|
|
|
Cadeirio Tudur Dylan Cadair yr un i'w ddwy ferch |
|
|
|
Cael cadair yr un i'w ddwy ferch oedd rhan o'r pwrpas y tu 么l i gystadlu am Gadair Eisteddfod Genedlaethol Eryri i Tudur Dylan Jones.
Ac yntau, wedi ennill yn barod gadair yn 1995 penderfynodd y byddai'n weddus cael cadair i'r ail o'i ddwy ferch!
"Mae gen i ddwy ferch 'da chi'n gweld ac roeddan nhw wedi bod yn llygadu'r gadair rydw i wedi'i hennill ac fe ddywedodd un ohonyn nhw, ar 么l clywed - neithiwr dd'wedo ni wrthyn nhw; 'Un yr un.' A dyna gadw'r ddesgil yn wastad," meddai.
Trosglwyddo etifeddiaeth yw thema'r awdl a hynny'n cael ei ddarlunio trwy gyfrwng tad yn cyflwyno'r "etifeddiaeth" Gymreig ar ffurf straeon i'w ferch fath - merch fach sydd, meddai Tudur Dylan Jones, yn gyfuniad yn ei feddwl o'i ddwy ferch ef ei hun;Catrin, 15, a Siwan, 11.
"Efallai ei bod hi'n ofn gan bob un ohonom ni yn y pen draw ein bod ni'n heneiddio a bod straeon oeddem ni'n arfer eu cofio yn mynd yn angof. Ac os nad ydi un genhedlaeth yn dweud ei stori, pa bynnag stori ydi hi - stori eu hardal hwy, stori eu cenedl hwy - os nad yw cenhedlaeth yn dweud y stori, yna mae'r stori yn mynd yn angof ac mae yna bwynt yn dod pan yw hi'n rhy hwyr a does gan neb y stori.
"Mae hi i fyny i'r genhedlaeth nesaf wedyn beth maen nhw yn i wneud 芒'r stori ac a ydyn nhw yn dweud y stori wrth y genhedlaeth sy'n dod wedyn," meddai.
Wrth gael ei holi gan Gwilym Owen ar gyfer 成人快手 Radio Cymru aeth Tudur Dylan Jones ymlaen i gymharu cyfansoddi awdl a rhedeg marathon - dwy gamp y mae'n ymh茅l 芒 hwy ac yntau wedi rhedeg ym Marathon Llundain deirgwaith.
"Mae marathon a sgwennu awdl yn debyg tu hwnt. Mae eisiau dipyn o stamina i wneud y ddau a phan yda chi wedi cyrraedd y diwedd dydi o ddim ots, yn y pen draw, ydych chi wedi ennill. Mae'n ddigon i wybod eich bod chi wedi llwyddo i wneud hynny.
"Yr ydw i wedi digwydd ennill yma heddiw, enillai byth efo marathon," meddai.
Am y pleser o ennill, dywedodd: "Yr ennill pennaf ydi teimlo eich bod chi wedi llwyddo i ddweud be da chi eisiau'i ddweud. Os ydi'r beirniaid yn cytuno 芒 chi, fod yr hyn yda chi wedi'i ddweud yn apelio atynt nhw - yna mae hynny'n fonws," meddai.
' Trwy bleidlais mwyafrif yr enillodd ei ail gadair genedlaethol.
Disgrifiodd Alan Llwyd ef fel bardd cyfareddol "a roddodd i ni awdl wych" a chanmolodd Emyr Lewis gynildeb yr awdl a'r ffaith "fod ynddi gymhlethdod a dyfnder ystyr sy'n dyfnhau ar bob darlleniad." Canmolodd hefyd ei darluniau ar gynghanedd.
Ond er ei fod yntau yn canmol yr hyn a alwodd yn "gyfanwaith caboledig gan fardd tywyllodrus" dywedodd Peredur Lynch, a draddododd y feirniadaeth ar y llwyfan, mai i ymgeisydd arall, Lusudarus, y rhoddai ef y gadair "o drwch blewyn".
Ond yr oedd Alan Llwyd ac Emyr Lewis yn bendant mai Drws y Coed - sef Tudur Dylan Jones - haeddai'r wobr gydag Emyr Lewis yn datgan fod "bwlch sylweddol" rhwng ei awdl ef a'r gweddill.
- Y tro cyntaf y cadeirwyd Tudur Dylan Jones ei dad, John Gwilym Jones, oedd yr archdderwydd a arweiniai ddefod y cadeirio. Eleni, yn gofiadur newydd yr Orsedd, yr oedd ei dad yn edrych, yn llythrennol, dros ei ysgwydd yn ystod y ddefod!
i ddarllen adroddiad o'r Eisteddfod
|
|
|
|
|
|