成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Castell Caerdydd UFO yng nghanol y ddinas
Gorffennaf 2006
Ar 么l misoedd o ddatblygu tu 么l i luniau a goleuadau a ffensys pren, datgelwyd y campwaith newydd o flaen castell Caerdydd.
Wrth gerdded dros bont Treganna, heibio i'r Stadiwm a gwesty'r Holiday Inn, daw'n amlwg bod rhywbeth wedi newid yn nhirlun y ddinas. Mae'r sgaffaldiau wedi'u tynnu i ddatgelu cloc tlws y castell unwaith yn rhagor, a rhywbeth digon tebyg i sgaffaldiau wedi ymddangos ar draws yr olygfa.

Mwya' sydyn, mae na rywbeth na ellir ond ei alw yn 'strwythur' yn rhwystro'r olygfa o'r hen waliau cerrig - yn stribedi modern o ddeunydd dienw coch, gwyn a du. Ac yn lle stribyn braf o borfa las i ymlacio ynddo rhyw amser cinio yn haul braf Mehefin - iawn, yn cuddio rhag y colomennod budur a'r gwylanod cecrus ac yn ceisio cyrraedd man uwchlaw bloeddio traffig canol y dre - bellach mae yna gyfleuster arloesol newydd ar hen slabyn mawr o goncrit llwyd lle gall ymwelwyr 芒'r ddinas hardd brynu tocynnau i'r castell a phob math o swfen卯rs o Gymru.

Dychmygwch yr holl drugareddau Cymreig y gallwch eu canfod yno - o lyfr ryseitiau o Gymru, i gemwaith, i deganau meddal ar ffurf paen a phlu y peunod eu hunain, i grysau-t gyda chart诺n o ddraig goch ifanc ("Am I cute or am I cute'?"). Wel, does yna unman arall yn yr ardal yn gwerthu trysorau o'r fath, nac oes?

Barn un fenyw, yw hyn, wrth gwrs, ac mae'n rhaid bod y sawl a'i dyluniwyd ac a'i comisiynwyd yn gweld gwerth mawr yn y strwythur. Ond dal fy anadl ydw i - mae na luniau a ffensys pren yn dal heb eu tynnu ymhellach ar hyd y waliau cerrig. Tybed pa wledd weledol a/neu fasnachol sy'n ein disgwyl y tu 么l iddyn nhw...

  • Gwefan Caerdydd ar Lleol


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy