成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Lowri Walton Lowri'n ennill Ysgoloriaeth
Hydref 2005
Lowri Walton, dawnswraig o Benarth, ac sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr a enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.

Camp aruthrol yw cyrraedd y rownd derfynol heb s么n am gipio'r wobr o 拢4,000. Hi yw'r ieuengaf erioed i ennill yr ysgoloriaeth a hi hefyd oedd yr ieuengaf i gystadlu eleni.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni yn y Galeri yng Nghaernarfon, nos Wener yr 16 o Fedi, ac fe'i darlledwyd hefyd ar S4C y nos Sul canlynol. Cafodd nifer ohonom gyfle i gael cipolwg ar y dosbarthiadau meistr a gynhaliwyd gan arbenigwyr yn y gwahanol feysydd wedi i wyth o gystadleuwyr yr Urdd gyrraedd y rhestr fer, wrth i S4C eu darlledu yn ystod yr wythnos flaenorol. Lowri oedd yr unig ddawnswraig yn y gystadleuaeth ac roedd hi wedi ei synnu pan glywodd ei bod hi wedi ennill.

Dywedodd i'r profiad fod yn gwbl ffantastig a chymaint o fraint oedd hi i rannu llwyfan 芒 chantorion ac actorion mor dalentog. Cafodd y pleser o gwrdd a'r beirniaid oedd yn arbenigwyr yn eu meysydd ar y noson, oedd yn ei hannog i gamu'n hyderus i'r dyfodol.

Mynegodd Sh芒n Phillips fod proffesiynoldeb a thalent Lowri'n nodedig o ystyried ei hoedran. Pinacl arall i'r noson oedd derbyn galwad ff么n yn ei llongyfarch gan ei mam oedd ar ymweliad 芒 Tsieina ar y pryd.

Bu Lowri'n gyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bryn Onnen yng Ngwent cyn symud i Ysgol Gynradd Pen y Garth. Mae ar hyn o bryd yn astudio Drama, Saesneg a Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Plasmawr. Bu'n dawnsio ers yn 3 oed ac yn clocsio ers yn 8 oed yn y Meggitt Theatre School ym Mhenarth a Rhiwbeina. Huw Williams sydd wedi ei dysgu i glocsio ac mae'n aelod o ddawnswyr Nantgarw.

Hi sy'n cyfarwyddo ei dawnsfeydd ei hun, sy'n gyfuniad o ddawnsio traddodiadol Gymreig a dawnsio creadigol. Mae Lowri'n ddiolchgar iawn i Daniel Evans am ei gyngor gwych yn y dosbarthiadau meistr ac mae'n gobeithio y caiff gyfle i gydweithio gyda Daniel eto yn y dyfodol.

Wrth ofyn i Lowri sut y bydd yn defnyddio'r arian dywedodd y bydd yr arian yn hynod o werthfawr ar gyfer ff茂oedd, clyweliadau mewn prifysgolion a cholegau perfformio a gwersi arbenigol.

Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi eleni gyda'i hastudiaethau ac fel dawnswraig.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy