 |
 |
G诺yl Feithrin Bydd G诺yl y Mudiad Ysgolion Meithrin yn cael ei lansio gan Triongl yn yr Eisteddfod. |
 |
 |
 |
Y tywydd a'r tymhorau yw thema'r 诺yl eleni ac ym mhabell y Mudiad yn yr Eisteddfod bydd arddangosfa o waith plant sy'n mynychu cylchoedd meithrin yng Nghaerdydd.
Bydd Triongl - gr诺p sy'n ymddangos ar y rhaglen Triongl ar Planed Plant Bach - yno am dri y pnawn Llun i roi cychwyn i 诺yl sy'n cael ei chynnal ar hyd a lled Cymru yn ystod tair wythnos olaf Mehefin.
"'Bwriad yr 诺yl yw dathlu'r holl waith da a wneir yn ein holl gylchoedd meithrin," meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata'r Mudiad.
Bydd pob cylch meithrin a chylch Ti a Fi wedi derbyn pecyn o adnoddau ar y thema sy'n cynnwys llyfr gweithgareddau i'r arweinydd, llyfr lliwio i'r plant a ddyluniwyd gan S4C ac sy'n cynnwys lluniau o gymeriadau Planed Plant Bach a CD o ddeg o ganeuon Cymraeg i blant gan Triongl.
Ymhlith gweithgareddau yr 糯yl Feithrin bydd gynnwys picnic i fil o rieni a phlant o gylchoedd meithrin ardal Caerdydd 芒 Sain Ffagan (Mehefin 15) gyda'r gantores Gwenda Owen.
Yna, bydd tua mil o blant o gylchoedd meithrin Ceredigion yn ymweld 芒 Phentre Bach, cartref Sali Mali ym Mlaenpennal (Mehefin 13 - 16, 20 - 24, 27 a 30) a bydd ras fal诺ns yn Rhydaman.
Mae tua 550 o gylchoedd meithrin yng Nghymru a 450 o Gylchoedd Ti a Fi.
 |
 |
 |
 |
|
|