Mae'r erthygl hon yn ddechrau ar golofn newydd 'Fy Nhrysor' ym mhapur bro Cwlwm.
"Fe nes i ddechrau pan oeddwn yn chwech neu saith mlwydd oed. Doedd dim teledu'r dyddiau 'ny ac roedd radio dim ond newydd ddechrau - pell iawn cyn cyfnod y cyfrifiadur! Pan oeddet ti'n gweld stampiau gwahanol roeddet ti'n gweld lluniau a hanes pobl, anifeiliaid, planhigion ar draws y byd i gyd. Roeddwn yn cael gwersi hanes a daearyddiaeth trwy'r stampiau. Wedyn fe aeth fy mrawd i weithio i'r ffatri bapur. Roedd e'n cael lot o amlenni - ac roeddwn i'n cael cadw'r stampiau. Roeddwn yn byw yn Guilfford - ac roedd yna ddwy siop stampiau yno. Pan nes i ddechre' casglu roeddwn yn casglu pob siort o stamp. Nawr dwi wedi gorfod arbenigo a dim ond casglu stampiau planhigion ac anifeiliaid - dyna'r gobaith."
Faint o stampiau sydd gyda chi erbyn hyn?
"Dwi ddim yn hollol si诺r! Nes i stopo cyfri nhw yn y 1990au pan nes i gyrraedd 40,000 ond ers hynny dwi wedi bod yn casglu mwy. Pe byddwn yn cloi fy hunan yn y t欧 am flwyddyn efallai byddwn i'n cael trefen!"
Ond does dim amser gyda Charles i gael trefn ar ei gasgliad. Mae'n Drysorydd Capel Cwmdwyfran, yn aelod o Glwb Garddio Bronwydd ac yn Ysgrifennydd Clwb Stampiau a Chardiau Post Caerfyrddin sydd newydd ddathlu 25 mlynedd o fodolaeth. Mae'r gymdeithas yn cwrdd yn y Moose Hall, Heol yr Orsaf, Caerfyrddin bob ail nos Fercher y mis am 7.30.
Ond tua faint o stampiau sydd gyda chi erbyn hyn?
"Tua 90,000 o stampiau dwi'n credu. Dwi hefyd yn casglu hen gardiau post. Mae gen i 15 ffeil fawr o gardiau post gyda tua 200 o gardiau ymhob ffeil, ac mae lot mewn bocsys sydd dal eisiau cael eu sorto mas. Mae'r casgliad yn un eang iawn - o hen luniau o Gaerfyrddin i anifeiliaid yn Awstralia i grefydd yn Lloegr! Dwi hefyd yn casglu stampiau arbennig sydd yn dathlu achlysuron arbennig ym Mhrydain - o Gwpan y Byd i'r Gemau Olympaidd. Mae'r 'first-day卢covers' yma bron i gyd gen i, y cyfan er 1924. Dim ond dau sydd ar goll sef 1925 a 1929. Mae penny-blacks 'da fi hefyd - a two-penny-blues. Fi'n casglu popeth - fi ffaelu taflu dim!"
Pam dechrau casglu cardiau post?
"Mae'r hen gardiau post yn ddiddorol o ran yr hen luniau, o ran y marciau post, y stampiau a hefyd y negeseuon sydd y tu 么l iddyn nhw, negeseuon yn dweud bod aelod o'r teulu yn gwella o ryw dostrwydd, neu'n s么n am y newyddion pwysig diweddaraf. Ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer haneswyr gan dy fod yn gallu edrych ar gymaint o feysydd gwahanol."
A yw amgylchiadau'r casglwr wedi newid dros y blynyddoedd?
"Mae newidiadau mawr dros y blynyddoedd diwethaf. Os dwi'n mynd i bostio llythyr heddi maen nhw mo'yn sticio label gwyn ar y parsel. Ma'r labeli gwyn gwyn yn boring! Mae stampiau yn dathlu digwyddiadau arbennig ac yn adlewyrchu diwylliant pobl wahanol ar draws y byd. Hefyd mae'r e-bost yn cymryd drosodd. Sai'n gwneud dim byd gyda hwnna! Ma lawer llai o bobl yn postio pethau y dyddiau yma. Faint o stampiau gwahanol ydych chi'n eu gweld heddi? - dim lot."
Mae Charles yn dangos cyfres newydd o stampiau imi yn ymwneud 芒 Chymru sydd newydd ei chyhoeddi. Nid oeddwn wedi gweld un o'r rhain o'r blaen. "Achos bod y Royal Mail yn gallu gwneud arian mas o stampiau ar gyfer casglwyr fel fi, mae mwy o stampiau arbenigol yn cael eu creu - ond does neb o'r cyhoedd yn eu gweld nhw, does neb yn eu defnyddio nhw i bostio. Dim ond un casgliad arbennig o stampiau a ryddhawyd yn 1958 sef ar gyfer y Gemau Olympaidd, rhyddhawyd 8 casgliad arbennig yn 2006. Dwi'n si诺r y bydd e'n mynd yn rhywbeth ar gyfer casglwyr yn unig yn y dyfodol - yn rhywbeth hanesyddol, yn lle adlewyrchu diwylliant byw'r cyfnod."
"Gyda chymaint o swyddfeydd post yn cau, mae nifer fawr o farciau post yn diflannu hefyd. Slawer dydd roeddet ti'n gallu gweld pa wledydd roedd llongau mawr neu awyrennau wedi galw ynddynt, neu'n gallu dilyn llwybr y porthmon o ddarllen y postmarc ar y garden."
Does dim syniad gyda Charles yngl欧n 芒 gwerth ei gasgliad na chwaith faint mae e wedi ei wario dros y blynyddoedd. "Nes i ddechrau hyn i gyd pan oedd e'n bleser mawr i gasglu. Nawr mae cymaint mwy o sylw ar beth yw gwerth ariannol popeth. Dwi erioed wedi meddwl am gasglu yn y termau yna. Dwi wedi cael blynyddoedd mawr o bleser - yn mwynhau casglu ac yn darganfod pethau newydd o hyd. Gwerth y peth i mi yw'r mwynhad dwi wedi ei gael ers dros chwe deg o flynyddoedd - yn hytrach na chanolbwyntio ar werth ariannol."
A gyda hynny dangosais stamp newydd yr oeddwn wedi ei gadw iddo ar 么l gwyliau diweddar. "Dwi erioed wedi gweld hwn o'r blaen." meddai yn gyffrous. "Un arall i'r casgliad!"
Mae Cymdeithas Stampiau a Chardiau Post Caerfyrddin yn paratoi cyfrol ar Hanes Post Caerfyrddin a'r Cylch - A Postal History of Carmarthen. Os oes gennych chi wybodaeth mae croeso i chi gysylltu ar 01267 236680.
IDE
|