 |
 |
 |
Dathliad Bethan Gwanas Llywydd y Dydd yn dathlu ugain mlynedd |
 |
 |
 |
Yr oedd dydd Llun yr Eisteddfod yn gyfle i lywydd y dydd, Bethan Gwanas, hel atgofion am ymweliad Eisteddfod yr Urdd 芒 Chaerdydd ugain mlynedd yn 么l - a hithau'n ennill y Goron!
Gwneud gwaith VSO yn Nigeria oedd hi ar y pryd - a chael teithio adre'n arbennig i'w choroni.
"Yn Nigeria y gwnes i sgrifennu'r gwaith ond doedd gen i ddim papur iawn i wneud hynny ac yr oeddwn i'n gorfod gludo cywiriadau ar y papur - doedd yna ddim cyfrifiaduron yr adeg honno," meddai.
Gyda'i thad ar ymweliad a Nigeria dros 糯yl Dewi rhoddodd yr ymgais mewn amlen iddo ef ddod 芒 hi adref.
"A rhoi gorchymyn iddo ddweud wrth Mam am fy ymaelodi yn aelod o'r Urdd ac anfon yr ymagis i mewn," meddai.
Dywedodd Bethan ei bod yn amheus a fyddai hi yn sgwennu heddiw oni bai iddi fod yn cystadlu - ac ennill - gyda'r Urdd.
"Er, ail fyddwn i gan amlaf ," meddai, "gyda Marged Roberts, awdurTecwyn y Tractor yn gyntaf!".
"Ond yr ydw i'n amau a fyddwn i'n sgrifennu heddiw oni bai am yr Urdd," meddai.
Diolchodd hefyd am y cyfle i ymh茅l a gweithgareddau awyr agored gyda'r mudiad gan dybio i hynny fod yn gymorth iddi gyda'i gyrfa yn gyflwynydd rhaglenni taith ar y teledu.
Yr oedd Bethan yn rhannu'r dyletswydd o fod yn Llywydd y Dydd gydag awdur arall, T Llew Jones na allai fod yn bresennol.
Ond darllenwyd neges oddi wrtho yn llongyfarch ac yn dymuno'n dda i'r mudiad.
Llywyddion yr 糯yl
 |
 |
 |
 |
|
|