成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
H茅l猫ne Evans a'i dau fab Holi H茅l猫ne
Tachwedd 2005
Portread y mis - H茅l猫ne Evans, ym mhapur bro Cwlwm.
Nid yw'r enw H茅l猫ne yn un traddodiadol Cymreig felly o ba gefndir y dewch?
Rwy'n dod o Lydaw yn wreiddiol a chefais fy magu yn nhref borthladd Audierne yng Ngorllewin Llydaw. Roedd fy rhieni, fy nwy famgu a'm dau dad-cu yn siarad Llydaweg.

Beth wnaeth eich denu i fyw yn ardal Caerfyrddin?
Cefais alwad ff么n gan Fran莽oise Davies, pennaeth Adran Ffrangeg Ysgol Uwchradd Aberaeron, ym mis Mehefin 1993. Roedd hi am i mi weithio gyda hi fel "Assistante" am flwyddyn. Ar ddiwedd y flwyddyn honno gwnes benderfynu aros yng Nghymru er mwyn dilyn cwrs gradd mewn dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel myfyrwraig, roedd rhaid i mi wneud ymarfer dysgu ac felly, es i Ysgol Uwchradd Maridunum yng Nghaerfyrddin. Es allan un penwythnos gyda fy ffrindiau a dyna sut cwrddais a Vaughan, fy ng诺r. Symudais i Gaerfyrddin ym 1995.

Mae Caerfyrddin wedi gefeillio gyda thref Lesneven yn Llydaw. Beth yn eich barn chi all y gwledydd Celtaidd ddysgu wrth ei gilydd?
Rwy'n credu fod Llydaw wedi dysgu mwy gan Gymru. Mae'r Cymry yn bobl falch a chanddynt ddiwylliant cyfoethog. Yn gynnar iawn yn eu haddysg, mae plant yn cael cyfle i berfformio a datblygu eu sgiliau celfyddydol. Serch hynny, mae gyda ni yn Llydaw ein treftadaeth a'n hetifeddiaeth ddiwylliannol ein hunain. Mae'r cyfnewid sy'n digwydd rhwng Llydaw a Chymru yn dod 芒 ni, fel pobl, yn agosach ac yn gwneud i ni werthfawrogi ein gwahanol ffyrdd o fyw.

Roeddech yn s么n bod eich teulu'n siarad Llydaweg. Ydych chi'n medru'r iaith ac a yw hyn yn bwysig i chi?
Cefais fy magu yn Ffrangeg a dysgu Llydaweg yn yr ysgol pan oeddwn yn 14 mlwydd oed. Dyna roeddwn yn ei olygu wrth ddweud fod Llydaw wedi dysgu mwy gan Gymru na Chymru gan Lydaw. Erbyn hyn mae ysgolion yn Llydaw yn cynnwys Llydaweg fel pwnc yn yr ysgol iau (Blwyddyn 7). Rydym yn fwy ymwybodol o'r Llydaweg ac yn fyw ymwybodol o'r angen i drosglwyddo'r iaith i'r bobl ifanc.

Wrth fagu eich plant pa ieithoedd ydych yn eu hannog i'w siarad?
Gan ein bod yn byw yng Nghymru, Cymraeg a Ffrangeg. Mae Ioan, ein plentyn hynaf yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Y Dderwen. Yn naturiol yr wyf yn siarad Ffrangeg gyda nhw gan mai dyna'r iaith rydw i wedi'i defnyddio ers pan oeddwn yn fach. Mae fy nheulu i gyd yn dal i fyw yn Llydaw a Ffrainc ac mae'n bwysig bod fy meibion, Ioan a Tomos, yn medru cyfathrebu gyda'r ochr Ffrengig o'r teulu.

Pam dewis bod athrawes?
Wrth ddysgu Ffrangeg, rwy'n rhoi cyfle i'r plant ddarganfod byd sydd yn hollol wahanol. Yn fyw na dysgu'r iaith rwy'n s么n am eu ffordd o fyw. Mae'n well gennyf weithio gyda phlant nag oedolion!

Pe na baech wedi bod yn athrawes beth arall fyddech wedi hoffi'i wneud fel gyrfa?
Byddwn am weithio y tu allan yn yr awyr agored neu mewn swydd sy'n rhoi cyfle i mi deithio. Rwy'n hoff iawn o ymweld 芒 gwledydd eraill.

Rydych yn s么n am eich hoffter o deithio. Ble mae eich hoff le?
Audierne, Llydaw, ble mae fy rhieni a'm teulu yn dal i fyw. Roedd rhaid i mi adael Audierne i ddod i fyw i Gymru ac mae hyn wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw Audierne i mi.

Beth yw'ch diddordebau?
Rwy'n ymlacio orau wrth goginio yn y gegin. Rwy'n teimlo'n agos at gefn gwlad ac yn hoffi cerdded yn fy amser hamdden. Rwy'n brysur iawn ar hyn o bryd yn magu dau fachgen bach ac yn mwynhau treulio amser gyda nhw ar 么l dod adre o'r gwaith ac yn ystod y gwyliau.

Beth yw'ch "moment orau" neu pa ddigwyddiad sydd wedi bod yn uchafbwynt i chi?
Pan wnes i eni Ioan a Tomos. Byddai unrhyw fam yn gwybod beth yn union rwy'n ei olygu.

Pwy ydych yn ei enwebu ar gyfer y mis nesaf?
Emlyn Schiavone.


Cyfrannwch

Bethany Mason
Rydw i yn hoff iawn o'r athrawes yma, ac mae Ffrangeg yn un o'r wersi orau yn y byd i gyd!!
Mon Jan 28 18:58:31 2008

Gwion Mainwaring
Yr athrawes orau yn y byd! Ffrangeg yn A7 = y wers orau.
Sun Jan 27 21:40:13 2008


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy