成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Ken Lloyd (Maer Caerfyrddin), Jacob Nyirongo a Tom Defis Tom yn cnoi cil ar y credit crynsh
Gorffennaf 2009
Mae trigolion Caerfyrddin wedi bod yn casglu arian tuag at Gymorth Cristnogol, er gwaetha'r wasgfa ariannol.

Erbyn i'r rhifyn hwn o Cwlwm gyrraedd o'r Wasg, mi fyddwn yn gwybod yn well a fu casgliadau Wythnos Cymorth Cristnogol mor llwyddiannus ag arfer. Nid yw'n argoeli'n dda oherwydd y "credit crynsh", y gosodiad yna sydd yn esgus am bob diffyg bellach.

Y mae ein partneriaid megis Jacob Nyirongo o Malawi yn poeni'n fawr y bydd tipyn llai o arian ar gael i'w ddosbarthu eleni. Bydd lleihad yn incwm Cymorth Cristnogol yn effeithio ar gymaint o gymunedau tlawd y byd, gan mai Cymorth Cristnogol yw'r mudiad gwirfoddol sydd yn dosbarthu'r symiau uchaf o grantiau rhyngwladol i bartneriaid sy'n gweithio i nerthu'r gwan a'r tlawd, a hynny mewn dros hanner cant o wledydd tlota'r byd.

Mi fydd llawer wrth gwrs, yn barod i ddatgan "pam ddylen ni boeni?! Nid dyma ein blaenoriaeth ni yn y sefyllfa ariannol bresennol. Nid ni sydd yn gyfrifol am gyflwr y tlawd. Nid yw tynged y tlawd yn ein dwylo ni.

Y gosodiad ar adnoddau Cymorth Cristnogol yw "Credwn mewn byw cyn marw". Mi fydd lleihad yn yr arian fydd ar gael i gynnal prosiectau ymhlith y tlawd yn fwy difrifol nag effaith y "credit crynsh" arnom ni, gan y bydd yn fater o fywyd neu marwolaeth i lawer.

Sut gallwn ni weithredu i ddiogelu'r gwan a'r tlawd pan fo prinder arian? Y mae Cymorth Cristnogol yn credu bod angen codi arian ond hefyd, fod angen ymgyrchu a gweithredu i newid yr hyn sydd yn cadw'r gwan yn dlawd.

Y mae tre Caerfyrddin a Sir Gaerfyrddin wedi gwneud ymdrech arbennig yn ddiweddar i ennill statws Masnach Deg, a hynny flwyddyn ar 么l i Gymru gofrestru fel y wlad Masnach Deg. Y mae yfed te a choffi, bwyta cacennau a ffrwythau, gwisgo dillad a mwynhau siocled o ddeunyddiau Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth mawr i incwm y tlawd ac yn cyfrannu at brosiectau cymunedol.

Yn ogystal 芒 hynny, y mae'n sicrhau bod lleihad mewn llafur plant, a'u bod hwythau yn cael cyfle i fynd i'r ysgol yn lle gweithio ar y planhigfeydd coco ac ati.

Mi fyddwn yn ymfalch茂o ein bod wedi gweld ffrwyth y gwaith caled i gyrraedd y statws, ac yn canmol yr ymdrech arbennig i brynu a defnyddio nwyddau Masnach Deg. Wrth gwrs, y mae'r gosodiad Masnach Deg yn awgrymu bod y fasnach arferol yn annheg, a dyna'r gwir, wrth gwrs. Dim ond gwneud yr hyn sydd yn iawn yw Masnach Deg.

Yr ydym ni yn rhannol gyfrifol am gyflwr y tlawd oherwydd masnach annheg a rheolau masnach ryngwladol sy'n anghyfiawn, fel y'm ni'n gyfrifol am dynged y tlawd oherwydd newid hinsawdd.

Camddefnydd a gorddefnydd o adnoddau'r byd gan y gwledydd sydd wedi datblygu sydd yn achosi'r problemau, a'r gwledydd a'r cymunedau tlawd sy'n dioddef waethaf yn sgil newid hinsawdd.

Y mae'r gwledydd cyfoethog bellach yn torri ar y gwasanaethau hanfodol, fel gofal iechyd ac addysg, er mwyn arbed arian ac osgoi codi trethu. Efallai y caf i gyfle eto i s么n am yr ymgyrch i dynnu sylw at y cwmn茂au mawr sy'n osgoi talu treth yn y gwledydd tlawd a hynny'n tanseilio eu system addysg a gofal iechyd.

Y mae cymaint i'w wneud, hyd yn oed mewn sefyllfa o brinder, a all gyfrannu'n sylweddol at yr ymdrech i nerthu'r gwan a'r tlawd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy