成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Guto Rhys Roberts Pasport: Guto Rhys Roberts
Mawrth 2007
Guto Rhys Roberts, o gyffiniau Bangor sy'n cael ei holi'r mis yma yng ngholofn Pasport papur bro Y Dinesydd.

O ble rwyt ti'n dod yn wreiddiol?
Rhiwlas (ger Bangor).

Ym mha ran o Gaerdydd rwyt ti'n byw?
Grangetown.

Ers faint rwyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
Chwe blynedd a hanner

Beth fuest ti'n ei wneud cyn neu ar 么l symud yma?
Mynychais Ysgol Tryfan, Bangor, ble'r astudiais fy Lefel A cyn mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Peirianneg Integredig (cyfuniad o Beirianneg Mecanyddol, Trydanol, Electronig a Gwneuthur). Fel rhan o fy nghwrs roedd rhaid treulio fy nhrydedd flwyddyn gyda chwmni mewn diwydiant. Cefais bymtheg mis o brofiad gwerthfawr gyda Magellan Aerospace ym Mryste a gynigiodd swydd barhaol i mi wedi i mi raddio yn 2004. Cyn cychwyn y swydd treuliais ddau fis yn teithio yng Ngwlad Thai, Malaysia a Dwyrain Awstralia. Rwyf erbyn hyn wedi prynu t欧 yn Grangetown ac yn gyrru i'r gwaith ym Mryste bob dydd.

Ble rwyt ti'n gweithio erbyn hyn?
Rwy'n dal i weithio i Magellan Aerospace fel stress engineer. Am y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi bod yn arbenigo ym maes Fatigue & Damage Tolerance, sy'n golygu fy mod yn gyfrifol am sicrhau bod beth bynnag rydym yn ei ddylunio yn addas i wrthsefyll oes hedfan yr awyren.

Rydym yn gweithio ar sawl awyren wahanol, ond yr un fwyaf adnabyddus i mi weithio arni yw'r awyren ddeulawr, yr Airbus A380. Roeddem yn gyfrifol am ddylunio a gweithgynhyrchu rhan gymharol gymhleth o'r adain, sydd bellach yn yr awyr yn cael ei phrofi.

Beth rwyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Bwyta, chwarae gemau megis tennis, p锚l-droed 5 bob ochr, badminton a golff, gwylio 24, a bwyta mwy!

Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Fy nghariad, Hannah!

Ble mae'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Ar gyfer comedi mae'r Glee Club yn y Bae yn lot o hwyl tra bod Theatr y Sherman yn Cathays yn dda am berfformwyr mwy adnabyddus. Dw i'n tueddu i fynd i sinema Vue i wylio ffilmiau - mae'n agos i'r t欧, yn llai prysur ac mae ganddo sgriniau mwy na'r UGC.

Dwi'n ffan mawr o Pizza Express, ond am fwyd Eidalaidd traddodiadol dw i 'rioed wedi cael pryd gwael yn La Lupa yn Nhreganna na Lorenzas ar Heol Crwys. Er hynny, fy hoff fwyty yng Nghaerdydd yw Portos ar Heol Fair. Mae'r sgiwer o gig sy'n hongian o'r to yn cael ei gladdu bob tro!

I fynd allan ar y cwrw mae'r local, sef y Cornwall yn Grangetown, wastad yn lle da i gychwyn (bwyd da hefyd!). Dempseys yn ffefryn hefyd. Philharmonic yn dda ar nos Iau, fyny grisia yn O'Neills (newydd) ar nos Wener, ond rhaid mynychu'r City Arms cyn mynd i Glwb Ifor ar nos Sadwrn!

Ble rwyt ti'n hoffi mynd ar dy wyliau?
Dw i wedi cael gwyliau gyrru yn Ewrop amryw o weithiau gyda'r teulu. Ma'n si诺r mai'r Costa Brava yn Sbaen yw'r ardal ora i mi fod ar wylia gl芒n m么r, a Tuscany yn yr Eidal yw'r lle poethaf a mwyaf hanesyddol ddiddorol.

Fues i yn Zermatt yn y Swistir y gaeaf diwetha' i sg茂o. Lle gwych o ran eira a bywyd nos (os da chi heb flino gormod ar 么l diwrnod ar y llethrau!). Es i Sorrento yn yr Eidal gyda fy nghariad yn yr haf. Ardal brydferth boeth a llawer o hanes yn perthyn iddi (Pompeii, Amalfi ayb).

Rwy'n gobeithio mynd yn 么l i Wlad Thai rywbryd hefyd. Pobol hynod o gl锚n, llawn hwyl, a thraethau bendigedig. Y profiad gorau i mi ei gael dramor oedd yn Awstralia pan brynais i a dau ffrind camperfan a'i yrru i lawr yr arfordir dwyreiniol gan stopio i wersylla a gwneud amryw weithgareddau ar y ffordd. Ma' Gogledd America a Chanada wastad wedi apelio hefyd fel rhywle i ymweld 芒 nhw yn y dyfodol.

Y trip rygbi gorau i mi ei gael oedd i Baris yn 2005. Ar 么l tair noson a dau ddiwrnod o yfed caled, roeddwn yn ddigon lwcus i gael tocyn i'r g锚m yn Stade de France lle roeddwn yn eistedd yng nghanol criw o Ffrancwyr! Buddugoliaeth fvthgofiadwv i Gymru.

Petaet yn cael cyfle i wella rhywbeth yng Nghaerdydd, beth byddet ti'n ei wneud?
Rhoi stop ar bobol rhag cymryd drosodd tai bach y tafarndai gyda'u persawr rhad a'u papur sychu dwylo drudfawr. Pam ddylsa dyn orfod teimlo'n euog am beidio talu i olchi ei ddwylo?

Hoffwn weld mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg yn y ddinas hefyd. Buasai'n braf darllen arwyddion gyda'r Gymraeg yn brif iaith yn hytrach na'r Saesneg mewn siopau ar y stryd fawr. Buasai hynny'n dysgu ychydig o'r iaith i bobol heb iddynt orfod gwneud llawer o ymdrech.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy