Wrth annerch y gynulleidfa yn y noson agoriadol, gwnaeth hynny yn gyntaf yng Ngwyddeleg, yna yn y Gymraeg a diweddu gyda rhai sylwadau yn Saesneg. Yn ei haraith mynegodd iddi deimlo bod anrhydedd y llywyddiaeth nid yn unig wedi ei gyflwyno iddi hi ond hefyd i holl ddawnswyr a cherddorion "Dawnswyr Tipyn o Bopeth sydd wedi cefnogi'r 诺yl yn selog er 1987. Diolchodd hefyd i'r Pwyllgor Cymreig, ac yn arbennig i Tegwyn Williams sydd wedi llafurio'n ddiwyd ar hyd blynyddoedd maith i sicrhau cynrychiolaeth gref o Gymru yn yr 糯yl Ban Geltaidd yn yr Iwerddon. Am y drydedd flwyddyn yn olynol cipiodd Dawnswyr Tipyn o Bopeth y wobr gyntaf yn y brif gystadleuaeth ddawns ryngwladol, (2ail-Gleneagle Dancers, Eire; 3ydd-Dawnswyr Aelwyd Caernarfon). Cyflwynwyd tlws y gystadleuaeth hon - cawg (quaich) Albanaidd neu 'cwpan cyfeillion' - i Bwyllgor yr 糯yl yn 2004 gan Bobbie Evans pan oedd yn islywydd. Heblaw am y gystadleuaeth uchod bu aelodau eraill y gr诺p yn cystadlu ar hyd yr wythnos. Bu i Gwendolen Cottam a Hilary Jay gystadlu yn yr unawd c芒n werin a enillwyd gan y cystadleuydd o'r Alban. Ysgubwyd y gwobrau gan aelodau "Tipyn" yn y gystadleuaeth canu'r ffidl gyda Mary Day yn cipio'r wobr gyntaf, Katie Marriott yr ail, ac Anna Fonge y drydedd. Bu i Eleanor Cottam a Mathew Burke gystadlu yn y gystadleuaeth ddawns unigol a enillwyd gan ddawnsiwr step traddodiadol o Connemara. Daeth Mathew yn drydydd da i ddawnsiwr o Gilarne. Yn olaf bu i "Tipyn" fodloni ar y drydedd wobr yn y gystadleuaeth am 'dawns newydd ei chyfansoddi' Enillwyd y gystadleuaeth hon gan gr诺 lleol arall sef Dawnswyr Talog, a Dawnswyr Caernarfon yn ail. Bob bore yn ystod yr wythnos gwelwyd "Tipyn o Bopeth" yn eu gwisgoedd a'u hetiau ar draws y dref yn dawnsio ar y strydoedd, yn enwedig y tu allan i siopau noddwyr yr 糯yl. Bob prynhawn aeth y gr诺p i gynnig adloniant - yn gerddoriaeth, caneuon a dawnsiau - i drigolion h欧n Trali sydd yn awr yn byw mewn Cartref Henoed. Yn ystod yr wythnosbu iddynt ymweld 芒 saith cartref yr henoed, cyn belled 芒 Chilarne ac i lawr yn 'Y Dingle', ac un ymweliad 芒 chleifion yr ysbyty hefyd. Ond yn ddi-os, cafwyd "uchafbwynt" yr wythnos cyn y perfformiad yn y "Noson Gymreig" pan, am yr ail flwyddyn yn olynol, ofynnwyd i "Tipyn" ddawnsio yn Stadiwm Rasio Milgwn Trali gan ddawnsio rhwng y rasys. Bu hwn yn hwyl braf gyda phawb yn y gr诺p wrth eu bodd yn dawnsio yn y Stadiwm, un o brif noddwyr yr 糯yl Ban Geltaidd yn Nhrali.
|