成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cwlwm
Mair Stephens Portread o Mair Stephens, Llandyfaelog
Ionawr 2007
Papur Bro Cwlwm yn cyfweld 芒 Mair Stephens, o Llandyfaelog.
Beth yw eich cefndir a ble cawsoch eich magu?
Credwch neu beidio, fe ges i fy ngeni yn Zimbabwe gan fod fy nhad yn ddarlithydd mewn peirianneg yn y coleg yno. Un o bentref bach Nant-y-caws oedd Jack Rees fy nhad a Dilys fy mam yn un o deulu Cloygyn Fawr, Pontantwn.

Fe ddetho ni n么l i fyw i Huddersfield pan oeddwn i'n dair oed, a bu fy nhad yn ddarlithydd wedyn mewn sawl coleg yng nghanolbarth Lloegr a ninnau fel teulu'n gorfod symud yn aml.

Es i i'r ysgol yn Rotherham, ac roeddwn i yn yr un dosbarth 芒 chwaer William Hague. Ond, n么l i Glan Morlais, Llandyfaelog y daethon ni, ac rwy'n dal i fyw yma o hyd ac mae mam yn byw drws nesaf i mi.

Es i i'r Brifysgol yn Abertawe a graddio yno mewn peirianneg, yr un pwnc 芒 fy niweddar dad.

Rhowch tipyn o hanes eich teulu.
Rwy'n briod gyda Ralph sy'n dod o Abertawe ac sy'n rhedeg ei fusnes ei hun sef 'Swansea Floor Service', ac mae Rhys y mab yn un ar hugain oed ac yn y fusnes gyda'i dad, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn gwaith coed.

Beth yw pwysigrwydd mudiad fel Sefydliad y Merched i chi?
Bues i'n gweithio i Sefydliad y Merched yn Sir Gaerfyrddin am 24 mlynedd ac mae'n fudiad pwysig iawn gan ei fod yn cynnig cymaint i ferched yn gyffredinol. Mae'n eu cymell i wneud ac i greu pethau, ac i addysgu eu hunain a chreu cyfeillgarwch. Trwy'r mudiad y dysgodd cymaint o ferched sgiliau newydd a chymryd cyfrifoldebau a bod yn arweinyddion yn eu hardaloedd.

Pa swyddi gwirfoddol ry'ch chi'n eu dal?
Rwyf ar Fwrdd Gweithredol Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru ac ar y panel sy'n dosbarthu grantiau o bob math i wahanol fudiadau a chymunedau. Bues i'n ysgrifenyddes Sioe Amaethyddol Llandyfaelog am 24 mlynedd hefyd, a phan gai i amser fe hoffwn i ysgrifennu llyfr ar hanes yr hen sioe sydd dros 100 mlynedd oed.

Rwyf wedi cael y fraint o feirniadu gwaith crefft 'Gosod ac Arddangos' ar raddfa genedlaethol ym mhell ag agos, ac rwy'n gadeirydd CAVS sef Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin ac edrychaf ymlaen yn fawr at ddatblygu adeilad newydd 'Y Mwnt' wrth Neuadd y Sir.

Ry'ch chi'n cynrychioli eich ardal ar Gyngor Sir Caerfyrddin. Beth yw eich barn am y Cyngor?
Cefais brofiad maith o fod yn Gadeirydd Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru gan frwydro'n hir i sefydlu un mudiad i Gymru. Bellach mae Un Llais Cymru wedi ei sefydlu. Rwy'n credu mai prif waith cynghorydd yw helpu ei gymuned, boed yn unigolion neu fudiadau, a cheisio datrys problemau a chael atebion i anghenion yr ardal.

A beth am y dyfodol?
Hoffwn gadw fy nhraed ar y ddaear a pheidio anghofio fy ngwreiddiau. Ar y llaw arall, hoffwn gael mwy o amser i gadw'n heini ac annog merched i fod yn flaenllaw ym mhob agwedd o fywyd. Os llwyddes i fod y ferch gyntaf i Gadeirio Y Sefydliad Rheoli, rwy'n credu fod cyfle gan ferched eraill i gymryd rhan flaenllaw a byddaf yn brwydro i hyrwyddo hynny bob amser.

Pwy ych chi'n enwebu ar gyfer mis Chwefror?
Ieuan Williams, Llangynnwr, Prif Weithredwr CAVS.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy