成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Gareth Rees, Hermon gyda Tom Defis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Cwrdd 芒 gwneuthurwr cadair yr Urdd
Mehefin 2007
Nid oes un Eisteddfod Genedlaethol yn gyflawn heb y gadair Eisteddfodol.

Roedd y gadair yn un o'r prif symbolau eisteddfodol mor bell yn 么l ag Eisteddfod yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi ym 1176.

Yn naturiol felly, nid ar chwarae bach yr aethpwyd ati i ddewis cynllun cadair Eisteddfod Sir G芒r 2007. Gareth Rees, crefftwr lleol o bentref Hermon, Cynwyl Elfed, a gafodd y fraint o greu'r gadair a dyma fynd draw i weithdy Gareth, sydd o dan y t欧^ yn Hermon, i'w holi am y gwaith o gynllunio a chreu cadair Eisteddfod yr Urdd eleni.

Beth oedd y cam cyntaf yn y broses o greu cadair Eisteddfod Sir G芒rr 2007?
Cynllunio si芒p y gadair a chwilio am ystyr o fewn y si芒p. Hanes Caerfyrddin yw'r ystyr y tu 么l iddi a dweud y gwir. Roedd rhaid dodi arwydd yr Urdd i mewn ac yna cynllunio'r ysgrifen a fyddai ar y gadair. Dim ond mater o hala'r cynllun mewn i Tom Defis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith wedyn gydag esboniad o'r ystyr a'r si芒p.

Pam mynd ati i gynnig creu y gadair?
Mynd ati achos bod Tom Defis wedi awgrymu y dylwn roi cynnig arni.

Sut yn union rwyt wedi cyfleu hanes Caerfyrddin yn y cynllun?
I ddechrau mae'n gadair dderi a hynny yn amlwg oherwydd y cysylltiad gyda Derwen Myrddin. Cefais y pleser o ddefnyddio coed deri Cymreig lleol wedi eu rhoi gan Melingoed Cyf, Castellnewydd Emlyn. Daeth syniad gwreiddiol y cynllun wrth feddwl ymhellach am hanes Caerfyrddin a'r Dewin Myrddin. Mae hyn i'w weld ar ffurf gwaelod y gadair, sydd wedi ei siapio fel Derwen Myrddin, ac mae'r fesen a'r dail i'w gweld dros gorff y gadair.

Mae si芒p pen y gadair fel pen y goeden dderwen gyda breichiau'r gadair yn dod rownd o'r cefen fel brigau'r goeden. Mae dwy fesen wedyn yn dal y breichiau. Wrth fynd ati i gerfio'r ysgrifen ar y gadair defnyddies yr un ysgrifen ag un Hywel Dda, nid yn unig am ei fod ef wedi uno cenedl y Cymry ond am fod ganddo gysylltiad amlwg gyda Sir G芒r.

Mae'n si诺r bod creu cadair Eisteddfodol yn dipyn o waith. Faint o amser gymrodd hi i greu'r gadair?
Gwnes i'r gwaith cynllunio o flaen llaw wrth gwrs ond unwaith i mi gael gwybod bod y cynllun wedi ei dderbyn roedd rhaid cymryd amser bant o'r gwaith er mwyn ei chreu. Y rheswm dros hyn oedd si芒p y gadair - unwaith roedd y gwaith ar un rhan wedi'i ddechrau roedd rhaid dal ati a'i orffen. Gyda'r gwaelod, er enghraifft, mae yna 30 darn unigol yn creu si芒p bonyn coeden. Roedd rhaid mesur a thorri'r darnau a chael graen y pren i ddilyn y patrwm fel bod gwaelod y gadair yn edrych fel coeden iawn.

Yna, roedd rhaid gludo'r 30 darn i gyd ar yr un pryd neu fyddai dim modd cadw'r si芒p. Roedd hi'n broses debyg gyda chefn y gadair, sydd wedi ei gwneud gyda 12 darn unigol o bren. Felly, rhwng y torri, gludo, cerfio, sandio, yna cerfio'r ysgrifen 芒 llaw a rhoi pedair haenen o farnais caled (lacquer) dros y cyfan, fe fyddwn i'n meddwl bod creu'r gadair wedi bod yn bythefnos llawn o waith.

Sut deimlad yw hi o fod wedi cwblhau'r gwaith ac a fyddet ti'n rhoi cynnig ar wneud y math hwn o beth eto?
Gwnawn! Mae wedi bod yn brofiad unigryw. Roedd yr holl broses o'r dechrau i'r diwedd yn hollol wahanol i unrhyw beth arall dwi wedi' i 'neud. Rwy'n teimlo ei bod hi'n fraint i fod wedi cael creu'r gadair ac rwy'n hapus iawn gyda'r gwaith - sai'n becso dim beth fydd neb arall yn ei feddwl.

Ble fyddet ti'n hoffi gweld y gadair yn mynd?
Achos ei hystyr a'i si芒p dwi'n gobeithio y bydd hi'n mynd i rywun o Sir Gaerfyrddin. Byddai'r gadair yn fwy personol iddynt hwy, oherwydd ei hystyr, ond wrth gwrs mae'n agored i bawb ac yn fraint i unrhyw un gael ennill cadair genedlaethol.

Yn yr wythnosau yn arwain at yr Eisteddfod gwelwyd y gadair yn ffenest swyddfa Cymorth Cristnogol, Heol D诺r, Caerfyrddin lle mae Tom Defis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn gweithio. Tom, ei wraig Anona, a'r teulu sydd wedi rhoi'r gadair eleni er cof am eu merch Caryl Mai a fyddai yn 24 mlwydd oed adeg yr Eisteddfod.

Mae'r teulu yn hapus iawn gyda'r gadair orffenedig a dywedodd Tom, "mae'r gadair yn un wych ac mae'n braf gweld crefftwr lleol yn gwneud gwaith o safon uchel iawn, iawn."

Am fod Tom a Gareth yn hen gyfarwydd 芒'i gilydd roedd y ddau yn dal i drafod a datblygu'r cynllun wrth fynd ymlaen ac roedd hyn yn ffordd i'r teulu sicrhau bod y gadair yn arwyddocaol iddynt hwy hefyd.

Dywedodd 'Tom, "roedd yn braf medru gwneud awgrymiadau am elfennau o'r cynllun oedd yn bwysig i mi, er enghraifft y defnydd o lythrennau o lawysgrifau cyfreithiau Hywel Dda oherwydd fy nghysylltiad agos gyda'r Ganolfan Genedlaethol yn Hendygwyn a phwysigrwydd Hywel yn ein hanes ni fel cenedl. Rwy' hefyd yn falch ei bod yn gadair sydd mewn un ffordd yn draddodiadol ond mewn ffordd arall yn eithaf mentrus yn ei chynllun ac rwy'n hoffi'r ffordd mae'r goeden yn gwneud y sedd yn fwy byw fel petai."

O weld y gadair bydd pawb yn cytuno ei bod yn wobr unigryw sy'n werth ei hennill. Dim ond gobeithio 'nawr bydd yna fardd yn deilwng ohoni yn y seremoni ar ddydd Iau yr Eisteddfod.

  • Cyfweliad gyda Hywel Griffiths: bardd y gadair.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy