成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Alun Harries Portread y mis - Alun Harries
Tachwedd 2004
Alun Harries sydd o dan y chwyddwydr ym mhapur bro Cwlwm y mis hwn, yn y golofn Portread y Mis.
Rhowch eich cefndir i ni
Fe'm ganwyd yn ieuengaf o saith o blant ym mhentref Blaenffos, ger Crymych, Sir Benfro. Euthum i Ysgol y Preseli ac wedi cwblhau arholiadau lefel 'A' b没m yn gweithio am flwyddyn mewn archfarchnad 'Fine Fare' yn nhref Aberteifi. Mi wnes i fwynhau y profiad yno a dysgais lawer iawn am bobl a'u hagwedd tuag at weithwyr siop. Fe fu'n addysg da cyn ymuno 芒'r heddlu.

Ymunais 芒 Heddlu Dyfed Powys ym 1982 a threuliais ddwy flynedd yn Aberystwyth cyn gweithio wedyn yn nhrefi Caerfyrddin, Dinbych y Pysgod, Cwmbran (lle b没m yn hyfforddi swyddogion newydd), ac o'r fan hynny euthum i Lanelli am y cyntaf o bum 'posting' yno (cyn belled!).

Ym 1996 b没m yn gyfrifol am y trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo, ac roedd cydweithio gyda Penri Roberts a'i griw yn swyddfa'r eisteddfod yn brofiad diddorol iawn. Tra yno ymunais 芒 ch么r yr eisteddfod pan lwyddom i berfformio 'Breuddwyd Gerontius' ym mhafiliwn yr eisteddfod yn y diwedd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd mi wnes raddio mewn Cymdeithaseg a Seicoleg gyda'r Brifysgol Agored.

Rwyf wedi dal nifer o swyddi gwahanol dros y blynyddoedd yn ein pencadlys yn Llangynnwr, gan gynnwys bod yn bennaeth at yr adran bersonnel ac hyfforddiant. Dychwelais i ranbarth Sir Gaerfyrddin cyn mynd i weithio yn y Swyddfa Gartref yn Llundain rhyw flwyddyn yn 么l.

Er fy mod bellach yn gweithio yn Llundain rwy'n dychwelyd adref i Beniel at Christine a'r plant bob penwythnos.

Beth a wnaeth i chi ddewis eich gyrfa?
Roedd fy mryd wedi bod ar ymuno 芒'r heddlu ers rwy'n cofio, a'r gofid mwyaf pan roeddwn yn grwt ifanc oedd y broblem o gyrraedd chwe troedfedd mewn taldra. Roedd fy rhieni a'm brodyr a chwiorydd i gyd yn gymharol fyr, ond fe weithiodd cyngor fy mam o hongian oddi ar y 'landing' yn dda iawn erbyn y diwedd!

Un o'r rhesymau pennaf dros ymuno 芒'r heddlu oedd y cyfleoedd gwahanol roedd yr heddlu yn cynnig mewn gyrfa. Yn wir, wrth edrych yn 么l dros 22 o flynyddoedd rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio mewn llawer o wahanol lefydd gyda phobl gwahanol iawn - y drwg a'r da gyda'i gilydd. Er bod pethau o fewn yr heddlu wedi newid yn rhyfeddol yn ystod fy ngyrfa ac yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sai'n difaru ymuno 芒'r heddlu am un eiliad; mae'r gwasanaeth wedi bod yn garedig iawn i mi dros y blynyddoedd ac rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael llawer iawn o wahanol gyfleoedd a phrofiadau.

Yn eich t欧b chi, beth yw achos y cynnydd mewn troseddi?
Y gwir amdani yw bod y nifer o droseddau heb gynyddu am sawl blwyddyn. Yn wir, at lefel genedlaethol mae'r nifer o droseddau difrifol wedi cwympo yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf penawdau'r papurau, Caerfyrddin yw un o drefi mwyaf diogel Prydain, ac mae'r buddsoddiad sylweddol a wnaethpwyd mewn mesurau diogelwch megis camer芒u CCTV er enghraifft gan yr awdurdodau lleol wedi gwneud cyfraniad mawr i leihau effaith troseddau ar ein cymdeithas.

Yn draddodiadol yr heddlu fu'n bennaf gyfrifol am geisio rheoli troseddau yn ein cymdeithas ond er 1998 mae partneriaid megis Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at wella pethau. Rwy'n cydnabod bod llawer iawn o waith i wneud eto ac mae un trosedd yn ormod i'r dioddefwr. Ond rhaid bod yn realistig a chydnabod mai ewtopia yw'r ddelwedd o gymdeithas gwbl ddi-drosedd. Yn fy nh欧b i yr unig ffordd i wir leihau troseddi yw trwy barhau i weithio law yn llaw gyda'n partneriaid i gyd, gan gynnwys yr awdurdodau iechyd ac addysg.

Un ffurf o droseddi sydd wedi tyfu'n ofnadwy ers i mi ymuno a'r heddlu, a'r hyn sy'n peri'r gofid mwyaf i mi fel rhiant a heddwas, yw'r camddefnydd a wneir o gyffuriau. Cyffuriau yw cancr cymdeithasol ein hoes ac mae'n rhaid gwneud llawer iawn yn fwy i wella'r sefyllfa. Rhaid gwneud mwy i ddysgu ein plant am y peryglon ac mae'n bwysig creu mwy o wasanaethau i drin y cannoedd (yn ein cymdeithas leol) sy'n gaeth i gyffuriau.

Er fy mod yn credu'n gryf mai'r drwg yn y caws yw'r bobl sy'n delio mewn cyffuriau, a dylid gwneud popeth posibl i gloi y rheini allan o'n cymdeithas, mae na lawer iawn o bobl sydd wedi dod yn gaeth i gyffuriau heb fod yn droseddwyr yng ngwir ystyr y gair. Yn anffodus mae dibyniaeth at gyffuriau yn gallu magu gyrfaoedd mewn troseddi ac mae'n rhaid i ni gyd i weithio'n galetach yn y cyswllt hyn.

Mae gennych bedwar o blant. Beth yw eich breuddwyd ar eu cyfer?
Fel pob rhiant y peth pwysicaf i mi yw eu bod yn parhau'n iach ac yn gwneud eu gorau mewn bywyd. Mae'r pedwar - Mair (12) Sioned (11) Huw (8) Iwan (7) - yn gymeriadau cwbl wahanol a chanddynt eu diddordebau, cryfderau a gwendidau unigol.

Sut byddwch yn treulio eich amser hamdden?
Cyn mynd i Lundain roeddwn yn treulio bob prynhawn Sadwrn naill ai yn dyfarnu gemau rygbi neu yn chwarae criced yn yr haf. Yn anffodus daeth y cwbl i ben pan euthum i Lundain (o leiaf am y tro!!) ac ar benwythnosau tra adref fy r么l penodol yw actio fel gyrrwr tacsi i'r plant! Rwy'n ceisio 'ngorau i gadw'n heini ac felly rwy'n gwneud tipyn o redeg, seiclo a nofio. Mae na hen ddigon o bethau i wneud yn y ddinas fawr ac rwyf wedi bod mewn sawl g锚m b锚l droed, criced, a hefyd erbyn hyn rwyf wedi gweld y mwyafrif o olygfeydd Llundain, gan gynnwys yr amgueddfeydd a rhai o'r sioeau enwog.

Er hynny, rwy'n bwriadu parhau i 'achub ar y cyfle' fel petai. Mae na lawer iawn o bethau ar 么l ar fy rhestr i gyflawni, ac mae'r teulu i gyd yn mwynhau pob siawns i ddod i aros yn y fflat yn Westminster.

Pwy rydych yn ei enwebu?
Don Davies, Rhydybont, Bronwydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy