成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Pafiliwn pinc Enillwyr ardal Y Dinesydd yn Sir y Fflint
Medi 2007
Gydag Eisteddfod Sir Y Fflint a'r Cyffiniau 2007 nawr y tu 么l i ni, mae'r ffocws erbyn hyn yn troi at Awst 2008, ac Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch.
Cawn edrych yn 么l ar Eisteddfod Sir y Fflint fel yr 'Eisteddfod Lwcus'. Ddyddiau cyn i'r 糯yl gychwyn roedd yna bryderon parthed cynnal yr 糯yl ar 么l wythnosau o dywydd gwael! Fodd bynnag, fe gododd yr haul ac mi gafwyd Eisteddfod lwyddiannus gyda 154,944 o ymwelwyr yn llifo trwy'r gatiau.

Bu'n 'Eisteddfod lwcus' hefyd i rai o drigolion i Brifddinas, gyda nifer o'r Prif Wobrau yn cael eu cipio ganddynt.

Derbyniodd R. Alun Evans anrhydedd uchaf yr Eisteddfod Genedlaethol mewn seremoni yn y Pafiliwn brynhawn dydd Llun drwy gael ei urddo yn Gymrawd fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i'r Brifwyl dros gyfnod maith. Mae o'n gyn-Lywydd Llys yr Eisteddfod ac yn gyn-Gadeirydd Cyngor yr 糯yl. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod Genedlaethol ei rhoi, a chyda dim ond pum Cymrawd yn bosibl ar unrhyw un adeg, bydd R Alun Evans yn ymuno ag Aled Lloyd Davies, Gwilym E Humphreys, James Nicholas ac Alwyn Roberts.

Mwy am R Alun Evans yn cael ei anrhydeddu

Enillwyd y gadair gan T. James Jones, neu `Jim Parc Nest' fel y'i hadnabyddir gan lawer, am awdl ar y testun Ffin. Y tri beirniad oedd James Nicholas, Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood. Yn ei feirniadaeth dywedodd y cyn-Archdderwydd, James Nicholas, "Dyma waith bardd sy'n amlygu crefft arbennig. Mae awdl 'Un o ddeuawd' yn ddarn o waith celfyddyd gan fardd sydd yn artist, yn Wydion o fardd."

Mwy am T. James Jones yn cael ei Gadeirio

Beirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni oedd Harri Pritchard Jones, Robat Arwyn ac Annes Glynn ac, yn 么l yr arfer, gofynnwyd am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf ac heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Byddai'r enillydd yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen a 拢5,000. Ymgeisiodd deuddeg, sef y mwyaf ers cychwyn y gystadleuaeth yn 1978 ac fe gipiwyd y Fedal gan Tony Bianchi am ei nofel Pryfeta. Dywedodd un o'r beirniaid, Annes Glynn, ei bod yn teimlo ei bod yng nghwmni nofelydd profiadol gyda "dychymyg gwreiddiol, soffistigedig ar waith".

Brodor o North Shields, Northumberland yw Tony, ac aeth i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan lle dysgodd y Gymraeg. Wedi cyfnodau yng Nghei Conna Sir y Fflint ac Aberystwyth, ymgartrefodd yng Nghaerdydd gan weinyddu grantiau ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru am yn agos i chwarter canrif.

Mwy am Tony Bianchi a'r Fedal

Paentiadau o dirluniau dychmygol gafodd s锚l bendith unfrydol Panel Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod eleni, gan ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i Emrys Williams o Gaerdydd. Derbyniodd Mr Williams, sydd yn enedigol o Lerpwl, y Fedal Aur a 拢5,000 yn rhoddedig gan Gyngor Tref y Fflint.

Cystadlaethau llwyfan - llwyddiant i Owain ac Alaw
Cafwyd llwyddiant hefyd yn rhai o gystadlaethau llwyfan yr 糯yl. Enillwyd y Ddeuawd Gerdd Dant ddydd Iau gan Owain Si么n o Gaerdydd ac Awel Mai o Gaernarfon - ar 么l dim ond tridiau o ymarfer gyda'i gilydd! Wrth deithio i fyny i'r Eisteddfod ar gychwyn yr wythnos fe gafodd Owain, sy'n wreiddiol o Lwyndyrys, wybod fod ei gyd-ganwr wedi tynnu n么l. Fe gysylltodd 芒 ffrindiau i chwilio am rywun, a daeth Awel Mai o Gaernarfon i'r adwy. Dydd Llun y cyfarfu'r ddau gyntaf i ymarfer ac er nad oedd hi'n gwybod y geiriau na'r alaw, fe ddysgodd nhw, ac fe gipiodd y ddau'r wobr gyntaf.

Daeth llwyddiant unwaith eto i rai o gorau'r Brifddinas, ac fe enillodd Parti Wenallt Bach y gystadleuaeth Llefaru i barti hyd at 16 o leisiau.

Rhestr lawn enillwyr dalgylch y Dinesydd
Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd
R. Alun Evans : urddwyd yn Gymrawd yr Eisteddfod
T. James Jones : Y Gadair am awdl ar y testun Ffin
Tony Bianchi : Gwobr Goffa Daniel Owen - nofel Pryfeta
Emrys Williams Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
Nic Ros : Y Fedal Ddrama - Yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw ym Mangor
Ifan Roberts, Pentyrch : Cyfansoddi Drama Gomedi a Chyfansoddi Monolog yn yr adran Ddrama
Dylan Wyn Williams, un o Olygyddion y Dinesydd: Cystadleuaeth Cyfansoddi Drama Fer
Iolo Edwards : Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad 芒 Cyfle. Sgript teledu neu ffilm 10 munud o hyd
C么r CF1 : C么r Cymysg unrhyw nifer dros 20
C么r Godre'r Garth : C么r Cymysg dros 45 mewn nifer
C么r Aelwyd Hamdden Caerdydd - C么r Pensiynwyr dros 20 o leisiau
Parti Llefaru hyd at 16 o leisiau - Parti Wenallt Bach
Unawd Soprano dan 25 oed - Stacey Wheeler

Unawd Baritone dros 25 - Andrew Mathias, Bro Morgannwg
Unawd allan o unrhyw sioe gerdd neu ffilm dros 19 - Rhydian Marc
Monolog i rai 12 - 16 oed - J芒ms Powys
Deuawd Cerdd Dant dros 21 - Owain ac Awel (Caerdydd a Chaernarfon)
Parti Cerdd Dant dan 25 - Parti Glantaf (2ai1)
Bethan Semmens : Unawd Telyn 16 - 19 oed (2ail) a'r Rhuban Glas Offerynnol 16 - 19 (2i1)
Ffion Mai Rhisiart : Cystadleuaeth Goffa John Weston,
Unawd telyn deires neu delyn Geltaidd di-bedal (2ail)
Martha Holeyman, Penarth Unawd Telyn dan 16 (2i1)

Derbyniwyd i'r Orsedd
Gwisg Werdd:
Richard Garner Williams
Gwisg Wen
Dr Hefin Jones
Carys Tudor Williams.

  • Clipiau fideo, lluniau a gwasanaeth canlyniadau llawn 成人快手 Cymru'r Byd ar wefan yr Eisteddfod.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy