成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Cerys Bowen - Rheolwr newydd Prosiect Papurau Bro Penodiad newydd i brosiect Papurau Bro
Ebrill 2003
Pleser gan bwyllgor llywio y Prosiect Papurau Bro yw cael cyhoeddi penodiad Rheolwr ar gyfer datblygu'r cynllun. Fe fydd Cerys Bowen yn dechrau yn ei swydd ganol mis Ebrill, ac yn arwain y prosiect arloesol hwn.

Merch o Rydaman yw Cerys, sydd bellach wrthi'n paratoi ei chartref newydd yn Ffairfach, ger Llandeilo. Mae ganddi gryn brofiad yn y maes newyddiadurol fel Gohebydd Celfyddydau i'r cylchgrawn Golwg ac yn ddiweddarach fel Gohebydd ir rhaglenni Heno, Wedi Chwech a Wedi Saith ar S4C.

Derbyniodd radd gyfun BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 1999, cyn mynd ymlaen i dderbyn gradd uwch mewn Newyddiaduraeth o Brifysgol Cymru Bangor flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae Antur Teifi ar y cyd 芒 Mentrau Iaith Myrddin wedi derbyn arian Amcan Un i gynorthwyo i ddatblygu ac ehangu pump o bapurau bro Sir Gaerfyrddin, sef Cardi Bach, Clebran, Cwlwm, Y Garthen ac Y Lloffwr. Bydd hyn yn eu galluogi i gydweithio yn agosach a rhannu o brofiadau ac arferion da ei gilydd.

Y nod yw cydweithio gyda gwirfoddolwyr presennol y papurau er mwyn denu mwy o newyddion a nawdd a mwy o ddarllenwyr a chyfranwyr o bob oedran a phob carfan o'r gymdeithas. Drwy hyn gellir datblygu syniadau o'r newydd er mwyn ychwanegu at y cyfraniad aruthrol mae'r papurau yn ei wneud i'w cymunedau eisoes. Fe fydd y cyfan yn dod o dan arweiniad Rheolwr y prosiect, Cerys Bowen, a fydd yn arwain y t卯m o ddau Olygydd, Swyddog Marchnata a Chynorthwy-ydd Gweinyddol.

"Rwy'n gyffrous iawn i fod yn arwain y prosiect newydd hwn o'r dechrau'n deg," meddai Cerys. "Rwy'n edrych ymlaen at gynnig nifer o syniadau newydd i wirfoddolwyr y papurau bro, ac i gydweithio 芒'r cymunedau i ddenu mwy o ddarllenwyr a chyfranwyr er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus iawn i'r papurau.

"Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddatblygu mwy o greadigrwydd a diddordeb yn y papurau bro dan sylw, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fynd mas i'r cymunedau i gwrdd a chydweithio gyda nifer fawr o gymeriadau'r ardal."

Ymysg nifer o bethau eraill, mae'r prosiect hefyd yn edrych i gryfhau colofnau amrywiol ac erthyglau penodol yn ymwneud 芒 ieuenctid, dysgwyr, chwaraeon a'r anabl yn y papurau. Nid pwrpas y prosiect yw ysgwyddo gwaith y gwirfoddolwyr, ond yn hytrach weithredu mewn r么l gefnogol a chynorthwyo i ddatblygu syniadau newydd, cyffrous.

Rhaid pwysleisio bod cyfraniad y gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u doniau a'u hamser bob mis yn bwysicach na dim, a thrwy adeiladu at y gwaith gwych a wneir eisoes, bydd modd sicrhau llwyddiant y papurau a pharhad y prosiect.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy