成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
C么r Meibion Caerfyrddin C么r Meibion yn dathlu'r 50
Rhagfyr 2008
Mae C么r Meibion Caerfyrddin wedi dathlu eu penblwydd yn 50 oed gyda chyngerdd arbennig.

Cynhaliwyd Cyngerdd Dathlu Cor Meibion Caerfyrddin yn Eglwys Crist, Caerfyrddin nos Sadwrn, 15fed o Dachwedd i ddathlu Hanner Canmlwyddiant y C么r ers ei sefydlu.

Roedd yr Eglwys yn orlawn gyda chynhesrwydd arbennig a chyngerdd i'w thrysori gan yr holl artistiaid.

Diolch arbennig i gefnogaeth ariannol Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Tref Caerfyrddin, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chymdeithas Ymwelwyr Sir G芒r.

Noson lwyddiannus iawn a diolch i bawb a gefnogodd y noson ac yn arbennig i'r Canon Patrick Thomas ac aelodau'r Eglwys.

Dyma rywfaint o hanes y c么r dros yr hanner can mlynedd diwethaf gan John Gibby, Llywydd presennol y C么r.

"Un noson ym mis Tachwedd 1958, cyfarfu pedwar aelod dylanwadol o'r gymuned er mwyn ffurfio C么r Meibion.

Amcan y C么r oedd rhoi cymorth i achosion da a chystadlu mewn eisteddfodau.

Daeth pum aelod ar hugain i'r ymarfer cyntaf ac o fewn mis, roedd gan y C么r 45 o aelodau ac roedd yn mynd o nerth i nerth.

Yn y dyddiau cynnar hynny, cynhelid Cyngherddau Blynyddol y C么r yn Adeilad yr Hen Farchnad, a rhaid oedd i'r aelodau godi'r llwyfan a'i thynnu i lawr ar gyfer pob cyngerdd!

Roedd hyn yn dipyn o orchwyl ond roedd hefyd yn werth chweil.

Rhai o'r artistiaid yn y dyddiau cynnar hynny oedd y diweddar Ryan Davies, Dafydd Iwan ifanc iawn a Margaret Williams. Dyddiau da yn wir.

Yn un o'r cyngherddau hyn, ymunodd ein cystadleuwyr mawr a'n cyfeillion 芒 ni, C么r Meibion Cwmbach (Aberd芒r).

Roedd y gyngerdd hon yn llwyddiant mawr.

Yn fuan, roedd y C么r yn cael canlyniadau da mewn eisteddfodau, gan ennill yn Aberteifi, Pontrhydfendigaid, Tabernacl Treforys a nifer o leoedd eraill.

Pe bai'r C么r yn ennill yn y Genedlaethol, rhoddodd Mr Islwyn Wilkins (Llywydd) addewid y byddai'n rhoi crys gwyn i bob aelod o'r C么r - gwnaeth y gwr hynod hynny 芒 gw锚n ar ei wyneb.

Ar 么l ennill yn y Genedlaethol, roedd galw mawr ar y C么r i gynnal cyngherddau. Daeth gwahoddiad o Ganada iddynt fynd ar eu taith gyntaf dramor ac yna aethant i Iwerddon, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen a Lesneven. Ymwelodd y C么r 芒 Neuadd Albert, lawer tro hefyd.

Cynhaliwyd Cyngherddau Blynyddol mawreddog yng Nghaerfyrddin (Y Lyric) lle ymddangosodd nifer o artistiaid dros y blynyddoedd a fyddai'n nes ymlaen yn dod i enwogrwydd mawr ar lwyfannau'r byd, sef Bryn Terfel, Rebecca Evans, Rhys Meirion, Richard Rees a Sh芒n Cothi. Un o hoff artistiaid eraill y C么r oedd Mrs Nansi Richards a ganodd unawd am y tro cyntaf a fyddai'n nes ymlaen yn cael ei ystyried yn un o hoff ganeuon y Cymry, 'Mor Fawr Wyt Ti'. Cafodd dderbyniad rhagorol gan y gynulleidfa.

Byddai'r C么r yn ymweld yn flynyddol ag Eglwys y Santes Fair yn Ninbych y Pysgod er mwyn diddanu'r ymwelwyr, a chafwyd nifer o wahoddiadau i ganu dros y ffin yn Lloegr.

Dros y blynyddoedd, mae'r C么r wedi cael 10 arweinydd. Yr arweinydd presennol Carole Rees sy'n gwneud gwaith ardderchog.

Cafodd Carole ganmoliaeth fawr pan arweiniodd y C么r Meibion Mawreddog yn y gyngerdd ddiweddar a gynhaliwyd yn Rhydychen lle bu'r C么r yn perfformio.

Mae Wyn Maskell yn gymorth medrus iawn iddi ar y piano.

Mae gan y C么r Bwyllgor Merched gweithgar iawn a diolchwn iddynt am eu cymorth rhagorol.

Cadeirydd presennol y C么r yw'r gantores Mr Iori Jones sy'n bennaeth ar bwyllgor gweithgar dros ben. Dylid canmol yr Ysgrifennydd, Mr John James, am ei waith diflino ac am ei ymroddiad. Mae John wastad yn awyddus i recriwtio aelodau newydd.

Rydym am longyfarch un o gyfeillion y C么r, sef Rhian Williams, ar ei llwyddiant diweddar yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae ganddi gysylltiadau agos iawn a'r C么r oherwydd bod ei thad yn aelod ffyddlon yn Adran yr Ail Denoriaid.

Mae ysbryd y C么r yn wych ac os oes cantorion brwdfrydig yn darllen yr erthygl hon, yna mae croeso i chi ymuno 芒 ni.

Dymunai'r C么r ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd.

Ers ymuno 芒'r C么r 50 mlynedd a mwy yn 么l, rwyf wedi mwynhau'r frawdoliaeth a'r cyfeillgarwch yn fawr iawn ac edrychaf ymlaen at weld y C么r yn parhau i lwyddo yn y dyfodol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy