成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Havard Gregory yn arwisgo Gwyn Briwnant Jones Cymrodorion Caerdydd
Tachwedd 2008
Havard Gregory, Ysgrifennydd y Cymrodorion, yn arwisgo Gwyn Briwnant Jones yn Llywydd Cymrodorion Caerdydd am y flwyddyn 2008-9

Ar Nos Wener, Hydref y 3ydd, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol tymor 2008-2009 yng Nghapel y Crwys. Pwysigrwydd y noson oedd arwisgo Llywydd y Flwyddyn, sef Gwyn Briwnant Jones; ac yn 么l arferiad y gymdeithas, ef oedd yn gyfrifol am arlwy'r noson.

Gwyddom i gyd am ddiddordeb Gwyn mewn trenau a rheilffyrdd, a gwych o beth oedd gwrando ar arbenigwr ac awdur sawl cyfrol ar ei destun yn siarad 芒'r fath frwdfrydedd heintus. Roedd ambell un yn bresennol a rannai ag ef yr un hoffter o'r hen drenau st锚m a'r un ymlyniad wrthynt.

Buan y sylweddolodd y gweddill ohonom nad pwnc o ddiddordeb i'r arbenigwyr yn unig oedd gan ein siaradwr, pan atgoffodd ni o bwysigrwydd y tr锚n yn ein blynyddoedd cynnar. Ar y tr锚n st锚m y bu llawer ohonom yn teithio bob dydd i'r ysgol ac wedyn i'r coleg, ac roedd stesion fach y wlad yn fan cyfarwydd inni, a chofiem am y dynion a weithai yno a'r gerddi y byddent yn eu trin 芒 balchter. A phwy a allai anghofio Afon Wen, Dyfi Junction neu Crewe?

Dyma feddwl hefyd am y rhan bwysig a chwaraeodd y tr锚n mewn llenyddiaeth, ac fel y dibynnai'r lliaws o weinidogion a darpar weinidogion ar y tr锚n i'w cludo ddydd Sadwrn i'w cyhoeddiadau a n么l adref ar fore Llun. Newidiodd dyfodiad y tr锚n bob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Gallai'r torfeydd, gan gynnwys y corau mawr, am y tro cyntaf gyrchu i'r Eisteddfod Genedlaethol a'i gwneud yn wyl wir genedlaethol.

Nodwedd bwysig o gyfarfodydd y Cymrodorion yw'r drafodaeth wedi'r ddarlith, a gwerthfawr fu'r cyfle i gofio am gyfraniad James Williams Roberts, tad Tegwen Evans a thad yng nghyfraith John Albert, a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr N.U.R., sef undeb y gweithwyr rheilffyrdd. Mr. Roberts fu'r cyntaf i draddodi anerchiad yn Gymraeg yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid Lafur. 1955 oedd y flwyddyn, ac ar y diwedd cododd y cynrychiolwyr o Gymru ar eu traed a chanu 'Hen Wlad fy Nhadau. Achlysur pwysig a chofiadwy oedd hwnnw.

Cofiai'r Parchedig Huw Ethall am y 'divine ten-to-nine', fel y'i gelwid, a adawai Wood Street am gymoedd y de ddwyrain i fynd 芒'r pregethwr i'w alwad - a'r un mor bwysig, y tr锚n ar nos Sul i ddod ag ef yn 么l adref.

Daeth y noson i ben gyda chwpanaid o de ar 么l i Berwyn Jones, yntau hefyd yn un o garedigion mawr y trenau st锚m, fynegi ein diolch i'r siaradwr.

Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus iawn dan ein Llywydd newydd.

Rhiannon Gregory


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy