成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Siop David Morgan Machlud breuddwydion David Morgan
Chwefror 2004
Dechreuodd David Morgan ar ei yrfa yn gweithio mewn siopau yn Rhymni a Chasnewydd, Llundain a Birmingham cyn cychwyn ei fusnes ei hun ym Mhontlottyn.

Lle digon marwaidd yw Pontlottyn heddiw ond yn ei ddyddiau ef, roedd fel cwch gwenyn o brysur a daeth ei siop ddillad ar sgw芒r Cwm Sh么n Mathew yn boblogaidd yn syth; mor boblogaidd nes iddo agor ail siop yn 1858.

Teimlai yn braf ei fyd yn 1868 pan briododd 芒 Margaret, merch o Bontlottyn. Yn anffodus, cafodd honno'i tharo 芒'r ddarfodedigaeth yn fuan wedi ei phriodas a bu farw yn 1870. Gellwch weld ei beddfaen yn ymyl y capel sydd ar y sgw芒r, dim ond ichi dorri ffordd trwy'r drysni sydd yno.

Bu marw Margaret yn ergyd drom i David ac aeth ati fel lladd nadredd i geisio anghofio am yr ergyd a gawsai. Prynodd bedair siop a dau ddwsin o fythynnod ym Mhontlottyn ac agor dwy siop ddillad yn Abertyleri rhwng 1875 ac 1879. Ond roedd yn weledydd craff a gwelai fod oes aur Pontlottyn yn dod i ben. Trodd ei olygon tua'r de a phrynu rhif 23, Yr Aes, siop fechan yng Nghaerdydd.

Bu'n llewyrchus, fel y gwyddom, ac ychwanegodd ati hi gyda'r blynyddoedd. Fe barhaodd yn llwyddiannus wedi ei farw yn 1919 ac mae sawl dinesydd wedi mwynhau oedi a hamddena yn y siop gartrefol hon.

Mae'n ddiddorol nodi ei bod yn nwylo'r un teulu o hyd, a disgynnydd, Mr John Morgan, sydd bellach wrth y llyw.

Ond mae'r rhod wedi troi. Erbyn heddiw, mae dyddiau'r siop deuluol yn dod i ben ac mae cymylau yn crynhoi uwch ei phen. Pan dduant, a phan ddaw'r adeg i gau'r drysau, os y daw, gallwn i gyd ddweud, "Bydd y golled ar ei h么l yn fawr."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy