成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Castell Cydweli Diwrnod Tywysoges Gwenllian
09 Mehefin 2003
Roedd Mehefin 12fed yn ddiwrnod y Dywysoges Gwenllian. Dyma beth o'i hanes ..
Merch Gruffydd ap Cynan, tywysog Gwynedd, oedd Gwenllian. Fe ddaeth hi'n wraig i Gruffydd ap Rhys, tywysog y Deheubarth ac Arglwydd Ystrad Tywi. Roedd e'n ddewr iawn ac ymladdodd lawer tro yn erbyn y Normaniaid. Fe gymerodd sawl castell oddi arnyn nhw, ac ennill yn 么l y tiroedd roedden nhw wedi eu dwyn oddi ar y Cymry.

Un o elynion y Cymry yr adeg honno oedd Maurice de Londres, y Norman drigai yng nghastell Cydweli. Ei fwriad oedd lladd Gruffydd ap Rhys a chymryd meddiant o'r wlad. Fe glywodd Gruffydd fod y gelyn yn paratoi i ymosod arno a bod byddin fawr ar ei ffordd dros y m么r i ymuno 芒 Maurice de Londres.

"Rhaid i mi fynd ar unwaith i Wynedd i ofyn am help Gruffydd ap Cynan," ebe Gruffydd ap Rhys. "Os af i ar unwaith fe fydda i'n 么l mewn pryd i arwain fy myddin yn erbyn y gelyn."
Galwodd ei benaethiaid ato a dywedodd wrthyn nhw,
"Fe adawa i'r llys yn eich gofal chi."
"Fe ofalwn ni na ddaw dim niwed i'th deulu nac i'th eiddo di tra byddi di i ffwrdd," oedd ateb y penaethiaid.

Yna, fe aeth y tywysog i Wynedd a'i fab hynaf Rhys gydag ef.

Ar ddydd Gwyl Dewi 1136 roedd gwylwyr ar ben Mynydd y Garreg yn gwarchod y castell. Daeth y newydd fod byddin fawr o Normaniaid wedi glanio ym Morgannwg ac y bydden nhw yng Nghydweli ymhen deuddydd. Aeth y gwylwyr ar frys i ddweud wrth Gwenllian.


Y frwydr
Y frwydr
"Rhaid i ni atal y gelyn rhag croesi afon Llwchwr a chyrraedd Cydweli," ebe Gwenllian.
"Fe anfona i'r rhan gadarnaf o'r fyddin i'w rhwystro nhw. Mi af i fy hun gyda'r rhan arall o'r fyddin i gadw Maurice y tu mewn i'w gastell. Dewch, fy meibion Maelgwn a Morgan, gyda mi."

Rywfodd - ac fe ddywedir mai bradwr o'r cylch fu achos hynny - fe lwyddodd byddin y Normaniaid i osgoi'r Cymry, ac yn fuan roedden nhw'n rhuthro y tu 么l i fyddin fechan Gwenllian. Yr un pryd fe ddaeth Maurice a'i wyr meirch allan o'r castell, ac fe ddaliwyd byddin Gwenllian rhwng byddinoedd y gelyn.

Bu brwydr ofnadwy, ac er i'r Cymry ymladd yn ddewr, fe gollon nhw'r dydd a daliwyd Gwenllian gan y gelyn. Lladdwyd Morgan ei mab dewr; cymerwyd Maelgwn yn garcharor, ac fe dorrwyd pen Gwenllian ar y maes a elwir hyd heddiw yn Faes Gwenllian'. Dyw Cymru ddim wedi anghofio dewrder Gwenllian, na chreulonder y Norman.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy