成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Juliet Hodgkiss, garddwraig hanesyddol cadwrol Amgueddfa Werin Cymru a phrif geidwad yr ardd Eidalaidd Orig dan haul y M么r Canoldir - heb adael Caerdydd
Gorffennaf 2003
Yr Ardd Eidalaidd, Amgueddfa Werin Cymru
Am drigain mlynedd bu'r ardd Eidalaidd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn ddiffeithwch, ond fe'i hadferwyd i'w gogoniant cynhenid a'i hagor i'r cyhoedd ym mis Mai eleni. Ar un wedd mae hi'n anghydnaws mewn sefydliad sy'n gynheiliad diwylliant gwerin, ond mae hi'n ychwanegiad diddorol i'r lle ac yn enghraifft o steil wahanol mewn cynllunio gardd.

Mae'r ardd ar gyrion y safle ac fe gymer ddeng munud dda i chi gerdded yno o'r brif fynedfa ond gallwch fynd ar y tr锚n bach hyd at ychydig lathenni o'r drws. Ie, drws pren yn y wal yw'r fynedfa i'r ardd ac unwaith y codwch chi'r gliced allwch chi ddim llai na sylwi ar y nodweddion hynny sy'n amlwg mewn gerddi Eidalaidd - y llwybrau carreg llydan, llinellau sythion ac onglau sgw芒r, grisiau llydan glaswelltog, terasau, pwll dwr hirsgwar enfawr, potiau mawrion a borderi llawnion. Hyn i gyd oddi mewn i furiau carreg uchel. Ac, wrth gwrs, y lliwiau glas, melyn gwan ac arian.

Nid llecyn i ruthro drwyddo yw hwn ond hafan fach lle gallwch chi ymlacio ac ymdawelu yn swn y chwe phistyll sy'n goferu i ddwr y pwll. Yn yr Eidal fe allech chi fod yn weddol siwr o gael awyr las ddigwmwl uwchben a'r haul yn fathru wyneb y dwr yn y pwll, a thrwy lwc dyna fel yr oedd hi pan drois i mewn ryw fore Sadwrn ac eistedd ar un o'r amryw feinciau sy'n eich cymell i oedi yng nghysgod y wal.

Ar 么l y cyfnod o ddadwreiddio'r coed oedd wedi ymgordeddu drwy'r llwybrau a'r cerrig, clirio'r llanast, ail bwyntio'r waliau a rendr calch, ailadeiladu'r grisiau, gosod y cerrig ar hyd y llwybrau, tacluso'r pwll, ail-greu'r lawntiau a'u hadu a threfnu'r borderi o'u deutu ... fe ddaeth y dasg o blannu. Wedi'r cwbl, dyw'r blodau sy'n ffynnu mewn pridd sych a s芒l gyda'i ddraeniad da dan haul crasboeth ddim yn mynd i fod yn gysurus iawn yn ein tywydd cyfnewidiol ni a'r pridd cyfoethog, llaith, sy'n cymell deiliach yn hytrach na blodau. Ond fe roddwyd cynnig arni, gan gadw at y tri lliw - glas, hufen ac arian.

Roedd blodau Traed yr Ehedydd (Delphinium) a'r Clychlys (Campanula) yno yn eu holl ogoniant; y Lafant hefyd, Mintys y Gath a'r Ysgallen Ganpen (Eryngium) ... ac yna'r blodau lliw hufen - y Sisyrinchum gyda'i ddail llwydlas fel cleddyfau a'r spigau o flodau fel rhesi o utgyrn bach. Yn isel wrth eu traed roedd carped o Fynawyd y Bugail, Johnson's Blue, a dail Clust yr Oen yn glustogau melfedaidd lliw arian.

Blodau i greu effaith ddramatig yw'r Yucca a Lili'r Affrig (Agapanthus) ac fe fydd yn olygfa werth ei gweld dros yr wythnosau nesaf pan fydd y rhain yn blodeuo yn eu tybiau.Synnais weld mai dim ond ugain modfedd sgw芒r yw maint y potiau "Versailles" lle plannwyd y coed orennau. Mae'n rhaid eu bod yn cael eu hailblannu a'u tocio pan symudir nhw dan do cyn y gaeaf, ond maen nhw'n rhoi uchder i'r patrwm o fewn yr ardd ac yn addurniadol. O s么n am greu uchder, fe gymer rai blynyddoedd cyn i'r rhosod-dringo guddio'r waliau. Gosodwyd y gwifrau i'w cynnal eisoes ac mae ambell rosyn wedi ei blannu. Ond rhaid dod o hyd i'r union fath o rosynnau a dyfwyd yn wreiddiol, a'u lluosogi drwy gymryd toriadau.

Yng ngwres yr haul fe ges i fy nhemtio i eistedd ar lintel lydan gynnes y pwll a throchi 'nhraed. Ond, dyw Ledis ddim gwneud hynny !

Ar un adeg fe fu'n fwriad i geisio cynhesu'r 16,000 galwyn ddwr er mwyn i'r plant gael chwarae ynddo ond byddain brosiect rhy gostus. Yn lle hynny, plannwyd Lili Ddwr a Gelet (Iris) hyd ei ymylon.

Roedd arysgrif ar y fainc lle'r eisteddwn "I goffau Hugh Pettigrew (1871-1947) a'i fab Andrew (1912-1994) a fun gweithio a chwarae yn yr ardd." Pettigrew oedd y pen-garddwr a gynlluniodd yr ardd wreiddiol ar droad y ganrif ddiwethaf i feistres, y Fonesig Windsor, Iarlles Plymouth. Yn Rhufain y maged hi, lle roedd ei thad yn Llysgennad Prydeinig, a dyna sut yr ymserchodd hi yn yr arddull frodorol o gynllunio gerddi.

Wrth godi 'ngolygon mi welwn i do gwellt y Certws tu hwnt wal yr ardd ... a dyna fi'n 么l yng Nghymru ar 么l orig dan haul y M么r Canoldir.

D. Rhiannon Evans


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy