Ysgrifennodd awdl mewn cynghanedd gyflawn ar y thema 'Gorwelion'. Trosglwyddo etifeddiaeth yw thema'r gwaith a hynny'n cael ei ddarlunio trwy gyfrwng tad yn cyflwyno'r etifeddiaeth Gymreig ar ffurf straeon i'w ferch fach - merch sydd, yn 么l Tudur Dylan, yn gyfuniad o'i ddwy ferch of ei hun: Catrin, 15, a Siwan, 11. "Efallai ei bod hi'n ofn gan bob un ohonom ni yn y pen draw ein bod ni'n heneiddio a bod straeon oeddem ni'n arfer eu cofio yn mynd yn angof," meddai. Daeth ei lwyddiant cyntaf yn Eisteddfod Abergele yn 1995, union ddeng mlynedd yn 么l. Mae Dylan yn ymuno 芒 chriw dethol o brifeirdd sydd wedi eu cadeirio ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae rheolau'r Eisteddfod yn dweud na all Prifardd ennill mwy na dwy gadair felly dyma'r tro olaf i ni allu canmol Dylan ar ei gamp. Cynhaliodd Ysgol Farddol Caerfyrddin noson i'w gyfarch ac i ddathlu ei lwyddiant yn neuadd yr Halliwell yn ddiweddar. Roedd hi'n noson arbennig iawn ac yn gyfle i bobl y cylch i ddangos ein gwerthfawrogiad o'i lwyddiant. Llongyfarchiadau mawr Dylan.
 |