成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
llyfrau llyfrgell Cymrodorion Caerdydd, Ail Gyfarfod 2008-9
Rhagfyr 2008
Cynhaliwyd ail gyfarfod tymor 2008-9 ym Minny Street ar nos Wener 7 Tachwedd, ar y testun "Argyfwng Trysorau Llyfrgell".

Cyfarfod pwysig oedd hwn, i drafod argyfwng cyfoeth nodedig casgliadau Llyfrgell Dinas Caerdydd, a'r ymgyrch diweddar i'w diogelu rhag cael eu gwerthu gan Gyngor Caerdydd.

Eglurwyd y sefyllfa gan dri arbenigwr a chanddynt wybodaeth helaeth am lawer o ddeunydd y casgliadau, a'r tri hefyd yn bileri'r Cymrodorion: y Dr. E. Wyn James (Uwch-ddarlithydd Ysgol y Cymraeg, Prifysgol Caerdydd), Dr. John Gwynfor Jones (Athro Emeritws, Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd), a Mr Brynmor Jones (cyn Bennaeth Adran Astudiaethau Lleol Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd). Mynegodd y tri yn gryf y pryder mawr, nid yn unig am y llyfrau Cymraeg, ond am y casgliadau cyfan, cyfoethog, sy'n arbennig i Lyfrgell y Brifddinas. Bu'r modd y penderfynwyd ceisio'u gwerthu yn un o brif bryderon y gwrthwynebiad.

Adeiladwyd y casgliadau mewn sawl ffordd: anrhegion, rhoddion mewn ewyllys, neu lyfrau wedi eu prynu 芒 thanysgrifiadau cyhoeddus. Mae'n debygol felly nad oes gan y Cyngor unrhyw hawl i werthu nifer o'r llyfrau a glustnodwyd ganddynt ar gyfer ocsiwn cwmni arwerthwyr Bonham.

Mae'n amlwg ymhlith llyfrwerthwyr a gwerthwyr hen lyfrau fod gostyngiad yn safon Llyfrgell Caerdydd wedi digwydd yn dawel bach dros y chwarter canrif diwethaf. Eisoes trosglwyddwyd rhai o'r casgliadau llai pwysig i lyfrgelloedd eraill. Syrthiodd llawer o eitemau i ddwylo llyfrwerthwyr. Ond fe ddisgwylir bod y mwyafrif o'r casgliadau pwysig yn dal i fod rywle yng nghrombil Llyfrgell Gyhoeddus Caerdydd.

Mae'r cyfan yn codi cwestiwn pwysig a sylfaenol: a oes gan y rhai sy'n penderfynu dyfodol y casgliadau ddigon o gydymdeimlad tuag at hen lyfrau ynghyd 芒 digon o wybodaeth am y diwylliant printiedig? Mae gofyn i bawb sy'n coledd gwerthoedd dysg a ll锚n fod yn wyliadwrus yn y misoedd i ddod.

Gwyn Briwnant Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy