Does dim dwywaith nad yw Cwlwm a degau o bapurau bro eraill ar hyd a lled Cymru yn ffynonellau pwysig i adrodd newyddion lleol, rhoi gwybod i ddarllenwyr am ddigwyddiadau ac ysgogi trafodaeth.
A thra bydd papurau yn parhau yn ddulliau effeithiol o ledaenu newyddion am flynyddoedd i ddod mae'n siwr, mae'n amhosib erbyn hyn anwybyddu dylanwad y We hefyd fel cyfrwng cyfathrebu.
Ac mae'n hollbwysig bod y Gymraeg yn hawlio lle amlwg ar y cyfrwng hwnnw.
Cyn bo hir, mewn menter hynod gyffrous, bydd Golwg yn creu gwasanaeth newyddion ar y We.
Fel rhan o'r gwasanaeth hwnnw bydd straeon o Gymru a gweddill y byd yn ymddangos yn gyson trwy'r dydd.
Ond, os yw'r gwasanaeth am fod yn llwyddiant mewn gwirionedd, mae angen i bob math o gyrff, cwmn茂au a mudiadau fod yn rhan ohono a chyfrannu ato.
Fe fyddai'n wych gweld ardal Caerfyrddin a Cwlwm yn cael ei chynrychioli'n gryf.
Y syniad yw ei fod e'n fwy na gwasanaeth newyddion.
Bydd lle i bob math o gymdeithasau, clybiau a mudiadau gymryd eu safle bach eu hunain ar y gwasanaeth - tudalen neu ddwy i ddweud wrth bawb pwy ydyn nhw ac i roi eu newyddion diweddara'.
Fe allai ysgol wneud, neu glwb chwaraeon neu, wrth gwrs, bapur bro. A'r cyfan yn hawdd a didrafferth.
Mae yna ffyrdd eraill o gyfrannu hefyd.
Ym myd chwaraeon, er enghraifft, os oes rhywun yn sgorio g么l neu gais i d卯m lleol a bod rhywun wedi tynnu llun neu wneud fideo o hynny, fe allech chi ei anfon i mewn i'w roi ar y gwasanaeth.
Felly, chi swyddogion a chefnogwyr y clybiau p锚l-droed a rygbi lleol, cofiwch fynd 芒'ch camerau gyda chi i Barc Waun Dew a Pharc y Dre, ac ati, pan fyddwch chi'n mynd yno i wylio gemau.
A does dim rhaid cyfyngu pethau i b锚l-droed a rygbi, wrth gwrs.
Beth am gael safle bach i glwb ralio, clwb cerdded neu hyd yn oed i glwb jiwdo?
A thu hwnt i chwaraeon, bydd cyfle i fudiadau eraill hefyd - o Ferched y Wawr i gorau a chapeli ac eglwysi. A beth am y Ffermwyr Ifanc? Mae'n siwr bod digonedd o luniau o bob math o ddigwyddiadau gan aelodau'r clybiau (ac mae rhai yn ffit i'w dangos i'r cyhoedd hefyd!).
Ac, i grwp pop ifanc sydd am gael llwyfan i'w gwaith, dyma le gwych i lwytho caneuon neu fideos fel bo modd i eraill eu gweld a'u clywed.
Fydd pob peth ddim yn digwydd reit o'r dechrau, ond mae'r cyfle yno, ac fe fydden ni'n hoffi clywed gan unrhywun sydd 芒 syniad.
Un fantais fawr i'r gwasanaeth newydd yw ei fod am ddim.
Fydd dim rhaid i neb dalu am ddarllen yr holl ddeunydd na gwylio clipiau o fideos ac ati.
Does yna ddim byd yn union yr un peth - yn cynnig gwasanaeth newyddion proffesiynol, adloniant a'r elfennau cymunedol a chymdeithasol yma.
Os bydd pawb yn cymryd y cyfle sydd ar gael i gymryd rhan a chyfrannu, fe fydd y gwasanaeth newydd yma'n torri tir hollol newydd, nid dim ond yng Nghymru ond, hyd y gwyddon ni, yng ngweddill gwledydd Prydain hefyd.