成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Dinesydd
Tiwlips Tips y Tiwlips
Tachwedd 2002
I lawer ohonoch mae'r tymor garddio yn dirwyn i ben, a byddwch yn edrych ymlaen i roi'r peiriant torri gwair a'r teclynau eraill yn y sied am ychydig. Ond cyn gwneud hynny, cofiwch os ydych am wledd o liw yn y gwanwyn, nawr yw'r amser i blannu bylbiau o bob math.
Hydref a Thachwedd yw'r amser delfiydol i blannu bylbiau tiwlip. Mae'r canolfannau garddio yn llawn o bob math ohonynt - digon i'ch drysu yn wir. Gallwch gael rhai byr neu rai tal, rhai'n blodeuo ym mis Mawrth neu ym mis Mai, sengl neu ddwbl, un pen neu sawl pen i bob coes, a bron pob lliw dan haul hefyd. Felly, ble mae dechrau?

Mae rhai yn gweld tiwlips fel blodau i'r parciau cyhoeddus yn unig, wedi eu plannu mewn gwelyau ffurfiol gyda nad-芒n-angof neu flodau mam-gu, ond gyda'r holl amrywiaeth sydd i'w gael a gydag ychydig o ddychymyg gallant fod yn rhan o'r border bach hefyd.

Un o'r cynharaf i flodeuo a brynaf yw'r math 'Fusilier' sydd 芒 sawl pen lliw sgarled ar bob coesyn ac felly yn creu golwg mwy anffurfiol.

Un coch arall yw 'Red Riding Hood' sydd ychydig yn dalach ac yn blodeuo ym mis Ebrill. Mae ganddo ddail dau liw sy'n ychwanegu at y diddordeb. Mae'r tiwlips byr yma yn dda mewn potiau ac yn gwrthsefyll tywydd gwyntog.

Ar gyfer y border, gallwch gael dilyniant o flodau pob lliw o Ebrill ymlaen, e.e. 'Purissima' (gwyn, sengl), 'Monte Carlo' (melyn dwbl), 'Apricot Beauty' ('peach sengl), 'Peer Gynt' (pinc, sengl), 'Blue Diamond' (porffor, dwbl), 'Black Swan' (lliw cwrens duon, sengl), 'Valentine' (pinc a gwyn), 'Shirley' (porffor a gwyn).

Yna, mae'r mathau mwy diweddar fel y 'parrot tulips' sydd 芒 phetalau ag ymyl fel plu aderyn ac yn gallu bod mewn lliwiau llachar. Ond gwell gen i'r math o lili sy'n fwy gosgeiddig gyda'i ganol main fel 'West Point' (melyn) a 'Maytime' (porffor).

Beth bynnag fydd eich dewis, prynwch y bylbiau mwyaf eu maint, fe fyddan nhw yn werth y gost ychwanegol. Gwnewch yn siwr eu bod nhw yn iach a phlannwch nhw'n ddwfn, o leiaf chwe modfedd o ddyfnder.

Un rhybudd arall - gochelwch y gwiwerod! Maen nhw'n hoff o'r bylbiau hefyd, ac fe wnan nhw eu bwyta o dan eich trwyn, felly rhowch rwyd drost y blodau i'w diogelu.

Os nad ydych yn siwr pa un yw'r lle gorau i'w plannu, rhowch nhw mewn potiau plastig ac yna pan fyddan nhw yn eu blodau, gallwch eu suddo yn y border fel y bo'r galw.

Gan Hwn a Hon


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy