Roedd Gwyl y Gelli yn llwyddiant ysgubol eleni eto, gyda darlleniadau a pherfformiadau gan awduron byd enwog mewn cae yn y Gelli Gandryll, ger y ffin 芒 Lloegr.
Fe ddaeth y tyrfaoedd i glywed amryw o siaradwyr arbennig gan gynnwys y Parchedig Desmond Tutu, y dramodydd Alan Bennett a'r darlledwr David Frost.
Roedd yn wyl i'w chofio hefyd i'r awdur Fflur Dafydd o Gaerfyrddin, a lwyddodd i ennill Gwobr Awdur Ifanc yr wyl.
Fe ddywedodd Peter Florence, Cyfarwyddwr Gwyl y Gelli, mai nofel Saesneg gyntaf Fflur, Twenty Thousand Saints, oedd un o'r nofelau gorau iddo'i darllen ers blynyddoedd.
Fel rhan o'r wobr, a noddwyd gan Oxfam, fe dderbyniodd Fflur gopi argraffiad cyntaf o nofel enwog Harper Lee, To Kill a Mockingbird.
Bu Fflur hefyd yn siarad mewn dau ddigwyddiad yng Ngwyl y Gelli eleni, un gyda Nam Le, enillydd Gwobr Dylan Thomas, a'r llall gyda'r awdur a'r darlledwr Jon Gower.
Fe fydd hi nawr yn cychwyn ar daith i hyrwyddo Twenty Thousand Saints, gan gyflwyno darlleniadau yng ngwyl Latitude yn Lloegr ac hefyd yng ngwyl lenyddol Lahti yn y Ffindir.
Mae'r nofel Twenty Thousand Saints yn seiliedig ar hanes awdur ifanc yn treulio chwe mis ar Ynys Enlli.
|