Mme Thenardier oedd yr uchafbwynt i mi. Nid yn unig roedden nhw yn ychwanegu elfennau o hiwmor (ac roedd angen hynny ar brydiau) yn effeithiol iawn, ond mae ganddyn nhw leisiau cryf iawn ac fe wnaethon nhw lwyddo i gynnal y canu trwy gydol y sioe - a hynny trwy eirio yn glir hefyd. Chware teg.

Roedd y set yn effeithiol iawn, yn enwedig yn ystod golygfa'r gwrthryfel - roedd y goleuadau yn drawiadol hefyd.

Y gerddorfa
Nid ellir osgoi s么n am y gerddorfa arbennig ychwaith. Tim Rhys Evans yw Cyfarwyddwr cerdd y sioe ac arweinydd y gerddorfa John Quirk. Disgyblion ysgol oedd rhan helaeth o aelodau'r gerddorfa - cerddorion dawnus tu hwnt a gwaith da, chware teg.

Problemau Sain
O edrych ar y sioe o ochr dechnegol, yn anffodus ar y nos Fawrth cafwyd problemau gyda'r meicroffonau personol ar wisg y perfformwyr. Doedd y sain ddim yn cael ei ddiffodd wrth i'r disgyblion adael y llwyfan bob tro, ac roedd modd clywed sibrwd cefn llwyfan ar adegau. Hefyd roedd lefel y sain yn amrywio gyda'r cantorion, a oedd eto yn amharu ar ein mwynhad o'r caneuon. Roedden ni'n cael ein tynnu allan o naws y sioe ac roedd hi'n anodd weithiau i fynd yn 么l i mewn i ddeall y stori. Roedd pethau dipyn yn well erbyn yr ail hanner, ond gobeithiaf yn fawr y bydd hyn wedi ei adfer erbyn perfformiad nos Fercher. Byddai'n drueni enbyd bod problem dechnegol fel hon yn cael effaith mor negyddol ar waith caled y disgyblion a'r cyfarwyddwyr dros y tri mis diwethaf.

Roedd gen i ddisgwyliadau uchel yn cyrraedd Theatr Donald Gordon nos Fawrth, Mai 31. Wedi bod yn gwylio'r ymarferion ym mis Ebrill a chael blas ar ddwy g芒n o'r sioe yng nghyngerdd agoriadol yr Urdd nos Sul. Er na chefais fy siomi, dw i'n credu'n gryf y dylid ystyried, wrth fod yn uchelgeisiol, a yw'r sioe mewn gwirionedd yn addas ar gyfer disgyblion ysgol. Do, mi lwyddodd y perfformwyr ifanc hyn i gario'r sioe drom a heriol hon, ond dim ond jyst. Oedd, mi roedd yna broffesiynoldeb ac mi roedd yna leisiau aeddfed tu hwnt, ond fedr y disgyblion ddim gwneud mwy na'u gorau gyda sioe a oedd efallai ychydig y tu hwnt i'w cyrraedd.

Does dim dwywaith fod yna ddyfodol disglair i rai o'r prif gymeriadau a welwyd yn Les Mis, os fedran nhw ganu a pherfformio fel hyn heb hyfforddiant proffesiynol, yna mae pethau'n argoeli'n ddai iawn i'r bobl ifanc!

Pob hwyl i chi ar gyfer yr ail berfformiad.

Gan: Elin Davies

  • Lluniau o ymarferion y sioe
  • Sgwrs gyda Carys Edwards
  • Holi'r cast




  • About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy