成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Canolfan y Mileniwm 厂别谤别尘辞苍茂补耻
Prif seremon茂au a gweithgareddau
DYDD LLUN
PRIF FEDAL GELF:
Cyflwynir mewn defod arbennig yn ystod y seremoni agoriadol. Rhoddir y Fedal Gelf gan Wasg Gomer, Llandysul. Meistr y Ddefod fydd Rhun ap Iorwerth a'r beirniaid yw Clive Williams a Dafydd Morris Brace Jones.

Y FEDAL LENYDDIAETH:
Rhodd Rhian a Dafydd Huws, Ffwrnes Blwm, CaerffiliMeistres y Ddefod eleni yw Gwyneth Glyn a'r beirniaid yw Angharad Price a Mari George.

DYDD MAWRTH
MEDAL Y DYSGWYR:
Rhodd Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ogystal 芒 rhodd o docyn llyfr gwerth 拢50.00 gan Gronfa Goffa Gwyn Daniel i gofio canmlwyddiant geni Gwyn ac Annie Daniel ym mis Awst 1904.Meistr y Ddefod yw Steven Wilshaw a'r beirniaid yw Nia Parry a Nerys Roberts.

DYDD MERCHER
Y FEDAL DDRAMA:
Rhodd Huw a Carol Davies, a'r teulu, er cof am rieni Huw - Eic a Beti Davies a'i chwaer Bethan. Meistr y Ddefod eleni yw Daniel Evans a'r beirniaid yw Mari Rhian Owen a Lowri Hughes.

DYDD IAU
Y CADEIRIO:
Rhodd Menter Caerdydd. Meistr y Ddefod yw Ifan Prys a'r beirniaid yw Ceri Wyn Jones a Karen Owen.

MEDAL JOHN A CERIDWEN HUGHES, UWCHALED:
I gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru. Cyflwynir medal John a Ceridwen Hughes gan Dewi a Gerallt Hughes. Meistres y Ddefod yw Carol Davies, Llywydd yr Urdd.

DYDD GWENER
Y CORONI:
Roddir replica o'r goron eleni gan Nan Griffiths a'r teulu er cof am Merfyn Griffiths, Prifathro cyntaf Ysgol Gyfun Llanhari. Meistres y Ddefod yw Angharad Elen a'r beirniaid yw Emyr Davies a Gwyneth Glyn.
Fel rhan o'r wobr bydd lle ar gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu T欧 Newydd, Llanystumdwy yn cael ei gynnig i enillwyr cyntaf, ail a thrydydd yng nghystadlaethau Y Gadair, Y Goron, Medal y Dysgwyr, Y Fedal Lenyddiaeth, a'r Fedal Ddrama.

TLWS Y PRIF GYFANSODDWR:
Cyflwynir Medal Grace Williams gan Rhiannon Lewis ynghyd 芒 rhodd o 拢100 gan Ymddiriedolaeth Pendyrus. Meistres y Ddefod fydd Nerys Richards a'r beirniad yw Euros Rhys Evans.

YSGOLORIAETH BRYN TERFEL:
Y chweched ysgoloriaeth a sefydlwyd yn dilyn cyngerdd arbennig yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd, 1998 gyda Bryn Terfel a nifer o artistiaid eraill.

Bydd enillwyr wyth cystadleuaeth yn dychwelyd i gystadlu yn y Galeri, Caernarfon, nos Wener, Medi 16 2005 am yr Ysgoloriaeth sydd werth o gwmpas 拢4,000 i'w ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant pellach mewn maes arbenigol.

Bob dydd
ARDDANGOSFA CELF A DYLUNIO TECHNOLEG:Ar y thema Newid. Am y tro cyntaf bydd y gweithiau dau ddimensiwn yn cael eu harddangos yn orielau Canolfan y Mileniwm, ar y llawr cyntaf a'r ail lawr, a bydd y gwaith tri dimensiwn yn cael ei arddangos mewn ystafell ar yr ail lawr.

ARDDANGOSFA GWYDDONIAETH A MATHEMATEG:
Diolch i gefnogaeth gan yr Institute of Physics a'r Association of Science a grantiau gan flwyddyn Einstein a PPARC bydd Lab Mewn Lori a Star Lab yn yr Eisteddfod eleni.

ANTUR CELF:
Yng nghyntedd Canolfan y Mileniwm. Cyfle i wybod mwy am Ganolfan Mileniwm Cymru a'i chwmn茂au preswyl.

DAWNS:
Neuadd Ddawns yn adeilad Cwmni Dawns Diversions. Cynhelir holl gystadlaethau dawnsio disgo ar lwyfan y 成人快手. Mae llwyfan hefyd yng nghanol y Roald Dahl Plass, a bydd llawr dawns wedi cael ei osod ar hwnnw.

KTA:
Pabell draddodiadol yr helwyr ceirw S谩mi o Laplandi. Dechrau'r wythnos gwelir Plwmbo'r Clown a Rosfa'r Consuriwr gyda gweithgareddau i bobl ifanc oedran uwchradd ar ddiwedd yr wythnos.
Brecwast masnach deg yno yn y boreau.

MAES CHWARAEON:
Yn ogystal 芒'r ddarpariaeth arferol o rygbi, p锚l-droed, golff, p锚l-fasged a Champau'r Ddraig bob dydd, mae wal ddringo Glan-llyn a thrampol卯n Llangrannog ar y maes hefyd.

DOSBARTHIADAU MEISTRI:
Cyfle i fuddugwyr pob Rhanbarth elwa o brofiad meistri yn eu maes, Gwyn Hughes Jones, Iwan Llywelyn Jones, Catrin Finch ac Arthur Davies.




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy