成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Steffan Hughes a Tracey Hinton Llwyddiant Steffan a Tracey yn Beijing
Hydref 2008
Llwyddodd Steffan Hughes o Beniel a Tracey Hinton i ddod yn bedwerydd yn ras y 200 medr yn y G锚mau Paralympaidd.

Gwnaeth y G锚mau Olympaidd gyfareddu sawl un dros gyfnod yr haf ond i un teulu o bentref Peniel, y G锚mau Paralympaidd oedd yn mynd 芒'r sylw. Y rheswn dros hyn oedd bod Steffan Hughes, mab hynaf Sue a Geraint Hughes, Maes Brynglas, yn cystadlu yno fel tywysydd i'r athletwraig ddall Tracey Hinton o Gaerdydd.

Yn ystod mis Medi aeth y teulu i Beijing er mwyn cefnogi Steffan a Tracey. Roedd Steffan ei hun wedi teithio i wersyll paratoi yn Hong Kong, felly dyma ddechrau trwy gael tamed o'r cefndir gyda Geraint, ei dad:

Sut ddechreuodd Steffan ar y gwaith o fod yn dywysydd?

Ymateb wnaeth Steffan i hysbyseb welodd e pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg UWIC, Caerdydd. Dyma fe wedyn yn cael cynnig mynd i gyfarfod 芒 Tracey a chael cyfnod prawf i weld a fyddai'r ddau yn medru cyd-weithio.

Yn amlwg, fe aeth y cyfnod hwnnw'n hwylus a bu Steffan a Tracey yn cyd-redeg am nifer o flynyddoedd. Wrth ddechrau ar ei yrfa fel athro ryw ddwy flynedd yn 么l fe roddodd Steffan y gorau i fod yn dywysydd i Tracey am nad oedd yn medru cyfuno'r gwaith gyda'r oriau ymarfer a'r holl deithio.

Felly nid oedd Steffan wedi meddwl y byddai'n cael ymweld 芒'r G锚mau Olympaidd eleni ond fis Tachwedd y llynedd cafodd alwad ff么n oddi wrth Tracey. Roedd ei thywysydd hi wedi cael anaf ac roedd arni angen tywysydd newydd ar frys er rnwyn iddi fedru cystadlu yn y G锚mau Paralympaidd yn Beijing.

Gan fod Steffan eisoes wedi gwneud y gwaith, ef oedd y dewis naturiol i lenwi'r bwlch a gyda chydweithrediad Ysgol Gynradd Dewi Sant, lle mae Steffan yn athro, cafodd gyfle i ailgydio yn y gwaith ac ymweld 芒'r G锚mau Olympaidd.

Beth yn union y mae'n rhaid i Steffan ei wneud wrth dywys Tracey?

Gan fod Tracey yn hollol ddall mae'n rhaid i Steffan redeg ochr yn ochr 芒 hi gan siarad a disgrifio digwyddiadau'r ras iddi wrth fynd. Mae yna gortyn yn clymu breichiau'r ddau gyda'i gilydd.

Yn naturiol mae'n rhaid bod yn ffit iawn i wneud y gwaith ond nid yn unig ei fod yn gorfforol flinedig, mae'r gofyn am ganolbwyntio a siarad gydol y ras yn gallu bod yn feddyliol flinedig hefyd.

Sut oedd Tracey a Steffan yn mynd ati i baratoi ar gyfer cystadlu yn y G锚mau Paraolympaidd?

Dechreuodd y paratoadau o ddifrif ym mis lonawr, pan aeth y ddau i Dde Affrica am bythefflos o ymarfer. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn cynhaliwyd cyfnod ymarfer ym Mhortiwgal am bythefnos ac ym mis Mai aethant allan i Beijing i ymarfer.

Maent hefyd wedi bod yn cystadlu yrn mhencampwriaethau'r 'Golden League' ac wedi rasio yn Ffrainc, Manceinion, Leeds a Lerpwl dros yr haf. Mae wedi bod yn gyfnod prysur ond gwerth chweil. Mae Steffan wedi cael profiadau gwych wrth gyd-redeg gyda Tracey.

Yn 2004 aethant i gystadlu yn y G锚mau Paraolympaidd yn Athen, lle daeth Tracey yn bedwerydd yn y ras 800m i ddeillion. Ni fu'n cystadlu yn y ras honno yn Beijing dim ond yn y 100m, 200m a'r 400m!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy